Cyn 2002 / 2003 prifathrawon oedd yn asesu rhuglder plant. Mae gen i ofn nad ydi'r ffigyrau hyn yn ddibynadwy chwaith, yn arbennig mewn perthynas a faint sy'n siarad Cymraeg adref. Derbynir plant i'r ysgol yn dair oed yn aml, ac o ganlyniad nid yw sgiliau llafaredd plant yn aml wedi datblygu llawer iawn pan mae'r ysgol yn dod i gysylltiad a nhw yn gyntaf. Mae sefyllfa ieithyddol cartrefi yn aml yn gymhleth yn yr oes sydd ohoni - bydd plant yn siarad un iaith efo un rhiant a iaith arall efo'r llall - neu iaith wahanol efo taid a nain nag ydynt yn siarad efo mam a dad. Ymhellach, gall hyn newid. Bydd plentyn weithiau yn dechrau siarad iaith efo un rhiant ar ol ei dysgu yn yr ysgol - bydd rhieni weithiau yn dysgu'r Gymraeg ac yn dechrau siarad yr iaith efo'u plant (er mwyn ymarfer weithiaf). Mi ddigwyddodd hyn i fy nain i ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. Mae yna hefyd gymhelliad i brifathrawon - yn arbennig mewn ysgolion swyddogol (yn hytrach na naturiol) Gymraeg i roi atebion gwahanol ar gyfer plant unigol yn dibynnu ar eu hoedran. Mae pwysau ar yr ysgol i ddangos eu bod yn llwyddo.
Efallai mai'r ffigyrau mwyaf dibynadwy mewn gwirionedd(fel mae MH yn awgrymu) ydi rhai sy'n ymwneud ag asesiadau athrawon. Mae yna gymhelliad i ysgolion beidio a chynnwys plant nad ydynt yn rhugl eu Cymraeg mewn asesiadau iaith gyntaf - yn y gyfundrefn sydd ohoni mae'n well peidio asesu plant yn y Gymraeg na'u hasesu a'u methu.
Mae'r tablau isod yn dangos y ganran o'r blant a asesir fel plant Cymraeg iaith gyntaf, a sut mae'r patrwm hwnnw wedi newid tros ychydig mwy na degawd. O gymryd bod y nifer a asesir fel plant iaith gyntaf yn rhoi syniad go lew o'r nifer sy'n rhugl, mae'n amlwg bod cynnydd graddol mewn rhuglder - ond graddol iawn ydyw. Ag ystyried ei bod yn weddol sicr bod y galw am addysg Gymraeg yn uwch o lawer na'r ganran sy'n derbyn addysg Gymraeg mae arafwch y cynnydd yn wastraffus ar y gorau, ac yn fethiant i gymryd mantais o gyfle hanesyddol i newid natur y wlad er gwell ar y gwaethaf.
Ffigyrau i gyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:
CA1 (7 oed) | CA 2 (11 oed) | CA 3(11 oed) | |||||
Blwyddyn | Canran | Blwyddyn | Canran | Blwyddyn | Canran | ||
1998 | 18.1 | 1998 | 17.5 | 1998 | 12.4 | ||
1999 | 18.2 | 1999 | 17.6 | 1999 | 12.8 | ||
2000 | 18.1 | 2000 | 17.5 | 2000 | 13 | ||
2001 | 19.0 | 2001 | 17.5 | 2001 | 13.8 | ||
2002 | 18.9 | 2002 | 17.6 | 2002 | 13.9 | ||
2003 | 19.1 | 2003 | 18.3 | 2003 | 14.4 | ||
2004 | 19.5 | 2004 | 18.1 | 2004 | 14.7 | ||
2005 | 19.6 | 2005 | 19 | 2005 | 14.4 | ||
2006 | 20.0 | 2006 | 19.3 | 2006 | 15.7 | ||
2007 | 20.3 | 2007 | 19.5 | 2007 | 15.3 | ||
2008 | 21.0 | 2008 | 19.8 | 2008 | 16 | ||
2009 | 21.0 | 2009 | 19.1 | 2009 | 15.9 |
Dydi'r ffigyrau yma chwaith am wn i yn dangos darlun llawn chwaith. Tybiaf bod athrawon yn amlach na dim yn categoreiddio'r plant fel dosbarth cyfan.
