Mae True Wales wedi agor gwefan i ddadlau eu hachos. Corff traws bleidiol (yn ol eu tystiolseth eu hunain) sydd wedi ei sefydlu i ymladd yn erbyn rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol ydi True Wales. Y gwleidydd a gysylltir agosaf at y mudiad (os mai dyna'r gair amdano) ydi David Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy.
Does yna ddim llawer ar y wefan hyd yn hyn, ond mae'n ddigon dadlennol i'r graddau ei bod yn rhoi syniad i ni o'r patrwm y bydd yr ymgyrch Na yn debyg o'i gymryd. Mae hefyd ar sawl gwedd yn ddryslyd ac afresymegol - ond nid yw hyn yn syndod - nid rhesymeg na dadlau clir oedd prif nodweddion ymgyrchoedd Na 79 a 97. Serch hynny mae cynwys y wefan yn ddiddorol oherwydd yr is destun sydd ymhlyg ynddi yn hytrach na'r cynnwys ei hun.
Ystyrier isod yr hyn a argymhellir o dan y penawd Vision Statement.
- spending priorities that reflect the needs of all the people.
Eto mae hyn yn gwbl ddi ystyr ynddo'i hun. 'Does yna ddim awgrym pam bod angen ail sefydlu cymdeithas oddefgar - mae cymdeithas Gymreig at ei gilydd yn cael ei nodweddu gan ei goddefgarwch a'i anffurfioldeb. Yn sicr mae'n gymdeithas mwy goddefgar nag un Lloegr - a gellir dangos hyn mewn sawl ffordd. Er enghraifft mae cyfradd pleidleisio i grwpiau adain dde pell megis y BNP yn is o lawer yng Nghymru nag yw yn Lloegr, mae ymosodiadau hiliol yn llai cyffredin o lawer yng Nghymru - hyd yn oed yn y dinasoedd.
- restoration of a cohesive, tolerant society.
Cip yn ol ydi hyn mewn gwirionedd at un o brif themau yr ymgyrchoedd Na blaenorol, sef y byddai gwahanol elfennau o gymdeithas Cymru yn elwa ar draul y lleill yn sgil datganoli. Felly dywedwyd wrth y De mai'r Gogledd fyddai'n elwa, a dywedwyd wrth y Gogledd mai'r De fyddai ar ei hennill. Dywedwyd wrth Gymry di Gymraeg y byddai pob swydd yn mynd i Gymry Cymraeg, a chafodd y Cymry Cymraeg yr argraff mai'r di Gymraeg fyddai'n elwa. Dywedwyd wrth y sawl a anwyd y tu allan i Gymru mai'r Cymry cynhenid fyddai'n cael pob dim, a dywedwyd wrth drigolion y maes glo y byddai pob dim yn cael ei sugno i Gaerdydd. Cymryd mantais o raniadau strwythurol mewn cymdeithas yng Nghymru a'r diffyg sefydliadau cenedlaethol a allai leihau pwysigrwydd y rhaniadau hynny oedd hyn mewn gwirionedd.
Wnaeth hyn ddim digwydd mewn gwirionedd wrth gwrs - er gwaethaf yr holl ddarogan gwae a rhincian dannedd. 'does yna ddim canfyddiad cryf bod y Cynulliad yn secteraidd yn yr ystyr ei fod yn ffafrio un 'llwyth' ar draul y lleill. Dyma i raddau helaeth pam bod y gwrthwynebiad i ddatganoli ynddo'i hun wedi lleihau'n sylweddol.
Cymryd arna bod rhywbeth na ddigwyddodd wedi digwydd a geir yma - ynghyd ag awgrym y byddai pethau'n waeth petai'r Cynulliad yn cael pwerau deddfu llawn.
- no increase in the current number of AMs and MPs
Eto mae'n anodd deall hyn o'i gymryd yn llythrennol. Mater i'r Comisiwn Ffiniau ydi faint o Aelodau Seneddol San Steffan sydd yng Nghymru. Mae'r nifer o Aelodau Cynulliad a geir yn isel - 60 - llai o lawer na Senedd yr Alban a Chynulliad yr Alban. Mae hefyd mwy o gynghorwyr ar nifer o gynghorau Cymru na sydd o aelodau yn y Cynulliad - er bod cyfrifoldebau'r cynghorau hynny yn gyfyng - a'u poblogaethau yn aml yn fach.
