'
Draw ar ei flog mae Vaughan yn cael trafferth deall pam nad oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, eisiau cyfaddef ei rhan mewn mesur yn 2002 i ddiddymu'r angen am ganiatad cyn symud organau dynol o gyrff marw er mwyn eu trawsblannu.
Mae'r ateb yn weddol syml mi dybiwn, mae gan y ddynas gof uffernol o wael. 'Dydi hi ddim hyd yn oed yn cofio ffeithiau cwbl syml sy'n ymwneud efo'i gwaith diwrnod i ddiwrnod -
pwy ydi Prif Weinidog Cymru er enghraifft. Yn ffodus mae ei chof yn gweithio'n well mewn perthynas ag agweddau eraill ar ei bywyd. Mae'n cofio bwydo ei chwn, ac mae hefyd yn cofio gwneud yn siwr mai'r cyhoedd sy'n
talu am fwyd i'r dywydiedig gwn.
Cywilydd o beth. Governor General Cheryl Gillan yn de Cai-hen bryd i ni gael rheolaeth dros ein hunan.
ReplyDeleteMi fyddai'r syniad o gael gwared ar Cheryl ynddo'i hun yn ddadl eithaf cryf tros annibyniaeth.
ReplyDeleteO ni'n teimlon bechod a Cheryl cyn iddi gael eu benodi yn ysgrifennydd gwladol. Ag yn meddwl bod y nationalist lot mwy creulon tuag at y hi o gymharu a Peter Hain, ag o nin deud 'we should give her a chance'.
ReplyDeleteOnd raid i fi ddeud mae hin USELESS. Ag y peth gorau i Ceidadwyr Cymreig ydy fysa cael rywun newydd, yn ei lle. Er bod o wedi newid ychydig, dwi yn ffan o Glyn Davies.