Mae canfyddiad y pol yn torri'n groes i'r hyn yr oeddwn i yn rhyw ddarogan ychydig ddyddiau yn ol. Wele'r manylion:
ETHOLAETHAU:
Llafur: 48% (+16)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 19% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (-8)
Eraill: 7% (lawr 1)
RHANBARTHAU:
Llafur: 45% (+15)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 18% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (-7)
UKIP: 5% (-1)
Plaid Werdd: 4% (dim newid)
Eraill: 4% (-6)
Mae'r ffigyrau yn y cromfachau yn cymharu newid ers yr etholiad Cynulliad diwethaf yn 2007. Petai'r ffigyrau hyn yn cael eu gwireddu mewn etholiad go iawn - ac yn cael eu gwireddu yn unffurf ar draws y wlad byddai Llafur yn gwneud yn well o lawer nag a wnaethant mewn unrhyw etholiad Cynulliad blaenorol - a byddai'r newyddion yn ddrwg i bawb arall. Mae'n debyg y byddai'r Toriaid yn colli pob sedd uniongyrchol ag eithrio Mynwy, ac mi fyddai'r Blaid yn colli Aberconwy a Llanelli. Mae'n debyg y byddai'r Lib Dems yn colli Canol Caerdydd i Lafur a Maldwyn i'r Toriaid. Ni fyddai Brycheiniog a Maesyfed yn gwbl ddiogel chwaith. Yn waeth byddai gan Lafur gyfle eithaf o ennill sedd rhestr yn y De Ddwyrain, ac o bosibl un yn y Canolbarth hefyd. Byddai hyn yn rhoi 34 - 35 sedd allan o'r 60 iddynt - digon i reoli yn hawdd.
Rwan mae un neu ddau o bwyntiau i'w gwneud cyn mynd ymlaen. Yn gyntaf does yna ddim llawer o arwyddocad i'r newid lle misol rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru. Mae margin for error o 3% i bolau YouGov - ac mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy blaid pob amser yn llai na hynny. Yr hyn sy'n glir ydi bod pleidlais y Lib Dems wedi chwalu, bod y Blaid a'r Toriaid yn agos at ei gilydd, a bod Llafur wedi cynyddu eu cefnogaeth yn sylweddol ac yn gyson. Mae gan Lafur hanes cyson o adeiladu cefnogaeth yn gyflym yng Nghymru pan nad ydynt mewn grym yn san Steffan - byddwn yn dychwelyd at hyn mewn blogiad arall.
Yr her i'r pleidiau eraill felly ydi gwneud y gorau o dirwedd etholiadol newydd sy'n ffafriol iawn i Lafur - ac mae tirwedd felly yn un anodd i wleidydda ynddo. O safbwynt y Blaid mi fyddwn yn cynnig cyngor canlynol:
a) Gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym. Mae trefniadaeth y Blaid yn well nag un Llafur mewn nifer dda o etholaethau. Mae ymgyrch llawr gwlad yn fwy tebygol o fod yn effeithiol yn erbyn tueddiadau cenedlaethol mewn etholiad Cynulliad nag yw mewn etholiad San Steffan - 'dydi'r cyfryngau ddim yn gyrru'r ymgyrch i'r un graddau.
b) Mae ymgeiswyr y Blaid yn aml o ansawdd gwell na'u gwrthwynebwyr Llafur. Dylid seilio rhan o'r ymgyrch ar bersonoliaethau a record ymgeiswyr. Eto mae ffactorau lleol a phersonol yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan.
c) Mae honni bod buddugoliaeth mewn etholaeth yn sicr yn ennill pleidleisiau mewn etholiadau pan mae gwynt cryf y tu ol i blaid, ond 'dydi hynny ddim yn wir mewn etholiadau mwy anodd. Mewn amgylchiadau felly mae derbyn bod posibilrwydd o golli yn gallu bod yn fwy effeithiol o safbwynt etholiadol - gall annog pobl gwrth Lafur i bleidleisio'n dactegol i gadw Llafur allan.
