True Wales = Tea Party Cymru.
Gwleidyddiaeth gwrth-wleidyddiaeth, gwrth-wleidyddion, ymosod ar y 'crachach' (Cymry Cymraeg, Caerdydd, Washington DC) ond ddim ar bobl sydd รข wir grym ac sy'n wir crachach ac sy'n cadw nhw'n dlawd - bancwyr, City of London, system dreth sy'n dal i elwa'r dosbarth rentier yn fwy na threth-dalwyr cyffedin.
Macsen
'Rwan mae'r sylw yn un diddorol, ac yn wir yn un treiddgar - ond yn y bon 'dwi'n anghytuno efo fo. Er bod tebygrwydd rhwng dadleuon y Te Parti a'r gwrth ddatganolwyr, mae'r reddf waelodol sy'n eu gyrru yn sylfaenol wahanol. Mi geisiaf egluro.
Mae llawer o themau'r ymgyrch Na ar un olwg yn wrth wleidyddol - ond nid gwrth wleidyddol ydynt mewn gwirionedd, ond gwrth Gymreig. Er enghraifft, mae'r rhesymeg bod y Cynulliad yn ddrud, am godi trethi ac ati ar un olwg yn syrthio i'r patrwm hwn.
Ond o dan unrhyw linyn mesur bron, mae llywodraeth San Steffan yn ddrytach i ni o lawer na'r Cynulliad - nhw sy'n codi trethi, nhw sydd newydd godi TAW, mae Aelodau Seneddol yn cael mwy o gyflog a mwy o gostau nag Aelodau Cynulliad, mae yna 500,000 o weision sifil yn gweithio i lywodraeth San Steffan a thua 6,000 i'r Cynulliad.
Roedd yna swnian rhyfeddol am gost adeilad newydd y Cynulliad o gyfeiriad y gwrth ddatganolwyr. £67,000,000 oedd cost yr holl adeilad. Costiodd Portcullis House - bloc o swyddfeydd i 200 o Aelodau Seneddol San Steffan a agorwyd yn 2001, £235m. Costiodd y coed ffigys sy'n addurno'r lle £150,000, aeth £2,000,000 am fleinds trydanol i pob Aelod Seneddol a ddefnyddiai'r lle, a chafodd pob un gadair ar gost o £440 yr un. Gwariant San Steffan ar gyfer 2010 oedd £661,000,000,000. Gwariant y Cynulliad oedd £15,000,000,000.
Rwan, fyddwn ni ddim yn clywed swnian am hyn oll gan y gwrth ddatganolwyr - nid gwariant llywodraethol ydi'r broblem, gwariant llywodraethol Gymreig ydi'r broblem.
Yn yr un modd mae'r honiadau o lygredd llywodraethol yn dangos safonau dwbl rhyfeddol. Ag eithrio ymgais Nick Bourne i gael y cyhoedd i dalu am ei 'stafell molchi a'i ymdrech yntau ac Alun Cairns i gael i pod am ddim, mae'r Cynulliad yn drawiadol o lan. Ar y llaw arall cafodd San Steffan ei foddi gan tsunami o gyhoeddusrwydd gwael yn sgil y sgandal treuliau y llynedd. Gwnaeth y cyhoeddusrwydd hwnnw y sefydliad yn destun gwawd oddi mewn ac oddi allan i'r DU. Er hynny crafu o gwmpas am rhywbeth i'w ddweud am y Cynulliad mae'r gwrth ddatganolwyr, 'does yna ddim gair am y cafn a adwaenir fel San Steffan. Nid llygredd ydi'r broblem, ond llygredd Cymreig (dychmygol fel mae'n digwydd).
