Mi fydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol o ffrae fach ddiweddar chwerw braidd rhyngddof i a Guto Bebb - sefyllfa sy'n codi ar Flogmenai o bryd i'w gilydd.
Asgwrn y gynnen y tro hwn oedd 'damcaniaeth' Guto bod dosbarth gweithiol trefol ardal Caernarfon yn troi at y Saesneg ogerwydd eu bod nhw (fel Guto ei hun) yn drwg licio'r dosbarth canol Cymraeg ei iaith yn yr ardal.
Rwan mae'r 'canfyddiad' yma yn un rhyfedd i'r rhai ohonom sy'n byw yn yr ardal, er bod cyhuddiad o ladd y Gymraeg yn ffitio yn weddol dwt efo tueddiad Guto i feio'r dosbarth proffesiynol Cymraeg ei iaith am bob dim (bygro'r economi, cefnogi Castro, cefnogi'r IRA, ennill medal aur ym mhencampwriaethau rhagrith y Byd ac ati). Dydi Guto ddim yn cyflwyno unrhyw dystiolaeth ystadegol tros ei haeriadau, ond mae'n awgrymu ei fod yn treulio cryn dipyn o amser yn clustfeinio ar bobl ym Morrisons, a seilio ei ganfyddiadau ar hynny. Mae hyn yn anffodus - mae digon o ddata ar gael - yn arbennig i rhywun sydd mewn sefyllfa i gefnogi ymchwilydd. A data ydi'r man cychwyn gorau os ydym eisiau dod i gasgliadau ynglyn a thueddiadau cymdeithasol.
Y llinyn mesur gorau sydd gennym o pa mor hyfyw ydi iaith mewn ardal ydi faint o bobl sy'n siarad Cymraeg ar yr aelwyd . Pan mae'r corff arolygu ESTYN yn arolygu ysgolion, mae'n gosod cyd destun i'r ysgolion hynny, ac ymhlith y data a gyflwynir i'r pwrpas hwnnw ceir manylion ynglyn a'r iaith mae'r plant yn siarad yn y cartref. Rhestraf isod y data diweddaraf ar gyfer ysgolion Caernarfon a'r pentrefi sy'n ffinio efo'r dref. Mae gen i broblem dechnegol sy'n fy atal rhag cyflwyno'r data ar ffurf tabl yn ol fy arfer.
Tref: Maesincla (270 o blant) 74%. Hendre (333) 90%, Santes Helen (77) 60%*, Y Gelli (183) 89%.
Pentrefi ffiniol: Y Bontnewydd (163) 79%, Llanrug (221) 95%, Bethel (143) 82%, Y Felinheli (150) 70%.
Dyliwn nodi yma nad ydi adroddiad Santes Helen yn rhoi union ganran, ond mae'n nodi bod 'mwyafrif' y plant yn siarad Cymraeg. 60% oedd y ffigwr yn yr adroddiad blaenorol. Mae 20% o blant yr ysgol honno o gefndir lleafrifol ethnig.
Rwan mae'r ffigyrau hyn yn uchel iawn, yn arbennig o'u cymharu ag ardaloedd mewn rhannau eraill o'r wlad oedd genhedlaeth neu ddwy yn ol bron mor Gymraeg o ran iaith ag ardal Caernarfon. Cymerer Dwyrain Sir Gar er enghraifft - ardal sydd a dosbarth canol Cymraeg ei iaith llawer llai nag un ochrau G'narfon, ond sydd a dosbarth gweithiol mawr. Mae'r canrannau sy'n siarad Cymraeg adref yno wedi syrthio fel carreg. Yn wir mae llawer o'r ysgolion yno wedi gweld eu canrannau yn hanneru ers yr adroddiadau diwethaf (chwe mlynedd ynghynt). Ymhellach mae pentrefi oedd ugain mlynedd yn ol ymysg y Cymreiciaf yng Nghymru o ran iaith, bellach gyda phumed neu lai o'u plant yn siarad y Gymraeg ar yr aelwyd.
Mae'n wir bod cwymp wedi bod yng nghanrannau rhai o'r ysgolion yn ardal Caernarfon ers yr arolygiadau blaenorol - cwymp bach ym Maesincla ac un mwy yn Y Bontnewydd er enghraifft. Ond mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion wedi dal eu tir neu wedi gweld cynnydd - a chynnydd eithaf sylweddol mewn ambell i achos.