ch) Mae creu naratif cenedlaethol gwrth Lafur yn anodd mewn amgylchiadau lle mae'r Blaid wedi rhannu grym efo nhw am bedair blynedd. 'Does yna fawr o bwrpas beio Llafur am yr argyfwng cyllidol chwaith - mae hynny'n hen hanes mewn termau etholiadol, ac mae'n amherthnasol i'r sefyllfa sydd ohoni yng Nghymru. Fy nheimlad i ydi y dylid pwysleisio poblogrwydd cymharol y llywodraeth glymbleidiol yng Nghaerdydd a cheisio creu naratif ei fod yn well trefniant na'r un blaenorol lle'r oedd Llafur mewn grym ar eu pennau eu hunain. Wedi'r cwbl roedd y llywodraeth hwnnw yn un hynod amhoblogaidd. Mae yna ddeunydd crai i weithio gyda fo - y gwahanol gynlluniau i gau ysbytai lleol rhwng 2003 a 2007 er enghraifft. Mae hefyd yn ffaith i'r bwlch enwog rhwng gwariant ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr ddatblygu yn llwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae naratif wedi ei seilio ar y cwestiwn - ydych chi yn eu trystio nhw i redeg y wlad ar eu pennau eu hunain? - yn effeithiol weithiau mewn sefyllfaoedd lle mae clymbleidio yn gyffredin. Er enghraifft, llwyddodd y PDs i ddwblu eu cynrychiolaeth yn y Dail (yn Iwerddon wrth gwrs) yn 2002 er bod y polau yn awgrymu y byddai eu pleidlais yn syrthio fel carreg. Canfyddiad pobl bod perygl i Fianna Fail reoli ar eu pennau eu hunain, a strategaeth gan y PDs o awgrymu mai nhw yn unig allai atal hynny rhag digwydd oedd yn gyfrifol am y llwyddiant anisgwyl hwnnw.
"Yn waeth byddai gan Lafur gyfle eithaf o ennill sedd rhestr yn y De Ddwyrain, ac o bosibl un yn y Canolbarth hefy"
ReplyDeleteDwi'n anghytuno. Petai Llafur yn ennill cymaint â 30 o etholaethau ni fyddant yn cael yr un sedd ranbarthol heb ennill mwy na 50% y bleidlais. I ennill mwy na 30 o seddi felly byddai'n rhaid iddyn nhw ennill mwy na 30 o etholaethau. Dwi ddim yn credu ei fod yn bosib i Lafur ennill mwy na 32 o etholaethau hyd yn oed gyda chymaint o'r bleidlais fel mae YouGov yn awgrymu.
Gyda llaw yn fy marn i Canol Caerdydd ydy sedd fwyaf diogel y Lib Dems.
Y peth efo'r De Ddwyrain ydi na fydd Llafur yn ennill Mynwy, ac mae'n gwbl bosibl iddynt (ar ffigyrau YouGov bolio mwy na 50% yno hyd yn oed ar ogwydd unffurf. Fydd y gogwydd ddim yn unffurf, ac mae'n bosibl iddynt bolio hyd at 55% yno. Mae sedd yn bosibl o'r fan honno.
ReplyDeleteMae Canol Caerdydd yn edrych yn saff i'r Lib Dems ar bapur - ond creda fi, 'dydi hi ddim.
Dwi ddim yn siŵr sut gallai peidio ag ennill Mynwy a chael 55% yn fodd i Lafur ennill sedd ranbarthol, gan y bydd Llafur yn debyg o ennill pob etholaeth arall yn yr ardal...?
ReplyDeleteMi rydach chi'ch dau yn anghywir! Mi fydd Llafyr yn enill 7 o'r 8 yn y De Ddwyrain. Er mwyn enill wythfed (allan o 12), mi fyddan nhw angen bod 8/2=4 gwaith yn uwch na Plaid neu'r Toriaid (dwi'n meddwl!). e.e.
