Wednesday, March 09, 2011

Ymgeisydd Llafur yn Aberconwy - eto

Ddiwrnod neu ddau yn ol roedd blogmenai yn darogan mai Alun Puw fyddai ymgeisydd Llafur yn Aberconwy fis Mai nesaf. Roedd yr aelod seneddol lleol, Guto Bebb o dan yr un argraff.

Fodd bynnag, y sibrydion diweddaraf ydi bod Eifion Williams o Wrecsam wedi ei ddewis trostynt. Bydd rhai yn cofio i Eifion sefyll tros Llafur yn etholiadau San Steffan 1997 yn hen etholaeth Caernarfon, a pherfformio'n ddigon parchus. Yn dilyn hynny cafodd ei ddewis yn isel ar un o'r rhestrau rhanbarthol yn etholiadau'r Cynulliad 1999 cyn diflannu o'r maes gwleidyddol am flynyddoedd.

Deallaf y bydd Llafur yn dewis ymgeisydd yn Arfon heno, yn dilyn ymddiswyddiad di symwth Alwyn Humphreys o'r blaid.

3 comments:

  1. Anonymous11:13 pm

    Tybed wnaeth Llafurwyr Aberconwy holi Eifion am ei ddiflaniad maith o'r byd gwleidyddol. Mae'n debyg iddo gael llond bol o Blair a'r rhyfel.

    ReplyDelete
  2. Roedd Eifion yn rhannu taflenni IE (Llafur) ar y stryd yn Wrecsam Sadwrn cyn y refferendwm. Rioed wedi ei weld o'r blaen felly heb fod yn amlwg yn rhengoedd y Blaid Lafur ers blynyddoedd.

    ReplyDelete
  3. Anonymous2:44 pm

    Wyddwn i ddim fod o dal yn aelod o Lafur!?!

    ReplyDelete