Eto, yr is destun sy'n bwysig. Ymgais i gymryd mantais o'r ffaith bod gwleidyddion yn amhoblogaidd ar hyn o bryd a geir yma. Fel mae'n digwydd mae'r cafn yn San Steffan yn llawnach ac yn dyfnach, ac mae canfyddiad pobl o Aelodau Seneddol at ei gilydd yn fwy negyddol nag yw eu canfyddiad o rai'r Cynulliad - ond mae hyn yn clymu'r Cynulliad efo Mandelson, Hamilton ac ati.
- the maintenance of a strong position within the United Kingdom
- keeping the Secretary of State for Wales
Eto, ynddo'i hun nid yw'r ddadl yn gwneud llawer o synnwyr. 'Does neb am wn i yn dadlau nad oes i California le cryf oddi mewn i'r Unol Daleithiau, er bod gan ei senedd taleithiol lawer iawn, iawn mwy o rym na fyddai gan y Cynulliad petai'r refferendwm arwain at bwerau deddfu llawn.
- that any application to draw down Legislative Competence Orders from the United Kingdom Government should reflect the wishes of the majority of the Welsh people.
Ond eto fyth yr is destun sy'n bwysig. Ffordd o awgrymu ydi hyn nad yw'r Cynulliad yn adlewyrchu barn y boblogaeth. Mae hyn yn nonsens llwyr. Pleidleisiodd canran uwch o lawer o bobl tros y ddwy blaid sydd mewn llywodraeth ar hyn o bryd nag a bleidleisiodd tros lywodraeth Prydeinig ers cyn yr Ail Ryfel Byd.
A felly dyna ni - o ddarllen ychydig rhwng y llinellau gallwn weld yn lled glir beth fydd dadleuon yr ochr Na yn 2011 - ac maent yn gyfarwydd - dyma ddadleuon 1979 a 1997. Dyma nhw ar eu symlaf:
(1) Pleidleisio yr ydych mewn gwirionedd tros undod y DU.
(2) Mae gwleidyddion yn bobl llwgr. Peidiwch a phleidleisio i gael mwy ohonyn nhw.
(3) Cynrychioli rhai pobl yn unig mae'r Cynulliad.
(4) 'Dydi mandad y Cynulliad ddim o'r un ansawdd nag un San Steffan.
(6) Bydd mwy o rym i'r Cynulliad yn arwain at grwpiau eraill yng Nghymru yn cymryd mantais ohonoch ac yn cyfoethogi eu hunain ar eich traul.
(7) Mae'r Cynulliad wedi arwain at gymdeithas ranedig, anoddefgar a byddai rhoi mwy o rym iddo'n gwneud pethau'n waeth.
Mae pob un o'r chwe dadl yn idiotaidd, ond y rhai gwirioneddol anymunol ydi'r ddwy olaf. 'Dydyn nhw ond yn gweithio os ydym yn cymryd bod pobl Cymru yn bobl bach, plwyfol, hunanol ac anoddefgar.
Nid pobl felly ydi pobl Cymru - ond mae bach, plwyfol, hunanol ac anoddefgar yn ansoddeiriau sy'n disgrifio David Davies a'i debyg i'r dim.
Hello
ReplyDeleteClicia ar enw y gwefeistr Mathew Parker ar y gwaelod. Edrych be ma'n ddeud ar y tudalen. Nid yw'r unigolyn o blaid nac yn erbyn annibynniaeth (sydd wedi ei gamsillafu). Byswn i ddim yn poeni ryw lawer am wefan tin pot.
ReplyDeleteYn ogystal, mae hwn wedi ei sefydlu gan wleidyddion sy'n gwbad dim am ddemocratiaith. Sôn am beidio gynyddu'r nifer o aelodau seneddol/cynulliad, sydd o dan reolaeth y Comisiwn Etholiadol, wedyn mynnu fod refferendwm wedi ei arolygu gan y Comisiwn Etholiadol.
ReplyDeleteMae'r sefyllfa'n swnio'n debyg i beth oedd yn bod cyn ymosod ar Iraq. Defnyddio'r esgus nad oedd Iraq yn cydweithredu gyda'r CU, weyn mynd yn erbyn y CU ac ymosod ar y wlad!
'Dwi'n cymryd mai rhywun sy'n dylunio gwefannau ar ran pobl eraill ydi Mathew.
ReplyDeleteMae'n rhaid dweud nad ydi'r wefan yn ymddangos fel un arbennig o broffesiynol.