ReplyDeletehy. asesir dosbarth cyfan yn y gymraeg fel iaith gyntaf neu ddim yn y mwyafrif o achosion.
Mae'r tabl yma felly yn dangos y cynydd yn y plant sydd mewn dosbarthiadau i'w hasesu yn gymraeg yn hytrach na rhai rhugl yn y gymraeg?
Mi fyddai'n ddifyr gwybod os mai dyna'r arfer - tuedda pethau fel hyn i amrywio o un lle i'r llall yng Nghymru.
ReplyDeleteYn sicr mae'r ffaith bod yna cymaint o fuddsoddiad mewn addysg Gymraeg yn awgrymu y dylid cael llinyn mesur dibynadwy i asesu llwyddiant.
This comment has been removed by the author.
ReplyDeleteWy'n cytuno, wrth gwrs. Fel mae'n digwydd, mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi gosod y targedau canlynol (tt 21 a 23):
ReplyDeleteCanran y dysgwyr Blwyddyn 2 (CA1) sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg iaith gyntaf:
2015 ... 25%
2020 ... 30%
Canran y dysgwyr Blwyddyn 9 (CA3) sy’n cael eu hasesu yn y Gymraeg iaith gyntaf:
2015 ... 19%
2020 ... 23%
Yn fy marn i, dydy'r targedau ddim yn uchelgeisiol iawn, ond maen nhw'n welliant.
Tabl ddigon diddorol yn: http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=10419
ReplyDelete(Sef asesiad athrawon: [003298] Key Stage 2 results by LEA (subject, year, gender, level) NS).
Os ti'n edrych ar y nifer sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (L4+) yn y Gymraeg, efo'r nifer o ddigyblion sy'n cael assesiad o'r pwnc Saesneg drost ddeg mlynedd, ti'n gallu gweld lle mae'r cynnydd mwyaf wedi bod (gwneud 'linear regression' ar y data).
Ddim be o'n ni'n ddisgwyl:
Cynnydd / blwyddyn
1.95% Gwynedd
1.28% Isle of Anglesey
0.97% Ceredigion
0.71% Carmarthenshire
0.45% Denbighshire
0.45% Cardiff
0.45% Torfaen
0.41% Wales
0.41% Conwy
0.39% Rhondda Cynon Taf
0.39% Swansea
0.28% Bridgend
0.28% Caerphilly
0.28% Pembrokeshire
0.21% Vale of Glamorgan
0.20% Merthyr Tydfil
0.20% Monmouthshire
0.19% Blaenau Gwent
0.18% Wrexham
0.15% Neath Port Talbot
0.10% Powys
0.08% Newport
0.07% Flintshire
Ioan - 'dwi ddim cweit yn deall y data, a fyddet cystal a rhoi mymryn mwy o eglurhad?
ReplyDeleteUn peth mae'r ffigurau hyn (a'r lleill nodaist) yn ei awgrymu'n gryf iawn ydi rhywbeth trist iawn sef nad ydi addysg Gymraeg mor llwyddiannus ag y mae rhai yn haeru ei fod.
ReplyDeletePan o'n i am gyfnod byr mewn un ysgol Gymraeg adnabyddus yn Ne Cymru galla i roi fy llaw ar fy nghalon a dweud bod llawer iawn o blant nad oeddent yn rhugl yn y Gymraeg, a dyma blant sydd wedi dilyn addysg Gymraeg drwy gydol eu bywydau.
