Wednesday, February 29, 2012
Tuesday, February 28, 2012
Y BBC ac ymddiswyddiad Chris Hughes o Lais Gwynedd
Ag ystyried cymaint wnaeth ystafell newyddion y Bib o'r ffaith i Chris Hughes guro Dafydd Iwan yn etholiadau Cyngor Sir Gwynedd yn 2008, mi fyddai rhywun yn rhyw feddwl y byddai ymadawiad Chris a Llais Gwynedd am Blaid Cymru o rhywfaint o ddiddordeb iddynt - yn arbennig cyd mai Chris ydi'r pedwerydd cynghorydd Ll G i ymddiswyddo ers 2008.
Ond mi fyddai rhywun yn meddwl yn anghywir. A barnu oddi wrth wefan y Bib a Wales Today 'dydi'r mater o ddim diddordeb o gwbl - a pha ryfedd pan mae yna straeon go iawn fel, yr un am rali'r Ceidwadwyr ddiwedd mis nesaf neu'r un sy'n dweud rhywbeth neu'i gilydd am ffenestri i son amdanynt.

Datganiad i'r wasg ynglyn a'r Cynghorydd Chris Hughes
Datganiad i’r Wasg / Press Release (Gan Blaid Cymru)
28 Chwefror 2012
Cynghorydd yn ymuno â Phlaid Cymru
Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi croesawu aelod newydd i’w plith sef y Cynghorydd Chris Hughes, yr aelod sy’n cynrychioli Bontnewydd ger Caernarfon.
Etholwyd y Cynghorydd Hughes fel Cynghorydd Llais Gwynedd yn yr etholiad diwethaf ond bydd nawr yn ymuno â Phlaid Cymru. Bydd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid ar gyfer Bontnewydd yn etholiadau lleol Cyngor Gwynedd ar Fai’r 3ydd.
"Mae fy nheulu a minnau wastad wedi bod yn gefnogwyr brwd i’r Blaid yn genedlaethol,” esboniodd y Cynghorydd Hughes. ''Roedd amgylchiadau penodol yn yr etholiad diwethaf – sef y sefyllfa o ran ad-drefnu ysgolion cynradd - lle roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig i wneud safiad. Mae'r amgylchiadau bellach wedi newid.
“Gyda phrofiad o bedair blynedd ar Gyngor Gwynedd, a chyda phenderfyniadau ariannol anodd wedi eu gwneud a mwy i ddod, dwi’n credu’n gryf y bydd fy agwedd bwyllog a’m gonestrwydd tuag at wleidyddiaeth leol, yn fodd i mi wrth gynorthwyo i lywio Plaid Cymru, ein prif blaid genedlaethol, yn ei blaen er lles pobl Gwynedd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes: ''Rydym mewn cyfnod heriol, cyfnod sy’n galw am arweinyddiaeth a gweledigaeth gan fod yn uchelgeisiol er mwyn cyflawni ar ran pobl Gwynedd. Dwi’n hapus y gallaf wneud y cyfraniad hwn orau gyda Phlaid Cymru yng Ngwynedd."
Wrth groesawu Chris Hughes i Grŵp y Blaid, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd Y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Rwyf wedi cydnabod droeon bod Chris yn gynghorydd aeddfed a meddylgar sydd wedi rhoi o’i orau dros bobl Bontnewydd dros y bedair blynedd ddiwethaf. Gwn ei fod wedi ystyried yn ddwys cyn troi i fod yn aelod o Blaid Cymru ac rwy’n parchu'r ffordd y mae wedi gwneud y penderfyniad hwn. Gwn y bydd yn gwneud cyfraniad rhagorol i grŵp Plaid ar Gyngor Gwynedd ac y bydd yn cydweithio fel rhan o Dîm Gwynedd. Mae Tîm Gwynedd Plaid Cymru yn uchelgeisiol ac yn flaengar, a’n prif flaenoriaeth yw cynrychioli ein trigolion hyd eithaf ein gallu o fewn y sir arbennig hon."
Dywedodd Cadeirydd Cangen Plaid Cymru Bontnewydd Dafydd Iwan: "Rwy’n hynod o falch o weld Chris yn ymuno â Phlaid Cymru. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd yn Bontnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi wedi dod yn amlwg, serch digwyddiadau 2008, ein bod wedi gweithio’n llwyddiannus law yn llaw wrth ymwneud â materion Cyngor Cymuned a chreu gŵyl 'Hwyl y Bont’."
Yn ôl Cynghorydd Cymuned Iwan: "Mae wedi cael cefnogaeth aelodau Plaid Cymru yn Bontnewydd ac rydym yn edrych ymlaen at ymgyrchu gydag ef yn yr etholiad lleol.”
- diwedd –

