Tuesday, May 30, 2017

Pam bod Albert Owen yn debygol o golli yn Ynys Mon i Ieuan Wyn

Oherwydd bod y bleidlais isaf gafodd Ieuan erioed - pan gollodd i Keith Best yn 1983 - fil yn uwch na'r bleidlais uchaf gafodd Albert erioed.

Record Albert mewn etholiadau San Steffan:

2010 - 11,490
2005 - 12,278
2001 - 11,906

Record Ieuan Wyn yn etholiadau San Steffan:

1997 - 15,756
1992 - 15,984
1987 - 18,580
1983 - 13,333

4 comments:

  1. Beth oedd 2015? Sut mae'r Blaid wedi methu cadw ac ennill y sedd? Ydy pleidlais bersonol Iwj wir mor bwysig neu oes ffactorau eraill? (gofyn nid ensynio). Does bosib fod peth o fôt y Blaid ac iwj wedi bod yn cynaeafu pleidleiswyr Tori neu Lafur meddal?

    Ond gobeithio wir dy fod yn iawn.

    ReplyDelete
  2. Ynys Mon ydi Ynys Mon - dydyn nhw ddim yn dilyn gogwydd 'genedlaethol' ac mae gwleidyddiaeth persenoliaeth yn bwysig.

    ReplyDelete
  3. Anonymous1:32 pm

    Oes yna rhyw strategaeth gan y blaid i ennill pleidleisiau mewn sefyllfa lle mae'r Blaid Lafur ar i fyny ? . Mae holl sylwadau a phamffledi'r blaid hyd yma'n bwrw fod Llafur yn parhau i fod a chyfran o 25% neu llai, sydd ddim o reidrwydd yn wir bellach. A welwn Leanne Wood, o'r diwedd, yn ymosod ar Jeremy Corbyn a'i anwybodaeth o Gymru ? .

    ReplyDelete
  4. 1.32pm

    Pwynt da. Mae'n siwr bod strategaeth. Roedd llawer yn meddwl bod Môn yn garantîd. Dwi wedi bod wrthi yn rhybuddio ers wsnosau.

    Chwarae teg PC Môn yn gweithio'n galed yn lleol.

    ReplyDelete