Mae 'na rywbeth ddim cweit yn iawn yn y system, dwi'n meddwl, ond dwnim a ydi pobol yn fodlon cyfaddef hynny.
Engraifft:
ReplyDeleteOs ti'n edrych ar Ynys Mon, mae'r ganran sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (o'r rhai sy'n cael eu assesu) wedi codi o 57% yn 1999 i 76% yn 2009. Ond mesur gwell ydi cymharu'r nifer sy'n cyrraedd y lefel efo'r nifer o holl blant. Ffordd o amcangyfri hyn ydi edrych faint o blant syn cael assesiad o'eu gallu saesneg.
Felly o holl blant Ynys Mon oedd yn cael eu assesu yn 1999, y ganran sy'n cyrraedd y lefel L4+ (yn y Gymraeg) oedd 692*57%/(897*100)=44%
Gwneud hynnu ar gyfer pob blwyddyn:
1999 44%
2000 49%
2001 47%
2002 49%
2003 54%
2004 55%
2005 57%
2006 56%
2007 54%
2008 60%
2009 56%
'Rwan gwneud 'curve fit' gan ddefnyddio 'linear regression' ( http://en.wikipedia.org/wiki/Linear_regression ), yn rhoi cynydd/blwyddyn o 1.28%. Yn digwydd bod yn Ynys Mon mi fysa cymeryd ffigwr 1999 (44%) a 2009 (56%) yn rhoi ated eitha cywir (56-44)/11 = 1.1% / blwyddyn, ond ffliwc ystagegol ydi hunna!
Reit - felly y mwyaf Cymraeg o ran iaith ydi ardal, yna'r mwyaf llwyddiannus ydi'r system addysg yno am ychwanegu at y canrannau sy'n rhugl, a'r lleiaf Cymraeg ydi ardal yna'r lleiaf llwyddiannus ydi'r system?
ReplyDeleteAngen gwneud Chi test i brofi (neu gwrthbrofi) hunna!
ReplyDeleteMi faswn ni'n dweud:
ReplyDelete1) System addysg yr ardaloedd mwyaf Cymraeg o ran iaith sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus yn ychwanegu at y canrannau sy'n rhugl drost y ddeg mlynedd dwetha.
2) Dwi ddim yn meddwl gelli di ddweud fawr ddim am yr ardaloedd lleiaf Cymraeg! Cymhara Torfaen a Chaerdydd efo Powys a Nedd-Port Talbot er engraifft.
Ioan - Mae hyn i gyd yn dibynnu os na cyrraedd lefel 4 ydi 'rhugl' - sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.
ReplyDeleteMae plant 3 oed yn gallu sairad yn rhugl ond heb gyrraedd lefel 1 eto.
Mae plant 11oed sydd 'ond' yn lefel 2 neu 3 hefyd yn gallu bod yn 'rhugl'.
Y cwbl mae ffigyrau ioan yn ei ddangos yw y cynnydd yn y canran sy'n cyrraedd lefel 4 yn 11 oed, gall hyn fod am amryw o resymau:
- gallu'r plant
- addysgu gwell
- asesu 'gwell'
- asesu 'caredigach' (!)
- hicyn is
- asesu athro yn lle prawf
- pwysau gan AALl i godi lefelau er mwyn iddynt godi yn y tablau cenedlaethol - sgerlsi bilif! ;-)
- pwysau cenedlaethol i safonnau godi
'Dwi'n meddwl mai'r hyn sydd ganddo fo ydi'r gymhariaeth efo'r Saesneg fel arwydd o gynnydd yn hytrach na rhifau abserliwt. Fel ti mae gen i amheuon, ond 'dwi'n ceisio cael fy mhen rownd y peth a bod yn onest.
