Wel, wel, wel - ar ol bod yn poeni nad oes ganddynt bresenoldeb ar y rhithfro Cymreig mae Eluned Morgan, Peter Hain a'r anfarwol Alun Davies wedi creu blog o'r ansawdd uchaf - Aneurin Glyndwr
Er mor fyr hyd yn hyn, mae'n amlwg yn gampwaith gwybodus, deallus a soffistigedig - a does yna ddim mwy felly na'r fideo anfarwol sydd ar waelod y blog yma - sydd yn ol pob golwg yn ymdrech i lawnsio ymgyrch etholiadau Senedd Ewrop Llafur.
Does gen i ddim y geiriau i fynegi maint fy edmygedd o'r safonau cynhyrchu godidog, y sgiliau ffotoshop, y naratif deallusol ac effeithiol, geiriau soffistigedig y gan (sydd wedi eu 'sgennu gan neb llai nag Eluned ei hun), y llais soniarus, y gallu rhyfeddol i gwmpasu'r tirlun gwleidyddol cyfoes mewn ychydig eiriau _ _ _ - jyst pob dim - mae'r blydi peth yn gampwaith.
'Rwan, mae yna rhyw dderyn bach yn dweud wrthyf y bydd y fideo a'r wefan yn cael ysgariad maes o law - ond rhag i'r berl bythgofiadwy o fideo ddiflannu - a thrwy hynny amddifadu traddodiad diwylliannol Cymru o un o'i gampweithiau, 'dwi wedi ei gopio er mwyn i chi gael ei fwynhau - trosodd a throsodd a throsodd.
Os nad ydych chi'n gwrando ar gymaint ag un gair o gyngor y cewch ar y blog hwn - plis edrychwch ar y fideo - yn arbennig felly os ydych byth yn cael eich temtio am cymaint a munud i bleidleisio i blaid Eluned Morgan.
galla' i ddim watchio'r peth drwodd, mae'n ormod o embaras - a dwi ddim hyd yn oed yn y Blaid Lafur.
ReplyDeleteMae Llafur wedi marw.
Dim athroniaeth, dim hygrededd, dim gweledigaeth dim hyd yn oed PR nawr.
Dyna ddangos gwagedd a sbeit Llafur ac Eluned Morgan ar ei orau.
Diolch Llafur am fod mor onest am unwaith.
Cymharer hyn a www.GallCymru.com
Duw a helpo Llafur.
Dwi ddim wedi son amdano ar fy mlog gan fod digon o hwha wedi bod am hyn.
ReplyDeleteHeb os mae hwn yn gorfod bod yn un o'r isafbwyntiau yn hanes diweddar y Blaid Lafur.
Rhwng Dan Hannan yn rhoi chwip din eiriol i Gordon Brown, Derek Draper (labourlist.org)yn dod drosodd fel idiot ar Daily Politics a Channel 4 News a hwn...sa well i Llafur gadw oddi ar y We am tipyn.
Dyma decharu'r diwedd i Peter Hain (os nad yw hynny wedi dechrau'n barod?).
Diddorol fydd gweld sut fydd y Ceidwadwyr a PC yn ymateb ac yn ymgyrchu a gyfer tholiadau Ewrop. Gan fod hwn yn ymddangos fel rhan o lansiad ymgyrch Llafur yma'n Nghymru tydi'r nod ddim wedi ei osod yn uchel nac ydi?
Mae pob dim a allai fod yn wael am y fideo yn wael - ond yr hyn sydd fwyaf diddorol ydi'r tiredd gwleidyddol mae'n ceisio ymladd arno. Mae'n ceisio ail greu'r gorffennol gweddol bell.
ReplyDeleteDoes yna ddim tystiolaeth cryfach bod plaid mewn trwbl mawr na phan mae'n ceisio osgoi'r byd cyfoes ac ymladd etholiad fel peta'n ugain mlynedd yn ol.
Wedi trio cael ychydig o hwyl ar y peth
ReplyDeletehttp://owainbevan.blogspot.com/