Sunday, February 26, 2012
Friday, February 24, 2012
Pam bod fy mhleidlais gyntaf yn mynd i Leanne
I Leanne y bydd fy mhleidlais gyntaf yn mynd, bydd yr ail yn mynd i Elin a'r drydydd i Dafydd. 'Dwi'n gobeithio y bydd y sawl yn eich plith sydd efo'r hawl i bleidleisio yn gwneud yr un peth.
Cyn egluro pam, hoffwn roi ambell i fater yn ei wely. Mae'r tri ymgeisydd gyda'u cryfderau, a byddai pob un o'r tri yn arwain y Blaid yn y Cynulliad i safon sydd o leiaf cystal a'r hyn a geir gan arweinwyr y pleidiau unoliaethol. Mae'n fater o ofid i mi bod rhai pleidwyr wedi awgrymu i'r gwrthwyneb, a bod peth drwgdeimlad personol wedi ymddangos ymhlith rhai o gefnogwyr yr ymgeiswyr. Mi fydd rhaid i ni i gyd dynnu efo'n gilydd o dan un arweinydd ar ol Mawrth 15 - cystal i ni gofio hynny rwan.
O ran yr hystings - neu rhai Caernarfon o leiaf - perfformiodd y tri yn dda. Petai rhaid i mi wahaniaethu byddwn yn dweud bod gwell gafael gan Elin a Dafydd ar fanylion wrth ateb y cwestiynau, ond bod araith Leanne yn well i'r graddau ei bod yn fwy teimladwy, a bod ymdeimlad mwy angerddol iddi oherwydd hynny.
Am resymau sy'n ymwneud a lleoliad gwleidyddol y Blaid a'r cyfeiriad mae'n rhaid iddi symud 'dwi wedi gwneud fy newis.
Fydd o ddim o syndod i ddarllenwyr rheolaidd y blog hwn mai Dafydd fydd yn cael y drydydd bleidlais gen i. 'Does gen i ddim oll yn erbyn Dafydd yn bersonol - a dweud y gwir 'dwi'n ddigon hoff ohono, ond mae gen i ofn ei fod yn cynrychioli rhai o'r elfennau hynny sydd bellach yn dal y Blaid yn ol. Yn y gorffennol pan mai datganoli oedd nod tymor byr y Blaid, roedd dyn yn gallu gweld pam roedd yn dderbyniol i fod ychydig yn amwys ynglyn ag annibyniaeth a gwerthoedd creiddiol cenedlaetholdeb. Annibyniaeth oedd y bwgan mawr a ddefnyddid gan wrth ddatganolwyr i golbio datganoli. Mae'r tirwedd gwleidyddol yng Nghymru bellach wedi ei drawsnewid, mae'r pleidiau unoliaethol bellach yn ddatganolwyr, ac mae nhw i gyd wedi mynd yn fwy cenedlaetholgar. 'Dydi'r Blaid ddim wedi addasu yn yr un ffordd, ac o ganlyniad mae wedi colli llawer o'i heglurder ac mae ei phroffeil wedi cymylu a phylu.
Yr unig ffordd y gall y Blaid symud bellach ydi tuag at genedlaetholdeb cliriach, di amwys a di ymddiheuriad. Yn anffodus mae Dafydd yn cynrychioli'r genedlaetholdeb nuenced oedd efo'i defnydd yn y gorffennol, ond sydd bellach yn llesteirio'r Blaid. Nid mater o oed ydi'r peth o gwbl - mater o ymagweddau gwaelodol. Fel 'dwi'n 'sgwennu'r darn yma mae gan Dafydd eirda gan Gwilym Owen ar ei wefan yn ei ganmol am ei wrthwynebiad i annibyniaeth - ac hynny er ei fod bellach yn portreadu ei hun fel cefnogwr brwd i'r cysyniad hwnnw. Byddai geirda o'r fath yn codi cyfog ar wir genedlaetholwr.
Mae gwleidyddiaeth sylfaenol Elin fwy neu lai ymhle y dylai fod o safbwynt lleoli'r Blaid yn briodol. Problem Elin yn anffodus ydi ei delwedd gyhoeddus. Mae yna ganfyddiad - rhagfarn hyd yn oed - tros lawer o Gymru mai rhywbeth egsotig, gorllewinol sy'n rhywbeth i'w wneud efo ffarmio a sydd ar gyfer Cymry Cymraeg ydi'r Blaid. Mae'n ddelwedd sobor o anheg, ond mae'n un sy'n anodd iawn i'w symud. Gwaetha'r modd mae Elin yn ymgorfforiad o'r ddelwedd yma. Mae'n ddigon posibl y gallai newid hynny, ond mae'r ffaith iddi fynegi gobaith y bydd Simon Thomas - gwleidydd arall sy'n cael ei gysylltu efo Ceredigion ym meddyliau'r rhan fwyaf ohonom - yn ddirprwy, yn awgrymu nad ydi hi hyd yn oed yn gweld bod yna broblem. Mi fyddai Elin yn ein gosod ar y man cywir ar y tirwedd gwleidyddol, ond byddai yn minimeiddio'r nifer o bobl fyddai eisiau dod efo ni i'r fan honno.
A daw hyn a ni at Leanne. 'Dwi'n derbyn y byddai yna risg o'i dewis - mae ganddi lai o brofiad o lawer na'r ddau arall. Ond i mi mae'r risg yn llawer is na fyddai dewis arweinydd sydd am ein clymu i amwysterau a chyfaddawdu syniadaethol y gorffennol, neu ddewis un sydd ddim am apelio at drwch poblogaeth y wlad. Mae Leanne yn genedlaetholwraig di gyfaddawd, ac mae llawer o'r brwdfrydedd (a'r aelodau newydd) sydd wedi ymddangos yn ddiweddar i gymryd lle'r iselder a ddilynodd etholiadau'r Cynulliad, yn ganlyniad i ymgeisyddiaeth Leanne.
Canlyniad ydi'r brwdfrydedd hwnnw i ganfyddiad - ymwybodol neu is ymwybodol - bod yr amser wedi dod i'r Blaid dorri'n glir oddi wrth y gorffennol agos ac agor pennod cwbl newydd. Mae'r ffaith bod Leanne yn berson sy'n gallu ysbrydoli a sydd yn debygol o apelio at amrediad eang o bobl yng Nghymru yn rhoi cyfle arbennig i agor y bennod honno gyda phob gobaith y byddwn yn cyrraedd ei diwedd - fel plaid a gwlad - mewn lle llawer gwell nag yr ydym ynddo ar hyn o bryd.
Dyna pam y byddaf i yn rhoi fy mhleidlais gyntaf i Leanne - a dyna pam rwyf yn mawr obeithio y gwnewch chithau hefyd.
Ymlaen!

