Tuesday, March 08, 2011
A fydd y refferendwm yn effeithio ar ganlyniadau etholiadau'r Cynulliad?
Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y polau wedi bod yn gyson tros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda Llafur yn y pedwar degau cynnar, y Blaid a'r Toriaid yn y dau ddegau cynnar a'r Lib Dems ymhell o dan 10%. 'Does yna ddim pol Cymreig wedi ei ryddhau ers y refferendwm, felly 'dydan ni ddim mewn sefyllfa i farnu os oes newid o unrhyw fath wedi ei wneud i lefelau cefnogaeth y pleidiau yng Nghymru ers hynny.
Y prif gwestiwn sy'n codi o ffigyrau fel hyn ydi os bydd gan Lafur ddigon o seddi i lywodraethu ar ei liwt ei hun. Y cwestiynau eilradd ydi os mai'r Blaid ynteu'r Toriaid sy'n debygol o ddod yn ail, a pha mor isel y gallai'r gynrychiolaeth Lib Dem syrthio.
Serch hynny, gallai'r refferendwm yn hawdd effeithio ar sut bydd pobl yn pleidleisio ym mis Mai - digwyddodd hynny yn 1999, a Phlaid Cymru wnaeth elwa'r tro hwnnw - ac elwa'n sylweddol. Beth allai ddigwydd y tro hwn? Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs - ond hwyrach y byddai'n ddiddorol ceisio darogan sut effaith caiff Mawrth 3 ar Fai 5.
Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod mwyafrif llethol pleidleiswyr y Toriaid, a mwyafrif llai o gefnogwyr y Lib Dems wedi pleidleisio Na ar Fawrth 3. Mae'n bosibl y bydd rhai o'u cefnogwyr yn pechu tros dro o leiaf oherwydd i'w pleidiau beidio a gwrthwynebu ymestyn datganoli. Gallai hyn fod o gymorth i bleidiau amgen sydd wedi gwrthwynebu mwy o ddatganoli - ac yn arbennig felly UKIP.
Gallai hynny yn ei dro niweidio'r Toriaid (a'r Lib Dems o bosibl). Mae yna beth tystiolaeth polio ar gael bod tua 6% o bleidleiswyr Toriaidd yn y DU yn edrych i gyfeiriad UKIP ar hyn o bryd. Roedd canlyniad is etholiad Barnsley yn dystiolaeth pellach bod symudiad o'r math yma yn digwydd. Gallai'r tueddiad yma fod yn gryfach yng Nghymru yn sgil y refferendwm. Yn eironig ddigon efallai mai prif effaith gogwydd oddi wrth y Toriaid tuag at UKIP fyddai amddifadu'r Lib Dems o nifer o'u seddi.
Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Lib Dems o dan fygythiad beth bynnag, ond os byddant yn cael pleidlais is nag UKIP yn rhai o'r rhanbarthau, ni fydd ganddynt obaith o gwbl o ddal gafael ar eu seddi. Gallai hynny ddigwydd yn hawdd. Er enghraifft yn 2007 cafodd y Lib Dems 7.8% o'r bleidlais yn y Gogledd, cafodd y BNP 5.1% ac UKIP 4.1%. Mae cefnogaeth y Lib Dems wedi efallai haneru tros Gymru ers hynny, ac os byddai hynny yn cael ei adlewyrchu yn y Gogledd byddai'r cwymp yn unig yn debygol o'u gwthio oddi tan y BNP ac UKIP - heb gymryd i ystyriaeth twf posibl yng nghefnogaeth y pleidiau hynny. 'Dwi'n disgwyl i UKIP wneud yn llawer gwell na'r BNP y tro hwn - mae'r BNP yn tueddu i elwa pan mae Llafur yn amhoblogaidd.
Mae'n anhebygol y bydd refferendwm digon technegol ei natur yn rhoi cymaint o wynt yn hwyliau'r Blaid na ddigwyddodd yn dilyn y refferendwm diwethaf - ond mae'r ymdeimlad cadarnhaol tuag at Gymru a'i strwythurau gwleidyddol sydd wedi ei greu tros y dyddiau diwethaf yn sicr o fod o gryn gymorth. Gallai'n hawdd sicrhau bod y Blaid yn ail clir - a gallai hefyd wneud y gwahaniaeth rhwng bod mewn clymblaid a pheidio a bod mewn un. Byddai curo Llafur mewn etholaethau megis Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn mynd cryn dipyn o'r ffordd tuag at wireddu hynny.
'Dwi ddim yn siwr faint o effaith gaiff y canlyniad ar bleidlais Llafur - mae'n anodd barnu. Mae'n anodd dychmygu y bydd y canlyniad o gymorth iddynt ddenu pleidleisiau o gyfeiriad Plaid Cymru, a 'dydi o ddim yn glir i mi sut y byddai o gymorth iddynt ddenu fawr neb gan y pleidiau eraill chwaith. Efallai mai eu prif obaith nhw ydi y bydd proffeil uchel diweddar Carwyn Jones yn ei gwneud yn haws iddynt gael eu pleidlais eu hunain allan.
Felly efallai - efallai - mai prif effeithiadau gwleidyddol y dyddiau diwethaf fydd cryfhau sefyllfa Plaid Cymru, gwanio'r Toriaid rhyw gymaint a'i gwneud yn fwy tebygol y bydd UKIP yn gwneud yn well na'r Lib Dems - fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop yn 2009.
Cawn weld.
Pam wyt ti'n dweud fod cefnogwyr y Lib Dems ar y cyfan wedi pleidleisio 'na'? Roeddwn i'n meddwl eu bod yn blaid oedd yn gryf dros ddatganoli? Yn wir, nag yw nhw'n credu mewn DU ffederal?
ReplyDeleteMae'r blaid ei hun o blaid wrth gwrs - ond mae eu cefnogwyr yn amrywio. 'Dwi'n credu i pol olaf YouGov awgrymu y byddai yr hollt tua 55%/45%.
ReplyDelete'Dwi'n credu (heb fod a'r ffigyrau o fy mlaen) fy mod yn gywir i ddweud i 70% o Lib Dems bleidleisio Na yn 1997.
Mae lot o Lib Dems Cymru fel rhai Wrecsam yn 'Little Brits' gyda agwedd Seisnegaidd iawn a nifer sylweddol ohonynt yn wrthyn i'r Gymraeg. Mae ymgyrch y refferendwm wedi cadarnhau fy marn o Fib Dems; does ddim posib ymddiried ynddynt.
ReplyDeleteEitha cynnar, ond dyma'r canlyniad dwi'n rhagweld:
ReplyDeleteLlafur 28
Plaid 15
Ceidwadwyr 13
Rhyddfrydwyr 4