Monday, September 25, 2017

Amaethyddiaeth, y Gymraeg a Brexit

Mae gen i gof i ffrwyth rhyw ymchwil neu'i gilydd i sut bleidleisiodd ffermwyr yng Nghymru yn refferendwm Ewrop a gafodd ei gyhoeddi yn Sioe Frenhinol y llynedd awgrymu i tua 60% ohonynt bleidleisio i adael yr UE.  Wna i ddim cymryd arnaf fy mod yn deall sut a pham aeth un o'r cydrannau hynny o'r economi sydd wedi elwa fwyaf o'r UE ati i bleidleisio i adael.  Ond mae'n werth edrych ar ganlyniadau posibl gadael yr Undeb serch hynny.



I ddechrau mae taliadau o'r UE yn cyfrif am tua 55% o incwm amaethyddol yn y DU, ac mae 73% o allforion amaethyddol y DU yn mynd i'r UE.  Mae'n anhebygol iawn y bydd y sector amaethyddol yn flaenoriaeth i lywodraeth y DU wrth iddi negydu cytundebau masnach yn y dyfodol - mae'r sector amaeth yn cyfri am tua 0.7% o GDP'r DU yn unig.  Byddai hyn yn rhoi'r sector yn weddol agos at ddiwedd y ciw o ran cael ei blaenori - ac mi fyddai'r gydadran Gymreig yn ei thro ar ddiwedd y ciw hwnnw.  O safbwynt llywodraeth y DU mae barwniaid grawn East Anglia yn llawer pwysicach na ffermwyr defaid Eryri.  

Ac nid dyna'r gwaethaf.  Un o'r prif ddadleuon tros adael yr UE oedd y byddai hynny'n galluogi'r DU i negydu cytundebau masnach rydd efo gwledydd y tu hwnt i'r DU.  Petai hyn yn digwydd byddai yn arwain at lawer mwy o fewnforion rhad o ansawdd is na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar y farchnad.   Mae cig o Seland Newydd (er enghraifft) eisoes yn hynod gystadleuol yn y DU, er iddo gael ei gynhyrchu yn ddi gymhorthdal, iddo gael ei symud o un ochr i'r Byd i'r llall a bod tollau wedi ei dalu arno.  

Mae'n bosibl dadlau y bydd llywodraeth y DU yn dod o hyd i'r pres ar gyfer cymorth daliadau wrth gwrs - a gellir dadlau hefyd nad ydi'r gyfundrefn CAP ond wedi ei sicrhau hyd at 2021 ac na chaiff ei adnewyddu.  Ond y gwir amdani ydi bod gan y sector amaethyddol lawer mwy o rym gwleidyddol yn Ewrop na sydd ganddi yma.  Yn ychwanegol at hynny bydd cynnig cymorthdaliadau yn llawer anoddach yn wleidyddol os nad yw'n cael ei ariannu o Ewrop. Os yw'n cael ei dalu yn uniongyrchol o gyllideb llywodraeth y DU bydd yn cystadlu efo addysg, gofal, pensiynau, iechyd ac ati am gyllid - a bydd yn anodd iawn ennill y ddadl yna.

Mewn geiriau eraill gallai gadael yr UE fod yn drychineb i'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Felly ydi o dragwyddol bwys bod y diwydiant amaeth yng Nghymru yn crebachu ymhellach - wedi'r cyfan mae'n rhan gweddol fach o 'r economi?  Wel mae'n dibynnu beth sy'n bwysig i chi.  Un o batrymau amlycaf y degawdau diwethaf o ran y Gymraeg ydi ei bod wedi datblygu i fod yn iaith llai gwledig a mwy trefol.  Y rheswm am hyn ydi bod pobl gynhenid (a Chymraeg eu iaith) wedi bod yn symud o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol yng Nghymru, tra bod pobl o Loegr wedi bod yn symud i ardaloedd Cymraeg eu hiaith.  Dyna pam bod Caernarfon (dyweder) yn llawer mwy Cymraeg o ran iaith heddiw na Phen Llyn - er mai'r gwrthwyneb oedd yn wir trwy gydol hanes Cymru.  

Mae un cydadran o'r Gymru wledig wedi parhau'n Gymreig a Chymraeg iawn fodd bynnag - yr adran  amaethyddol.  Byddai colli honno'n ergyd sylweddol i'r Gymraeg yn y Gymru wledig yn gyffredinol ac yn ergyd farwol mewn rhannau helaeth ohoni.

1 comment:

  1. Cymro1:02 pm

    Ar y llaw arall, mae Undeb Tollau'r UE yn gweithredu fel mur economaidd sy'n amgylchynu'r UE a rhystro ein hallforion i weddill y byd - e.e. ceir treth 100% ar allforion cig o'r UE i'r UDA ar hyn o bryd. Does dim gobaith caneri bydd yr UE yn gwneud cytundeb masnach rydd gyda'r UDA, ond mae yna obaith realistig bydd y DU yn gwneud un os gadewn Undeb Tollau yr UE.

    ReplyDelete