Wednesday, February 22, 2012
'Damcaniaethu' aelod seneddol Aberconwy - y ffeithiau
Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol o ffrae fach ddiweddar chwerw braidd rhyngddof i a Guto Bebb - sefyllfa sy'n codi ar Flogmenai o bryd i'w gilydd.
Asgwrn y gynnen y tro hwn oedd 'damcaniaeth' Guto bod dosbarth gweithiol trefol ardal Caernarfon yn troi at y Saesneg ogerwydd eu bod nhw (fel Guto ei hun) yn drwg licio'r dosbarth canol Cymraeg ei iaith yn yr ardal.
Rwan mae'r 'canfyddiad' yma yn un rhyfedd i'r rhai ohonom sy'n byw yn yr ardal, er bod cyhuddiad o ladd y Gymraeg yn ffitio yn weddol dwt efo tueddiad Guto i feio'r dosbarth proffesiynol Cymraeg ei iaith am bob dim (bygro'r economi, cefnogi Castro, cefnogi'r IRA, ennill medal aur ym mhencampwriaethau rhagrith y Byd ac ati). Dydi Guto ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth ystadegol tros ei haeriadau, ond mae'n awgrymu ei fod yn treulio cryn dipyn o amser yn clustfeinio ar bobl ym Morrisons, a seilio ei ganfyddiadau ar hynny. Mae hyn yn anffodus - mae digon o ddata ar gael - yn arbennig i rhywun sydd mewn sefyllfa i gefnogi ymchwilydd. A data ydi'r man cychwyn gorau os ydym eisiau dod i gasgliadau ynglyn a thueddiadau cymdeithasol.
Y llinyn mesur gorau sydd gennym o pa mor hyfyw ydi iaith mewn ardal ydi faint o bobl sy'n siarad Cymraeg ar yr aelwyd . Pan mae'r corff arolygu ESTYN yn arolygu ysgolion, mae'n gosod cyd destun i'r ysgolion hynny, ac ymhlith y data a gyflwynir i'r pwrpas hwnnw ceir manylion ynglyn a'r iaith mae'r plant yn siarad yn y cartref. Rhestraf isod y data diweddaraf ar gyfer ysgolion Caernarfon a'r pentrefi sy'n ffinio efo'r dref. Mae gen i broblem dechnegol sy'n fy atal rhag cyflwyno'r data ar ffurf tabl yn ol fy arfer.
Tref: Maesincla (270 o blant) 74%. Hendre (333) 90%, Santes Helen (77) 60%*, Y Gelli (183) 89%.
Pentrefi ffiniol: Y Bontnewydd (163) 79%, Llanrug (221) 95%, Bethel (143) 82%, Y Felinheli (150) 70%.
Dyliwn nodi yma nad ydi adroddiad Santes Helen yn rhoi union ganran, ond mae'n nodi bod 'mwyafrif' y plant yn siarad Cymraeg. 60% oedd y ffigwr yn yr adroddiad blaenorol. Mae 20% o blant yr ysgol honno o gefndir lleafrifol ethnig.
Rwan mae'r ffigyrau hyn yn uchel iawn, yn arbennig o'u cymharu ag ardaloedd mewn rhannau eraill o'r wlad oedd genhedlaeth neu ddwy yn ol bron mor Gymraeg o ran iaith ag ardal Caernarfon. Cymerer Dwyrain Sir Gar er enghraifft - ardal sydd a dosbarth canol Cymraeg ei iaith llawer llai nag un ochrau G'narfon, ond sydd a dosbarth gweithiol mawr. Mae'r canrannau sy'n siarad Cymraeg adref yno wedi syrthio fel carreg. Yn wir mae llawer o'r ysgolion yno wedi gweld eu canrannau yn hanneru ers yr adroddiadau diwethaf (chwe mlynedd ynghynt). Ymhellach mae pentrefi oedd ugain mlynedd yn ol ymysg y Cymreiciaf yng Nghymru o ran iaith, bellach gyda phumed neu lai o'u plant yn siarad y Gymraeg ar yr aelwyd.
Mae'n wir bod cwymp wedi bod yng nghanrannau rhai o'r ysgolion yn ardal Caernarfon ers yr arolygiadau blaenorol - cwymp bach ym Maesincla ac un mwy yn Y Bontnewydd er enghraifft. Ond mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion wedi dal eu tir neu wedi gweld cynnydd - a chynnydd eithaf sylweddol mewn ambell i achos.
Petai damcaniaeth Guto yn gywir byddai dyn yn disgwyl i'r ganran sy'n siarad Cymraeg adref syrthio yng Nghaernarfon a Llanrug, ond dal ei dir yng Nghefneithin, Y Tymbl neu Bontyberem. Ond y gwrthwyneb sy'n wir. Mae'n arwyddocaol hefyd bod addysg Gymraeg yn tyfu yn gyflym iawn mewn ardaloedd dosbarth gweithiol yng Nghaerdydd - dinas sydd efo llawer o siaradwyr Cymraeg dosbarth canol.
Felly does yna ddim sail ystadegol i 'ddamcaniaeth' Guto, sy'n codi'r cwestiwn - beth ydi'r sail iddi?