Nid ydi aneffeithiolrwydd o ran goruwchwylio'r economi yn broblem chwaith - os ydi hynny wedi digwydd ar lefel Brydeinig. Mi gostiodd yr hyn a ddigwyddodd yn sgil methiant diweddar llywodraeth y DU i oruwchwylio'r banciau £850,000,000,000 i'r trethdalwr - digon o arian i gyllido Cymru am bron i 60 o flynyddoedd. Ond aneffeithiolrwydd Cymreig ydi'r broblem - ac unwaith eto, mae hwnnw'n ddychmygol i raddau helaeth. Does yna ddim cwestiwn ynglyn ag addasrwydd y DU i fod yn gyfrifol am ei heconomi ei hun yn codi yn sgil y drychineb banciau wrth gwrs.
Mae Prydain yn wlad sydd wedi ei dominyddu gan elitiaid ffurfiol ac anffurfiol ers sefydlu'r wladwriaeth. Yn wir mae ganddi gyfundrefn ddosbarth chwerthinllyd o gymhleth a ffurfiol, gydag arglwyddi, marchogion, barwniaid, ieirll, tywysogion ac ati ar hyd y lle i gyd.
Mae mwyafrif llethol y cabinet presenol wedi bod mewn ysgolion bonedd ac maent yn gyfoethog iawn, mae tros i hanner aelodau seneddol Ceidwadol wedi bod mewn ysgolion felly hefyd. Ceir cyn ddisgyblion y sector breifat yn dominyddu grisiau uchaf mwyafrif llethol y galwedigaethau a phroffesiynau sy'n talu'n dda yn y DU. 6.5% o blant sydd yn mynychu ysgolion bonedd. Ond 'dydi'r elitiaeth yma ddim yn broblem, y 'crachach' a'r 'Taffia' ydi'r broblem - ein fersiwn tila a di ddim ni o elitiaeth.
Ychwaneger at hyn y casineb at yr iaith, y rwdlan am buro ethnig a thypdra'r Cymry ac mae'n weddol eglur mai casineb tuag at Gymru sy'n gyrru'r ymgyrch Na. Gelyniaeth a chasineb tuag at awdurdod llywodraethol sy'n gyrru'r Te Parti. Mae'r deilliannau yn gallu edrych yn debyg, ond mae'r ddeinameg sy'n gyrru'r ddau dueddiad yn dra gwahanol.
Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth sylfaenol ydi bod y Tea Party actiwli yn fudiad poblogaidd!
ReplyDeletePwyntiau da iawn Menai. Ac, yn fwy cywir hefyd 'na'm rhai i.
ReplyDeleteSerch hynny, dwi'n meddwl fod y nodwedd yma o weld bai ar y Cynulliad yn debyg iawn i Washington DC. Hynny yw, does dim gall y naill le na'r llall yn iawn ym meddyliau True Wales neu Tea Party.
Efallai mai'r gwahaniaeth fwya rhwng TW a'r TP yw fod y TP yn wladgarwyr/cenedlaetholwyr Americanaidd rhonc tra fod TW yn wrth-wladgarwyd Cymreig.
Mae'r TW yn debycach efallai i blaid 'cuidadanos' (dynasyddion) yng Nghatalwnia: http://en.wikipedia.org/wiki/Citizens'_Party_(Catalonia)
Macsen
Ti'n gwbl gywir bod yna gyfatebiaeth rhwng TP a TW Macsen. Mae'r sylwadau am genedlaetholdeb a gwrth genedlaetholdeb yn gywir hefyd - er 'dwi'n siwr mai cenedlaetholwyr ydi TW yn y bon - rhai Prydeinig.
ReplyDeleteYr hyn sy'n digwydd efo TW ydi eu bod yn ceisio cymryd mantais o deimlad gwrth wleidyddol ymysg rhai pobl a chyfeirio hynny tuag at y Cynulliad yn hytrach na San Steffan. Maen nhw'n gwisgo gwrth Gymreicdod yn nillad gwrth wleidyddiaeth.
Mae yna broblem efo hyn - mae llawer o bobl yn y Gymru ddiwydiannol yn edrych tuag at wleidyddion am achubiaeth pan mae amserau'n anodd - mae hyn yn mynd yn ol i'r 20au a thwf Llafur yn y De.