Mae'r blogiwr Saesneg Guido Fawks yn gwichian oherwydd y parti bach sy'n cael ei hysbysebu yma.
Cwyn Guido ydi bod gweithwyr y Bib i fod yn ddi duedd, ond eu bod yn amlwg yn gefnogol i Obama, ac mai parti 'dathlu' sy'n cael ei drefnu.
'Dydw i ddim yn gwybod os ydi'r ffaith bod y gwahoddiad gyda logo Obama ar ei ben o anghenrhaid yn awgrymu ei fod yn barti un ochrog - ond beth ydi'r blydi ots? Bydd y gloddesta yn digwydd yn amser hamdden yr hacs, 'does gan barn gweithwyr y Bib yng Nghaerdydd ddim y mymryn lleiaf o ddylanwad ar batrymau pleidleisio Americanwyr ac mae bron i bawb ym Mhrydain ag eithrio nytars adain Dde fel Guido ei hun eisiau i Obama ennill beth bynnag.
Mae o llawer mwy o ddiddordeb i mi bod y sbloets wedi ei drefnu yng Nghlwb y Cameo. Mae pawb yng ngorllewin Caerdydd yn gwybod bod ystafell sgityls y Duke of Clarence yn lle llawer gwell na thwll fel y Cameo i drefnu parti - neu unrhyw ddigwyddiad arall o ran hynny.
Ond dyna fo, gan mai Rhodri Williams (cyfaill i John Leslie 'dwi'n deall) - un o gyd weithwyr yr hacs ydi cyd berchenog y Cameo efallai eu bod yn cael telerau arbennig. Peintiau o Bass am £1.50 efallai.
Dwi'n clwad fod rhei o'r hacs am gael parti a'i alw fo yn 'Come On the British National Party Night'
ReplyDeleteDwi'n cymeryd fydd hynny on OK achos fydda nhw ar night off.
Ahem - son am blaid ganol y ffordd yr ochr arall i'r byd oeddwn i, ddim am blaid hiliol ar ein stepan drws.
ReplyDeleteIawn Ok ta. Be am barti a'i alw fo yn 'Come on the Socialist Workers Party' (neu hwyrach ei enw newydd The Green Party)
ReplyDeleteY pwynt ydi tydi y BBC ddim i ddangos bias ac am y BBC oedd Guido yn gweld bai ddim 'plaid ganol ffordd ochr arall i'r byd' a son am hynny oedda chdi hyd yn oed i ddeud fod bron pawb (yn dy farn di de) yn gwybod fod Obama yn mynd i ennill er dy fod wedi trio cau yr argument yna i lawr wrth ddeud na mond nytars sy'n meddwl fel arall. Teip o beth dwi'n sylwi yn amal ar y Beep. Ti'n gweithio iddi nhw?
Gai ddeud fyswn i ddim yn mynd i'r un o'r ddau barti naill na yr uchod ne yr un yn fy mhost cyntaf.
Helo RET sut ti'n cadw ers talwm?
ReplyDeleteMae pobl yn cael gwneud beth maen nhw ei eisiau yn eu hamser eu hunain siwr Dduw - er na fyddet yn credu hynny o wrando ar yr holl bobl sy'n gwichian am y blog yma.
RET?
ReplyDeleteYdwi yn nabod chdi?
Yr unig beth dwi'n wybod amdana chdi ydi dy enw di mae rhyw ffwlbart unprincipled wedi ei rhoi allan.
Ond beth bynag.
Pobl yn cael neud fel ma nhw eisio yn ei hamser amdden?
Ym Mhrydain o dan y Fascists yma!
Blydi hell wyt ti yn wireddol naive yndwyt.
Tria chael hi yn dy ben fod y Beeb i fod yn unbiased. Mae hynny yn golygu dim cael parties i ddathlu un blaid ne nall.Gora bo gynta fydd yna ryddid i ddewis talu am be da ni yn gael a dim y tax ma fel mae hi rwan. gawn ni weld faint fysa yn gwrando ar ei bias nhw wedyn cawn?
Ac am 'yr holl bobl sy'n gwichian ar y blog ma' dwi'n cymeryd dy fod wedi pwyso y delete button arno nhw i gyd achos be dwi yn i weld o'r 18 posts diwetha ydi fod 6 ohonynt wedi cael ateb a hynny ddim mwy na rhyw dri a mwya thebyg fod lot o rheini yn chdi yn rhoi ateb.
Holl bobl my arse!
Biti* i ddeud gwir achos ti'n gneud sense efo lot o betha er fod hi'n annodd darllen dy Gymraeg di.
* na, dim yr un biti a hwna ar Little Britain!
Yn eiddoch
dimret
Mi fydd rhaid i ni gytuno i anghytuno ar hon mae gen i ofn gyfaill.
ReplyDeleteEfallai bod hi'n hen bryd i mi fynd i ddosbarthiadau nos er mwyn gwella'r Gymraeg rhyw ychydig.
O - nid son am bobl yn cwyno ar y blog oeddwn i - son am bobl yn rhedeg at eu cyfreithwyr ac yn cwyno wrth pawb sydd eisiau clywed (gan gynnwys fi) fy mod yn gwneud cam mawr a nhw.
ReplyDeleteIawn, dwi'n gwybod pan dwi di ennill. dim probs :-)
ReplyDeleteGan fod pawb yn cael neud be ma nhw eisio yn ei amsar hamdden dwi am fynd i hel llwynogod efo cwn a ceffyla etc. Ti am ddwad?
Mae dy Gymraeg di yn iawn. Rhy iawn a dyna pam mod i'n chael hi'n annodd. Problam fi dim problam chdi. Ar y llaw arall ma hi'n uffar o job deall rhei o'r hwntws na ar Maes E.
Toes 'na ddim ffordd iawn mae'n siwr
Mae hela llwynog efo ci yn groes i'r gyfraith. 'Dydi mynd i barti ddim.
ReplyDeleteDim rownd fforma dio ddim yn ol be dwi'n ddeall ffordd ma rhei yn siarad yn y pub acw. Synnwn i ddim na fysa na amball i gyngorwr neu blisman neu JP neu jydge neu athro ar y hynt. A mwy thebyg ei fod 'o fewn i'r gyfraith' (winc winc) Mae'n Ok tho, mae nhw yn i hamsar hamddan.
ReplyDeleteHwyrach fod un neu ddau yn mynd i bartioedd/gwleddfeydd y BNP...yn ei hamsar hamdden wrth gwrs.A ddim yn erbyn yr un gyfraith.Pawb ai betha 'te.
Gadal imi wybod os ydi hynna yn iawn yn dy farn di nei di?