Monday, February 20, 2012
Hystings y Blaid - Caernarfon
Roedd tua tri chant a thri deg yn yr hystings ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid yng Theatr Seilo, Caernarfon heno.
Mae hyn tua 318 yn fwy na ddaeth i hystings y Toriaid yn Aberystwyth pan roedd Twidl Dym yn ymgodymu'n frwd efo Twidl Di yn eu gornest arweinyddol nhw. Twidl Dym enillodd honno _ _ _ neu Twidl Di - 'dwi ddim yn cofio'n iawn. Er gwaetha'r siom honno, o leiaf 'does dim rhaid i Twidl Dym na Thwidl Di annerch eu cynhadledd wanwyn eleni oherwydd ei iddi gael ei chanslo am nad oedd neb eisiau mynd i Landudno i wrnado arnyn nhw'n rwdlan.
Ta waeth, 'dwi'n crwydro - roedd y tri ymgeisydd yn gaboledig a hyderus heno, a rydym yn ffodus i gael dewis mor anodd ger ein bron. Byddaf yn amlwg yn dod yn ol at hyn, ond mae'r nifer a ddaeth allan ar nos Lun yn y gaeaf yn awgrymu bod teimlad ar led bod yr etholiad yn un arwyddocaol i ddyfodol y Blaid - ac yn wir y wlad.

Sunday, February 19, 2012
Gwlad Groeg
Nid blog gwyliau ydi Blogmenai wrth gwrs, ond gan fy mod wedi bod yn Athen a bod y ddinas honno wedi bod yn y newyddion am resymau gwleidyddol, mae'n debyg y dyliwn 'sgwennu rhyw bwt am y lle - yn arbennig a minnau wedi addo cadw golwg ar bethau i chi.
Yn sylfaenol yr hyn sydd wedi digwydd ydi bod pawb - fwy neu lai - wedi bod yn ymgyfoethogi am gyfnod o flynyddoedd, ond ei bod wedi dod yn amlwg mai simsan eithriadol oedd sail y cyfoeth hwnnw a bod y broses ymgyfoethogi wedi troi 180 gradd a mynd yn ol yn gyflym iawn.
Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn drawiadol iawn - degau o filoedd o fusnesau teuluol yn methu, dirwasgiad parhaol (crebachodd yr economi 7% yn y tri mis i Rhagfyr y llynedd), 180,000 o swyddi sector cyhoeddus yn cael eu torri (cyfystyr ag 800,000 ym Mhrydain), toriadau twfn ac eang i'r wladwriaeth les a thoriadau o 22% yn yr isafswm cyflog.
Ar un olwg, cymharol fach oedd yr effaith amlwg. Roedd y bariau a chaffis o dan eu sang ar Ddydd Iau Tew, doedd yna ddim mwy o bobl yn cysgu ar y stryd neu'n cardota nag a geir mewn dinasoedd mawr eraill, roedd y marchnadoedd cig, ffrwythau a physgod yn lloerig o brysur.
Ond roedd yna hefyd arwyddion o'r hyn sydd wedi digwydd - roedd stryd hir o dai bwyta gyda phob un yn wag ag eithrio un oedd yn llawn at yr ymylon. Awgryma hyn bod pobl yn ofalus iawn lle'r oeddynt yn bwyta. Ceid sel a sel sylweddol ym mron i pob siop yng nghanol y ddinas, ciwiau sylweddol o bobl wrth lefydd dosbarthu bwyd am ddim, prisiau gwestai rhyfeddol o rhad a gwahaniaethau syfrdanol rhwng pris diod yn y canol (lle mae'r farchnad yn un dwristaidd) ac ychydig o'r canol (lle mae'r farchnad yn lleol).
Roedd yna hefyd arwyddion o, ahem, ddigwyddiadau diweddar - presenoldeb heddlu sylweddol ar y sgwariau cyhoeddus yng nghanol y ddinas - yn arbennig o gwmpas y senedd, man wrthdystiadau yma ac acw, graffiti yn cefnogi pleidiau'r Dde a Chwith eithafol ar y waliau, llawer o'r banciau a'r peiriannau pres wedi eu niweidio neu'i difa.

Pob siop efo sel

Y cerflun i gofio'r rhai a fu farw yn ymladd yr unbeniaeth milwrol yn 1973 wedi ei anharddu - gan rhywun o'r Dde eithafol o bosibl
Graffiti a ballu
Roedd yna hefyd arwyddion o, ahem, ddigwyddiadau diweddar - presenoldeb heddlu sylweddol ar y sgwariau cyhoeddus yng nghanol y ddinas - yn arbennig o gwmpas y senedd, man wrthdystiadau yma ac acw, graffiti yn cefnogi pleidiau'r Dde a Chwith eithafol ar y waliau, llawer o'r banciau a'r peiriannau pres wedi eu niweidio neu'i difa.
ATMs a banciau wedi cael amser caled
Diolch i Peter _ _ _
_ _ _ am gadarnhau nad oes gan Llafur unrhyw broblem egwyddorol mewn clymbleidio efo'r Toriaid.
'Dwi'n siwr y bydd rhywun yn ei atgoffa y tro nesaf y bydd yn mynd trwy'r mantra Vote Plaid, Get Tory.

Tria gadw i fyny William!
Felly mae William Hague yn poeni am ras arfau niwclear yn y Dwyrain Canol.
Mae gen i ofn bod Wil braidd yn hwyr ar y stori yma. Mi gychwynodd y ras arbennig honno pan ddechreuodd Israel chwilio am danwydd niwclear, yn syth fwy neu lai wedi ei sefydlu. Aeth yn waeth wedi i Israel ddatblygu bomiau niwclear yn niwedd y 60au, ac roedd ras ehangach yn anhepgor pan ddatgelwyd manylion y cynllun arfau niwclear yn 1986 gan Mordechai Vanunu. Cafodd hwnnw ddeunaw mlynedd o garchar am ei drafferth.