Petai damcaniaeth Guto yn gywir byddai dyn yn disgwyl i'r ganran sy'n siarad Cymraeg adref syrthio yng Nghaernarfon a Llanrug, ond dal ei dir yng Nghefneithin, Y Tymbl neu Bontyberem. Ond y gwrthwyneb sy'n wir. Mae'n arwyddocaol hefyd bod addysg Gymraeg yn tyfu yn gyflym iawn mewn ardaloedd dosbarth gweithiol yng Nghaerdydd - dinas sydd efo llawer o siaradwyr Cymraeg dosbarth canol.
Felly does yna ddim sail ystadegol i 'ddamcaniaeth' Guto, sy'n codi'r cwestiwn - beth ydi'r sail iddi?

Mae gennyf broblem efo'r drafodaeth yma!
ReplyDeleteRwy'n ansicr o'r hyn sydd yn gwneud unigolyn yn ddosbarth gweithiol neu'n dosbarth canol.
Mae fy mhrofiad i o'r gymdeithas Gymraeg yn un o ddiffyg dosbarth.
Y mae gennyf gydnabod yr wyf yn teimlo'n hollol gartrefol yn eu cwmni sydd yn Arglwyddi (un yn llai heno, ysywaeth) yn Aelodau Seneddol, arweinwyr gwleidyddol, deallusol, diwylliannol ac economaidd ein cenedl. Yr wyf yr un mor gartrefol yng nghwmni'r di-waith, gweithwyr caib a rhaw, gyrwyr bysys, mecanics ac ati. Yng nghwmni'r naill, y llall neu gymysgedd ohonynt rwy’n teimlo'n gyffyrddus gydradd a chyd Cymry, dydy "dosbarth" bondigrybwyll ddim yn rhan o'r hafaliad.
Dwi ddim yn gwybod i ba ddosbarth cymdeithasol yr wyf yn perthyn, ac mi fyddwn yn cael anhawster i uniaethu ag ymgyrch wleidyddol na ieithyddol sydd wedi ei selio ar ddosbarth.
Yn y Blaid Lafur deheuol mae yna dueddiad i gredu bod mab i löwr o gartref Saesneg ei iaith sy'n dod yn ddoctor, yn athro, neu yn dwrnai yn aelod llwyddiannus o'r dosbarth gweithiol; ond bod mab i Gymro Cymraeg o fwynwr sy'n llwyddo yn dyfod yn aelod o'r Crachach a’r Taffia. Rwy'n mawr obeithio nad yw Guto wedi llyncu'r fath naratif hurt!
Dwi'n cytuno efo chdi.
ReplyDeleteMae yna ddata y galli fynd ar ei ol i ddiffinio dosbarth cymdeithasol rhywun, ond yn y rhan fwyaf o Gymru rydan ni'n weddol ansensetif i ddosbarth cymdeithasol. Mi'r ydan ni'n tueddu i gael ei addysgu efo'n gilydd, byw yn agos at ein gilydd a chymdeithasu efo'n gilydd.
Mae tuedd anffodus Guto Bebb o deipcastio Cenedlaetholwyr yn mynd ar fy nerfau i. Rwy'n weithgar iawn efo Cymdeithas yr Iaith ond does dim ceiniog o arian cyhoeddus yn mynd tuag at dalu fy nghyflog i. Wedyn beth am y pen bandit ei hun Ffred Ffransis? Gŵr Busnes llwyddiannus iawn sydd nid yn unig wedi cynnal ei fusnes ers dros 30 (neu 40?) mlynedd ond wedi magu hyd yn oed mwy o blant na Guto ac hefyd wedi cyflogi llawer o bobl ar y daith.
ReplyDeleteMae'r teulu o India sydd yn byw yn y fflat drws nesaf i mi wedi bod yma ers mis Medi. Mae eu plant yn mynd i Ysgol San Helen ac mae nhw'n rhugl yn y Gymraeg eisoes - gwych!
Mae teipcastio cenedlaetholwyr yn un peth, ond mae'r agwedd nawddoglyd at ddosbarth gweithiol ochrau G'narfod yn chwydlyd.
ReplyDeleteMae'n adlewyrchu hen agwedd nawddoglyd ddosbarth canol - 'mi wneith y plebs stopio siarad Cymraeg oni bai bod yna rhywun fel fi i gadw golwg arnyn nhw'.
Byddai o gryn syndod i mi petai Guto byth yn siarad efo pobl dosbarth gweithiol o Gaernarfon - ond wrth y til ym Morrisons wrth gwrs.
Os ydw i'n Morrisons a'n digwydd clywed môr o Saesneg, dw i'n trio cysuro fy hun trwy honni wrth fy hun mai Saeson ydynt yn stocio fyny wrth fynd heibio ar y ffordd i dreulio penwythnos ar wyliau yn Llŷn. Efallai fy mod yn twyllo fy hun.
ReplyDelete