ReplyDeleteAnon: Derbyn dy bwynt di'n llwyr. Tan y post dwetha mi ro'n ni'n defnyddio'r term trwsgwl "cyrraedd y lefel ddisgwyliedig". Mi ro'n i ond yn trio addasu post cynt menaiblog i fod chydig bach yn fwy cywir! Sori - dwi'n addo peidio defnyddio term mor an-fathamategol byth eto...!
ReplyDeleteMenaiblog: Yr amheuon mwya sy gen i ydi 'grade inflation'. Edrycha ar yr un wybodaeth am Saesneg: 67% yn 1999, 81% yn 2009. Dim ond Gwynedd sydd efo'r math yna o gynydd yn y Gymraeg.
I gymlethu petha:
ReplyDeleteCyfartaledd y cynnydd (bob blwyddyn) yn y nifer o ddisgyblion sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (L4+) yn y Gymraeg (1999 i 2009):
17.5 Gwynedd
13.8 Cardiff
10.0 Carmarthenshire
8.9 Swansea
5.7 Rhondda Cynon Taff
4.8 Torfaen
4.4 Caerphilly
4.2 Denbighshire
3.8 Bridgend
3.0 Conwy
2.8 Vale of Glamorgan
2.6 Pembrokeshire
1.8 Monmouthshire
1.5 Wrexham
1.4 Ceredigion
1.4 Flintshire
1.2 Newport
1.0 Blaenau Gwent
0.7 Powys
0.4 Neath Port Talbot
0.3 Isle of Anglesey
-0.2 Merthyr Tydfil
Ioan - "Cyfartaledd y cynnydd (bob blwyddyn)...."
ReplyDeleteBeth am bynciau eraill, beth ddigwyddodd i Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth?
Os ydi'r cynnydd yn debyg o sir i sir, dydi o ddim i'w wneud efo rhuglder yn y Gymraeg, os na, mae gen ti bwynt.
Anon: Croeso i ti edrych ar a data! http://www.statswales.wales.gov.uk/TableViewer/tableView.aspx?ReportId=10419
ReplyDeleteDyma be dwi'n gael wrth edrych ar y Saesneg:
Cyfartaledd y cynnydd (bob blwyddyn) yn y nifer o ddisgyblion sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig (L4+) yn y Saesneg (1999 i 2009):
22.5 Newport
16 Carmarthenshire
15.3 Cardiff
14.5 Gwynedd
14.1 Caerphilly
11.5 Denbighshire
9.9 Torfaen
9.6 Wrexham
7.4 Vale of Glamorgan
7 Bridgend
6.1 Neath Port Talbot
5.1 Conwy
3.9 Powys
3.3 Flintshire
1.5 Swansea
0.5 Pembrokeshire
0.2 Monmouthshire
-0.7 Ceredigion
-1.7 Blaenau Gwent
-1.8 Rhondda Cynon Taf
-2.2 Isle of Anglesey
-5.1 Merthyr Tydfil
A 'rwan cymharu'r Cymraeg yn erbyn a Saesneg:
+7.5 Rhondda Cynon Taf
+7.4 Swansea
+4.9 Merthyr Tydfil
+3.0 Gwynedd
+2.7 Blaenau Gwent
+2.5 Isle of Anglesey
+2.1 Ceredigion
+2.1 Pembrokeshire
+1.6 Monmouthshire
-1.5 Cardiff
-1.9 Flintshire
-2.1 Conwy
-3.2 Bridgend
-3.2 Powys
-4.6 Vale of Glamorgan
-5.1 Torfaen
-5.7 Neath Port Talbot
-6.0 Carmarthenshire
-7.3 Denbighshire
-8.1 Wrexham
-9.7 Caerphilly
-21.3 Newport
Dwi'm yn siwr be i wneud o hwna! Mae pob tabl yn galonogol i Wynedd (prifathrawon gret??!), ac yn eitha calonogol i Ynys Mon, Ceredigion, RCT ac Abertawe. Hollol onest, dwi'n meddwl mae y tabl cynta (10:51) ydi'r un cliria.