Friday, February 17, 2012
Ac areithiau Rhys a Simon
Mi wnes i fwynhau areithiau Rhys Iorwerth a Simon Brooks ar yr iaith Gymraeg. Mae yna gryn dipyn yn y ddwy araith - gormod i wneud cyfiawnder a nhw ar hyn o bryd. Serch hynny mi hoffwn gyfeirio yn frysiog at thema sydd i'r ddwy araith, sef daearyddiaeth newydd y Gymraeg.
Mae Rhys a Simon yn cyfeirio at dwf y Gymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru ac yn croesawu'r datblygiad hwnnw. Mae'n debyg bod yna gyd destun ehangach i'r ffaith bod y ddau'n teimlo'r angen i wneud hynny - sef hen feddylfryd bod y Gymraeg yn 'perthyn' i'r rhan o'r wlad a adwaenir fel 'y Fro Gymraeg', a bod llai o werth i'r Gymraeg y tu allan i'r diriogaeth honno.
Er fy mod yn rhyw gytuno efo Simon bod dadl tros rhai polisiau gwahanol yn y Fro, 'dwi hefyd yn credu bod sylw Rhys bod yr hyn mae pobl yn ei wneud efo'u Cymraeg yn bwysicach na'u hunion leoliad daearyddol. Mae bod mor gynhwysol a phosibl yn bwysig, 'dydi creu dosbarthiadau gwahanol o Gymry Cymraeg ddim yn syniad da. Un o'r prif ffactorau a arweiniodd at ddirywiad y Gymraeg mewn rhannau sylweddol o Gymru yn y gorffennol oedd y ffaith ei bod yn cael ei chysylltu efo tlodi, neu yn hytrach efo grwpiau ag iddynt statws isel o safbwynt sosioeconomaidd. Roedd pobl yn peidio a throsglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf oherwydd ofn y byddai gwneud hynny o anfantais economaidd. Ni ein hunain ac nid mewnfudo laddodd yr iaith mewn rhannau sylweddol o Gymru. Newid mewn canfyddiad o statws y Gymraeg sydd y tu cefn i'r twf rhyfeddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
A dyna pam ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr ardaloedd o Gymru sy'n tyfu yn economaidd, dyna pam bod dosbarth canol dinesig Cymraeg ei iaith yn bwysig, a dyna pam bod dosbarth proffesiynol Cymraeg yn bwysig ledled Cymru.
Dyna hefyd pam bod y sylwadau hyn o araith Guto Bebb mor bisar o amherthnasol: nid syndod gweld patrwm 'ni nhw' yn datblygu yn y dref (Caernarfon). Y cam nesaf fydd cadarnhau'r gwahaniaeth ar sail ieithyddol. Mewn geiriau eraill mae'n ymddangos ei fod yn credu bod datblygiad dosbarth proffesiynol Cymraeg ei iaith am wneud i'r dosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith ddweud 'I don't like them lot, I'll never speak Welsh again'
Mae'n anodd meddwl am unrhyw gred sydd a mwy o botensial i niweidio'r iaith.

Wednesday, February 15, 2012
Araith Mr Bebb
Fel 'dwi wedi son eisoes 'dwi i ffwrdd ar hyn o bryd, ac mae fy mynediad i gyfrifiadur yn gyfyng braidd, ond mi hoffwn i wneud sylw neu ddau brysiog am ddarlith radio fy nghymydog Guto Bebb.
A bod yn ddigon digywilydd i grisialu'r hyn sydd gan Guto i'w ddweud i ychydig eiriau craidd ei ddadl mewn gwirionedd ydi bod llwyddiant y mudiad hawliau iaith wedi bod yn lwyddiant anghytbwys sydd wedi gwthio llawer o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y sector cyhoeddus, a bod yna beryglon sylweddol i'r iaith yn deillio o hynny.
'Dydw i ddim yn anghytuno efo'r dadansoddiad ar un lefel, ond mi'r ydw i'n cael problem efo rhannau sylweddol ohoni ar lefel arall. Nid yn y Gymru Gymraeg yn unig mae'r sector cyhoeddus wedi tyfu wrth gwrs, mae wedi tyfu ar draws y wlad ac mewn nifer fawr o ardaloedd di Gymraeg, yn arbennig felly ar yr hen faes glo. Canlyniad patrwm ehangach tros y DU ydi hyn yn rhannol, ond mae hefyd yn ganlyniad i wendid y sector preifat yn yr ardaloedd dan sylw.
Mae yna resymau strwythurol da tros y gwendid yma - does yna ddim llawer o gymhelliad yn y sefyllfa sydd ohoni i fuddsoddi yn y sector cynhyrchu (er enghraifft) mewn ardaloedd sydd ymhell oddi wrth y marchnadoedd mawr? Pam cynhyrchu gwely neu deledu ym Merthyr neu ym Mhwllheli pan y gallwch wneud hynny ym Mirmingham?
Ac eto, os safwch wrth yr A55 yn fuan wedi i long fferi ddadlwytho mi welwch lori ar ol lori yn symud nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu ymhell, bell oddi wrth farchnadoedd mawr Ewrop tuag at yr union farchnadoedd hynny. Pan maent yn mynd trwy Ogledd Cymru maent yn mynd trwy ddiffeithwch o safbwynt cynhyrchu. Mae'r rheswm am hynny yn weddol syml - mae llywodraeth Iwerddon yn rhoi cymhelliant trethiannol cryf i gwmniau leoli yn y Weriniaeth. Dydi hynny ddim yn digwydd yng Nghymru. Mae treth cofforaethol yn llawer is yn Nulyn nag ydyw yng Nghaergybi.
Y ffordd orau i ddelio efo'r anghyfartaledd yma fyddai i Gymru gael y grym i bennu ei threthi ei hun trwy fod yn annibynnol. Efallai nad ydi Guto yn teimlo y gall gefnogi hynny, ond hwyrach y gallai ddefnyddio ei ddylanwad i wireddu'r ail beth gorau o'r safbwynt yma - cael treth gorfforaethol sy'n amrywio yn ol amodau lleol yn y DU.

