Sunday, May 26, 2019

Beth fydd yn digwydd heno?

Reit, beth sydd am ddigwydd pan mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfri heno?
Y peth cyntaf i’w ddweud ydi os oes rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod i sicrwydd mae nhw’n dweud celwydd.  Yr unig ffordd hollol ddibynadwy o ddweud beth sydd am ddigwydd mewn etholiad ydi cael golwg dda ar y pleidleisiau wedi i’r pleidleisio ddigwydd ond cyn i’r canlyniadau gael eu datgan.  Mae hyn yn eithaf hawdd yn y rhan fwyaf o gyfrifon etholiadol. 

Y rheswm am hyn ydi bod yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gyfri yn dilysu’r pleidleisiau (gwneud yn siŵr bod y nifer cywir o bleidleisiau ym mhob bocs) cyn dechrau cyfri – ac mae’r pleidleisiau yn y golwg pan maent yn gwneud hynny.  Os ydi rhywun efo syniad go lew beth mae’n ei wneud mae’n bosibl darogan y canlyniad yn gyflym iawn ar ôl gweld y pleidleisiau – oni bai bod pethau’n agos iawn wrth gwrs.
Mae etholiadau Ewrop yn wahanol – mae’r papurau yn cael eu dilysu a’u pen i lawr, o ganlyniad canran fach iawn o’r pleidleisiau sydd yn y golwg gan amlaf – ac mae hynny’n ei gwneud yn anodd iawn, iawn i ddarogan yn gywir.

Serch hynny, dydi hyn oll ddim yn golygu na ellir gweld dim byd o gwbl, ac mae yna ddangosyddion eraill hefyd – ym mha wardiau mae’r bleidlais yn uchel iawn neu’n isel iawn a pholau piniwn cyhoeddus er enghraifft.  Ac wrth gwrs mae yna sibrydion o gwmpas – rhai sydd ddim yn gwbl ddibynadwy, ond rhai sydd wedi eu seilio ar rhywfaint wybodaeth bendant – ac mae’n bosibl dod i rhai casgliadau ar sail hynny.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydi ei bod yn gwbl sicr mai’r Blaid Brexit fydd yn cymryd y sedd cyntaf.  Mae nhw wedi gwneud yn dda ar hyd a lled Cymru ac yn debygol o ddod yn gyntaf hyd yn oed yn rhai o’r ardaloedd bleidleisiodd i aros – gan gynnwys y brif ddinas.

Plaid Cymru fydd yn cael yr ail sedd yn ôl pob tebyg.  Mae’n ymddangos bod y bleidlais i’r Blaid wedi bod yn uchel ym mherfedd-diroedd y Gymraeg ac mae’n debygol o ddod yn ail i’r Blaid Brexit mewn nifer o gynghorau lle mae pob Aelod Seneddol yn rhai Llafur, a lle cafodd Llafur fwyafrifoedd anferthol yn 2017.  Mae’n bosibl y bydd y Blaid yn curo Llafur 2:1 mewn nifer o etholaethau sydd ag ASau ac ACau Llafur.

Plaid Brexit fydd yn cael y trydydd sedd – er ei bod yn bosibl – ond ddim yn debygol y byddant yn cael yr ail.

Ac wedyn mae hi’n mynd yn gymhleth – ac mae yna sawl posibilrwydd am beth fydd yn digwydd i’r bedwerydd sedd.  Yr hyn rydym yn gallu bod yn sicr ohono ydi na fydd y Torïaid na’r Blaid Werdd nag UKIP yn y ras arbennig yma. 
Mae yna bleidlais fach i UKIP – un fach – 3% o bosibl – ond gallai hynny fod yn ddrud i’r Blaid Brexit.

Mae’r bleidlais Doriaidd yn debygol o fod yn gyfforddus is na 10% - sydd ddim yn gwbl annisgwyl.  Mae hi’n bosibl na fyddan nhw yn dod yn bumed hyd yn oed.
Mae’r bleidlais Lafur yn debygol o fod yn gyfforddus is nag oedd y polau yn awgrymu.  Mae’n debyg bod y gyfradd pleidleisio yn hynod o isel yn rhai o’r wardiau lle mae Llafur ar eu cryfaf.  Ar ben hynny mae yna adroddiadau o bleidlais wan iawn i Lafur mewn llefydd cwbl annisgwyl – gan gynnwys stepan drws Mark Drakeford.

Bydd y bleidlais Lib Dem yn uwch o lawer nag oedd yn 2014 – a byddant yn ail i’r Blaid Brexit mewn nifer o ardaloedd lle nad ydi trefniadaeth Plaid Cymru yn dda – Abertawe er enghraifft.  Ac mae hyn yn ein gadael efo 4 posibilrwydd ar gyfer y pedwerydd sedd – Llafur, Lib Dem, ail Plaid Cymru a 3ydd i’r Blaid Brexit.  Dwi’n meddwl mai’r pedwerydd posibilrwydd ydi’r lleiaf tebygol – ond nid y posibilrwydd cyntaf ydi’r mwyaf tebygol.

Ond cyn i neb ddechrau cynhyrfu cofiwch beth ddywedais ar y cychwyn - os ydi rhywun yn dweud wrthych eu bod yn gwybod beth sydd am ddigwydd maent yn dweud celwydd.

Beth bynnag, mi geisia i bostio yn hwyrach heno os dwi’n darganfod mwy.

No comments:

Post a Comment