Wednesday, March 25, 2009

Pol piniwn etholiadau Ewrop yn yr Alban



Yn ol cwmni polio Progressive Scottish Opinion mae Llafur am gael etholiad Ewrop gwych yn yr Alban ym mis Mehefin.

Os byddant yn cael 41% neu fwy, neu os ydynt ar y blaen o 11% neu fwy 'dwi'n addo postio llun ohonof fy hun yn bwyta fy nhrons ar y blog yma drannoeth yr etholiad.

4 comments:

  1. Trons glan ta trons ti wedi ei wysgo ar ddiwrnod yr etholiad? :-))
    Dwi fel chdi yn meddwl fydd y trons yn saff tro hwn....mae'r pol piniwn yma yn braidd yn uchelgeisiol...pwy ydi'r corff sydd wedi ei gynnal a be oedd y sampl..ti'n gwybod?

    ReplyDelete
  2. O graffu ar waelod y graff fe weli mai 1043 ydi'e sampl ac mai rhywbeth o'r enw Progressive Scottish Opinion ydi'r cwmni.

    Mae cwmniau polio yn yr Alban efo tipyn o hanes o or ddweud y bleidlais Llafur. Yn ol y polau roedd Llafur i fod i ennill yn Glasgow East o 17%.

    'Dwi mor hyderus na fydd rhaid i mi fwyta'r trons 'dwi'n fodlon cytuno i fwyta trons budur Charles Clarke os ydw i'n anghywir.

    ReplyDelete
  3. Anonymous8:48 am

    Y diawl!...Dwi heb gael brecwast eto!

    ReplyDelete
  4. O paid!...mae'r syniad ynddo'i hun yn ddigon a a chodi pwys!

    ReplyDelete