Tuesday, February 14, 2012
Ymddiheuriadau _ _
_ _ am flogio ysgafn yr wythnos yma, ond 'dwi i ffwrdd yn Athen am ychydig ddyddiau - yn cadw golwg ar bethau ar ran darllenwyr Blogmenai wrth gwrs!
Mae'n ddiddorol nodi canlyniad cyfres o ddigwyddiadau sy'n cychwyn efo 'celwydd golau' yn ol yn 2001 pan aeth llywodraeth Groeg ati i ddweud celwydd ynglyn a maint eu dyled gyhoeddus er mwyn cael ymuno a'r Ewro, cyn mynd ati i wario fel morwr meddw (ar Gemau Olympaidd 2004 ymysg pethau eraill).
Ar hyn o bryd mae gan y wlad ddyled o €350bn - 160% o GDP y wlad. Mae gwario afrad ar y raddfa yma yn ymylu ar fod yn arwrol mewn rhyw ystyr gwyrdroedig o'r ansoddair hwnnw

Sunday, February 12, 2012
Pwy ydi rhamantydd emosiynol mewn gwirionedd?
Mae'n ddrwg gen i ddychwelyd at fater cymhleth ac o bosibl cwbl anealladwy Dafydd Elis Thomas ac annibyniaeth, ond fedra i ddim atal fy hun rhag gwneud un sylw arall wedi darllen y blogiad yma ar y blog Syniadau.
Rwan welais i ddim o CF99, ond mae'n ymddangos bod DET wedi dychwelyd at y syniad o DU ffederal mewn Ewrop ffederal ac ati, ac ati. Ar tua'r un pryd roedd yn awgrymu yn Golwg mai rhamantiaeth emosiynol ydi'r ddelfryd o Gymru annibynnol.
Meddyliwch am honna am funud bach. Ymddengys bod Dafydd o'r farn y gall y Blaid berswadio gwladwriaethau mawr megis y DU, yr Almaen a Ffrainc (sydd wedi treulio cyfnodau go lew o'r ganrif ddiwethaf yn lladd trigolion ei gilydd yn eu degau o filiynau er mwyn amddiffyn eu hannibyniaeth)yn fater ymarferol bosibl, tra bod creu gwladwriaeth Gymreig yn anymarferol. Ac ymhellach mae'n ymddangos ei fod yn credu hynny yng nghyd destun cyfnod lle mae nifer fawr o wladwriaethau newydd yn cael eu ffurfio yn Ewrop, ond lle nad oes yna'r un gwladwriaeth wedi ildio ei statws gwladwriaethol er mwyn cael bod yn rhan o endid ffederal.
Wir Dduw - pwy sy'n rhamantu mewn gwirionedd?

