Mae'n demtasiwn i gael tipyn o hwyl yn tynnu sylw at y ffraeo mewnol cyffredinol sy'n amgylchu'r Blaid Lafur ar hyd y DU ar hyn o bryd, ac awgrymu bod yr hogiau yn cystadlu i weld pwy ydi'r gorau am ffraeo. Ond mae yna bwynt mwy difrifol i'w wneud.
Mae unrhyw un sydd wedi treulio amser yn canfasio yng Ngogledd Cymru yn gwybod mai un o'r prif bethau sy'n poeni etholwyr ydi'r canfyddiad na chaiff y Gogledd chwarae teg ym Mae Caerdydd. Os ydi'r canfyddiad yn un cywir neu beidio, mae'n fater sydd ar flaen meddyliau pobl.
Mae'n ddiddorol felly mai Llafurwraig o Gaerdydd sy'n meiddio cicio yn erbyn y tresi mewn perthynas a gwariant gorffwyll Brynglas. Dim gair gan Ken Skates, na Carl Sargeant na Sandy Mewies na Ann Jones na Lesley Griffiths. Mae'n well ganddyn nhw sefyll yn gadarn tros eu bosus gwleidyddol na thros y sawl sydd wedi eu hethol nhw.
Mae yna ymdeimlad rhanbarthol cryf iawn yng Ngogledd Cymru - mae diffyg dewrder aelodau Cynulliad y Gogledd pan mae'n dod i sefyll tros fuddiannau eu hetholwyr am fod yn broblem i pob un ohonyn nhw fydd yn sefyll pan ddaw etholiadau'r gwanwyn nesaf.
Ac mae 'na phwynt pwysicach na hynny hefyd - effaith y cynllun ar newid yn yr hinsawdd.
ReplyDeleteMae hefyd yn gywilyddus bod gan Arweinydd Plaid sef y Prif Weinidog yn yr achos yma, hawl I roi sac I unigolyn am fentro beirniadu ei Phlaid. In fuasai hyn yn cael digwydd yn San Steffan, nac ar Gyngor Sir. Mae angen newid y drefn.
ReplyDelete