ReplyDeleteLlafur 60%
Toriaid 16%
Plaid 14%
Eraill 10% (a neb arall drost 7.5%!)
Anhebygol?!
Simon,
ReplyDeleteTi'n teipio'n gynt na fi - pwynt dwetha chdi'n hollol gywir!
'Dyweder bod Llafur yn ennill 52% o'r bleidlais (y ffigwr mae YouGov yn awgrymu y gallant ei gyrraedd) ac hefyd yn ennill pob sedd ond am Fynwy. Wedyn ti'n rhannu'r 52% efo 7 (nifer eu seddi) + 1 sy'n rhoi 6.5% i ti. Mi gafodd Janet Ryder ei hethol gyda fwy neu lai hynny yn union yn 2007.
ReplyDeleteIoan, dwi'n meddwl y byddai dy ffigyrau di yn rhoi PC 2, Llafur 1, Toriaid 1
ReplyDelete"Ioan, dwi'n meddwl y byddai dy ffigyrau di yn rhoi PC 2, Llafur 1, Toriaid 1"
ReplyDeletena!
PC 1, Llafur 1, Toriaid 2!!
Cymerwch ddim sylw o'r post dwetha - mi nes i anghofio am Mynwy...
ReplyDeleteOK, ar rifau YouGov
ReplyDeleteLlafur 56%
Toriaid 16%
PC 10%
FibDums 4%
UKIP 6%
Dwi'n cael (ar gyfer y sedd rhestr ola):
Llafur 56/(8+1) = 6.2
Toriaid 16/(2+1) = 6
PC 10/(1+1) = 5
LibDems 4/(0+1) = 4
UKIP 6/(0+1) = 6
Llafur yn enill dwy sedd rhestr (o drwch blewyn!), Toriaid un, a PC un.
7 + 1 ydi Llafur Ioan - ti'n anghofio am fynwy eto!
ReplyDeleteNa!! Dwi ond wedi rhoi y ffigyrau am y pedwaredd sedd rhestr - mae Llafur yn enill un sedd rhestr yn hawdd!
ReplyDeleteLlafur 56/(7+1+1) yn gliriach?
Cytuno???
Dwi yn cymryd mai ffigyrau rhanbarthol YouGov ti’n eu dyfynnu. Y broblem ydi bod Morgin of error o tua 7% i is set o tua 200. Ta waeth, a chymryd dy ffigyrau am ennyd:
ReplyDeleteSedd 1 – Plaid Cymru
Llafur 56/(7+1) = 7
Toriaid 16/(1+1) = 8
PC 10/(0+1) = 10
LibDems 4/(0+1) = 4
UKIP 6/(0+1) = 6
Sedd 2 – Toriaid
Llafur 56/(7+1) = 7
Toriaid 16/(1+1) = 8
PC 10/(1+1) = 5
LibDems 4/(0+1) = 4
UKIP 6/(0+1) = 6
Sedd 3 – Llafur
Llafur 56/(7+1) = 7
Toriaid 16/(2+1) = 5.33
PC 10/(1+1) = 5
LibDems 4/(0+1) = 4
UKIP 6/(0+1) = 6
Sedd 4 – Llafur
Llafur 56/(8+1) = 6.2
Toriaid 16/(2+1) = 5.33
PC 10/(1+1) = 5
LibDems 4/(0+1) = 4
UKIP 6/(0+1) = 6
Felly Llafur 2, Plaid 1 a Toriaid 1 – ond gallai’r sedd olaf yn hawdd fynd i Lafur, y Toriaid, UKIP neu Blaid Cymru.
Pawb yn gytun fellu!
ReplyDeleteIa, debyg.
ReplyDeleteWell i can say that i found here many people who are talking about their own matte.
ReplyDelete