Thursday, February 09, 2012
DET ac annibyniaeth - yn ol i'r myrllwch
'Dwi'n rhyw drio daeall ond fedra i ddim, fedra i ddim - am safbwynt Dafydd Elis Thomas at annibyniaeth 'dwi'n son wrth gwrs.
Rydym wedi hen sefydlu ei fod yn erbyn annibyniaeth i Gymru cyn cynhadledd ddiwethaf y Blaid, ond ei fod wedi dod i gefnogi annibyniaeth rhywbryd yn ystod y gynhadledd - neu o bosibl yn fuan wedi iddi ddod i ben. Ond os ydi'r rhifyn diweddaraf o Golwg (dim fersiwn ar lein) i'w gredu mae bellach yn ystyried y cysyniad yn esiampl o rhyw ramantiaeth emosiynol.
Rwan 'dwi'n cael trafferth i ddilyn rhesymeg y darn. Ar un llaw mae'n dadlau nad yw'r dyn cyffredin yn uniaethu gyda thrafodaeth gyfansoddiadol am le Cymru o fewn y Deyrnas Unedig cyn mynd ati i gyflwyno dadl gyfansoddiadol ei hun y dylid cael gwared ar y swydd o Ysgrifennydd Gwladol Tros Gymru ac y dylai Lloegr gael ei senedd ei hun. 'Dydi o ddim yn egluro pam y byddai'r dyn cyffredin yng Nghymru yn uniaethu efo ymgyrch i gael senedd i Loegr.
Mae'n dweud nad ar sail emosiwn, rhamantiaeth nag ideoleg y dylai'r Blaid wneud penderfyniadau, ond ar sail beth mae 'pobl' yn ei feddwl. Petai pleidiau eraill wedi dilyn y rhesymeg yma yn y gorffennol mi fyddem yn dal i grogi pobl, mae'n debygol na fyddai merched wedi cael pleidlais, mi fyddai refferendwm ar adael Ewrop wedi digwydd ers talwm, byddai Lerpwl yn dal i allforio caethweision i bedwar ban Byd ac mae'n bosibl y byddai carfannau mawr o fewnfudwyr yn colli eu hawl i fudd daliadau 'fory nesaf.
'Dwi ddim yn gwybod os oes rhywun mewn sefyllfa i fy helpu, ond 'dwi'n cael cryn drafferth i ddeall os ydi Dafydd yn cefnogi un o bolisiau creiddiol y Blaid neu beidio. 'Dydw i jyst ddim yn deall beth mae'n ceisio ei ddweud.
A dyna broblem y Blaid tros gyfnod o amser - nid yn unig mewn perthynas ag annibyniaeth - diffyg eglurder, diffyg gallu i gadw at negeseuon syml ond dealladwy, diffyg cysondeb. Mae llawer o enghreifftiau o hyn.
Er enghraifft, yn ol yn Etholiad Cyffredinol 2010, am unwaith mewn etholiad Prydain gyfan roedd gan y Blaid stori oedd yn gweddu i'r tirlun etholiadol ehangach. Mewn etholiad lle'r oedd yr economi, gwariant cyhoeddus a'r posibilrwydd o senedd grog yn dominyddu, gallai neges y Blaid y byddai'n mynnu bod Fformiwla Barnett yn cael ei gwneud yn fwy teg i Gymru petai mewn sefyllfa i wneud hynny fod wedi taro deuddeg. Ond 'doedd nifer o lefarwyr y Blaid ar y cyfryngau ddim hyd yn oed yn codi'r pwnc - roeddynt yn canu o'u llyfr emynau eu hunain. Felly hefyd yn etholiad Cynulliad 2011 - gallai polisi'r Blaid o godi pres i adeiladu is strwythur trwy fenthyg wedi bod yn un effeithiol mewn amser lle'r oedd toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn fygythiad real - ond 'doedd hanner ein llefarwyr ar y cyfryngau ddim yn son am y peth - yn arbennig at ddiwedd yr ymgyrch.
Ac yn anffodus byddai arweinyddiaeth Dafydd Elis Thomas yn sicrhau mwy - llawer mwy - o'r un dryswch. I mi dwy brif dasg arweinydd newydd y Blaid fydd sicrhau proses greu polisi mwy effeithiol a thrylwyr, a sicrhau bod negeseuon sylfaenol y Blaid yn gyson ac yn adlewyrchu'r polisiau hynny. 'Dwi'n mawr obeithio bod yr amser pan roedd llefarwyr swyddogol y Blaid yn ymddangos ar y cyfryngau ac yn 'gwneud eu peth eu hunain' - hyd yn oed pan roedd hynny'n anghyson efo beth roedd llefarwyr eraill yn ei ddweud - bron drosodd.
'Dydi Dafydd methu hyd yn oed bod yn gyson efo'r hyn mae o ei hun wedi ei ddweud yn gynharach, heb son am fod yn gyson a pholisiau'r Blaid. Ni all chwaith fynegi ei hun yn glir ac yn syml - mae pob dim yn gymhleth, yn astrus yn siwdo academaidd, ac yn gallu cael ei ddehongli mewn sawl ffordd. Byddai arweinyddiaeth sy'n cyfleu gwybodaeth yn y ffordd yma yn gwneud i'r Blaid edrych yn wirion i'r cyhoedd, a byddai'n esiampl gwirioneddol wael i bawb arall sy'n llefaru ar ein rhan. Rydym angen arweinyddiaeth o'r math yma i'r un graddau ag yr ydym angen clec ar ein pen torfol efo morthwyl.

Tuesday, February 07, 2012
Naz Malik a'r Blaid Lafur
Mae'n gas gen i godi hyn, ond onid ydi'r cwestiwn os oes cysylltiad rhwng methiant llwyr llywodraeth Cymru i weithredu ar adroddiad ar broblemau yn AWEMA yn ol yn 2005 a'r ffaith bod pennaeth y corff , Naz Malik efo cysylltiadau agos a'r Blaid Lafur Gymreig, yn un cwbl briodol?
Safodd mab Mr Malik, Gwion Iqbal Malik tros y Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth, ac mi gafodd Gwion, Naz Malik a Carwyn Jones gryn dipyn o hwyl yn mynd o gwmpas y rhanbarth yn canfasio. 'Doedd Mr Malik, er gwaethaf natur ei gyflogaeth, ddim yn gweld problem mewn mynegi cefnogaeth i Diane Abbott yn ystod yr ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Roedd hefyd yn hapus iawn i gymryd rhan mewn sterics chwerthinllyd ynglyn a hiliaeth gwrth Seisnig honedig mewn cyfnod pan roedd naratif y Blaid Lafur Gymreig yn cysylltu'r Mudiad Cenedlaethol efo hiliaeth o'r fath.
Tybed os byddai Mr Malik wedi cael rhwydd hynt i fynd trwy'i bethau am cyhyd oni bai am ei gysylltiadau efo'r blaid sydd wedi llywodraethu yng Nghymru Cymru ers 1997?
Efallai, ond mae ymateb chwyrn llywodraeth Cymru i gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill sy'n ymddwyn mewn ffyrdd amhriodol neu ddiffygiol yn cyferbynnu'n amlwg iawn efo'u diffyg ymateb i ddiffygion amlwg AWEMA o dan oruwchwyliaeth Naz Malik.

Monday, February 06, 2012
Sut allai'r ail bleidleisiau effeithio ar ganlyniad yr etholiad am yr arweinyddiaeth?
Mae'n beth rhyfedd - fel Dyfrig Jones 'dwi'n byw yng Ngogledd Gwynedd ond mae fy narlleniad i o ganlyniad tebygol yr etholiad arweinyddol yn gwbl wahanol i'w un o. Tra bod Dyfrig o'r farn mai trydydd fydd Leanne Wood, 'dwi'n eithaf siwr y bydd yn dod yn gyntaf - mewn pleidleisiau cyntaf o leiaf. 'Dwi wedi siarad efo nifer go lew o aelodau o'r Blaid yma, ac mae mwyafrif clir yn gogwyddo tuag at Leanne. Efallai y dyliwn ychwanegu mai son am Arfon ydw i, ac nid Meirion Dwyfor, ond mae yna lawer iawn o aelodau yn Arfon.
'Dydw i ddim, fodd bynnag yn hollol siwr mai Leanne fydd yn ennill. Bydd ail bleidleisiau hefyd yn hynod bwysig, ac yma y bydd yr etholiad yn cael ei hennill a'i cholli. Yn fy marn i bydd mwyafrif clir o ail bleidleisiau Dafydd Elis Thomas yn mynd i Elin, ond bydd ail bleidleisiau Elin yn torri yn fwy cyfartal. Pleidlais geidwadol fydd un DET yn y bon, a bydd llawer o'i gefnogwyr yn rhoi eu hail bleidlais i'r ail ymgeisydd mwyaf ceidwadol yn eu barn nhw, ac Elin fydd honno. Bydd llawer o gefnogwyr benywaidd Elin yn rhoi eu hail bleidlais i Leanne yn ogystal a'r sawl sy'n credu y dylai'r Blaid fod yn fwy cefnogol i annibyniaeth.
Felly mae'r cwestiwn o bwy ddaw yn ail a thrydydd wedi'r cyfri cyntaf yn bwysig. Os mai ail bleidleisiau Elin fydd yn cael eu cyfri yna ni fydd Leanne yn gorfod bod a llawer mwy o bleidleisiau cyntaf na DET i ennill. Ond os mai ail bleidleisiau DET fydd yn cael eu cyfri, yna bydd rhaid i Leanne fod a bwlch clir rhwngddi hi ag Elin i ganiatau iddi ennill.

Pam nad ydi penderfyniad Simon o gymorth mawr i Elin
Mae'n amlwg yn anffodus i Simon Thomas benderfynu taflu ensyniadau i gyfeiriad Leanne Wood (Fischer Price politics) wrth ddod a'i ymgyrch i ennill arweinyddiaeth y Blaid i ben. Mi fydd pob dim ar ben erbyn Mawrth 15, a bydd rhaid i holl aelodau'r Blaid yn y Cynulliad gydweithio wedi hynny. Siomedig iawn.
Un neu ddau o bwyntiau brysiog eraill ynglyn a'r penderfyniad fodd bynnag.
Yn gyntaf mae'n debyg bod y penderfyniad yn anhepgor - mae'n amlwg nad oedd ymgyrch Simon wedi cydio yn y ffordd y gwnaeth yr ymhyrchoedd eraill, ac mae'n dra thebygol mai pedwerydd digon sal fyddai ei safle petai wedi aros yn y ras.
Yn ail 'dwi ddim yn meddwl bod sefyllfa Elin wedi ei gryfhau rhyw lawer. Gan mai dull STV sy'n cael ei ddefnyddio mae'n debygol y byddai llawer o'i ail bleidleisiau wedi gwneud eu ffordd i bentwr Elin beth bynnag.
Mae'r penderfyniad i gynnwys Simon fel dirprwy arweinydd i Elin petai hi'n ennill yn broblem. Canlyniad bargen rhwng y ddau ydi hyn yn ol pob tebyg. Un o atyniadau Leanne ydi'r ffaith ei bod yn dod o ran o Gymru sy'n bwysig i'r Blaid - rhan sydd rhaid ei ennill os ydi'r Blaid i gamu ymlaen yn sylweddol. Neu i roi pethau mewn ffordd arall, byddai llwyddiant ar ei rhan yn torri ar y ddelwedd a geir mewn rhannau o Gymru o'r Blaid fel rhywbeth gwledig, Gorllewinol ac egsotig. Byddai cael arweinydd a dirprwy arweinydd sydd yn cael eu cysylltu yn bennaf a Cheredigion yn atgyfnerthu'r ddelwedd anffodus yma. Oherwydd hynny mi fyddwn yn bersonol yn ei chael yn llawer mwy anodd cefnogi'r tocyn anghytbwys yma na chefnogi Elin ar ei phen ei hun.

Wednesday, February 01, 2012
Mwy o swyddi yn cael eu colli yng Nghaernarfon
Mae Ffred yn gwbl gywir i nodi bod cau swyddfa Tinopolis yn Nghaernarfon yn slap i'r dref gyfan yn ogystal ag i'r unigolion anffodus sydd wedi colli eu gwaith.
Yn draddodiadol mae economi'r dref hynod Gymreig yma wedi bod yn ddibynol i raddau ar ei statws fel canolfan gyfreithiol, canolfan llywodraeth leol a chanolfan siopa. Mewn blynyddoedd diweddar daeth y diwydiant teledu yn bwysig hefyd.
Mae pob un o'r pileri hyn i economi'r ardal wedi cael slap yn ddiweddar. Mae'r toriadau syfrdanol i gyllideb S4C yn ogystal a thranc Barcud wedi tanseilio'r diwydiant teledu, mae penderfyniad y llywodraeth Llafur blaenorol yn Llundain i beidio ag agor carchar yn yr ardal wedi bod yn golled sylweddol, mae'r grymoedd sydd wedi cau siopa ar hyd a lled y DU wedi effeithio ar y dref hefyd, ac mae toriadau yng nghyllideb Cyngor Gwynedd hefyd wedi cael effaith negyddol.
Ond 'dydi hyn oll yn ddim wrth ymyl cynlluniau Llais Gwynedd i ddifa 600 o swyddi llywodraeth leol. Os byth y caiff y meicrogrwp eu dwylo ar rym yng Ngwynedd bydd yn fwy o drychineb i economi tref Gymreiciaf Cymru na'r datblygiadau uchod nag yn wir unrhyw beth arall sydd erioed wedi digwydd yn ei hanes - wel ers dyddiau Glyndwr beth bynnag.