Wednesday, October 14, 2015

Llafur Arfon - gwirio ffeithiau rhan 2

Dwi'n gwybod bod blogiadau gyda'r geiriau'Llafur Arfon' a 'celwydd' ynddynt yn mynd yn ddiflas braidd i ddarllenwyr o rannau eraill o Gymru, ond - gan fentro colli mwy o ddarllenwyr- dyma un arall ar y ffordd.

Bu tipyn o storm yn lleol yn gynharach heddiw yn dilyn hysbyseb gan gwmni o Loegr sydd wedi prynu Plas Glynllifon ger Caernarfon oedd yn awgrymu'n gryf bod y cwmni hwnnw wedi rhoi enw Saesneg ar yr adeilad hanesyddol.


Codwyd y mater yn syth bin gan nifer o wleidyddion lleol.  Dwi'n credu mai'r gwleidydd cyntaf i godi'r mater oedd Sian Gwenllian - ymgeisydd y Blaid yn Arfon yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf - yn dilyn trydariad gan Guto Dafydd.  Cafodd gefnogaeth gan gynghorwyr annibynnol a Llais Gwynedd lleol.  Yn sgil y feirniadaeth chwyrn cafwyd tro  bedol gan y cwmni, a chafodd Plas Glynllifon ei enw gwreiddiol yn ei ol.

Ond yn ol Llafur Arfon, doedd y tro bedol yn ddim oll i'w wneud efo'u gwrthwynebwyr lleol - roedd y cwmni wedi newid eu meddyliau cyn unrhyw feirniadaeth gan Sian a'r gwleidyddion eraill.  Does yna ddim eglurhad pam y byddai'r cwmni yn newid eu meddyliau yn ddi ofyn.



Ond yn ol y Daily Post y feirniadaeth ddaeth gyntaf, a'r tro bedol wedyn.  Felly mae rhywun yn camarwain - Dail y Post neu Lafur Arfon.  Ag ystyried record alaethus Llafur Arfon mewn perthynas a geirwiredd, ac o ystyried bod ganddynt pob gymhelliad i ddweud celwydd (atal gwrthwynebwyr gwleidyddol rhag cael clod), ac  o ystyried nad oes gan Dail y Post hanes o gwbl o gynhyrchu straeon camarweiniol, ac o ystyried llinell amser riportio'r Bib, dwi'n gwybod pwy dwi'n ei gredu.

Gan bod y trydariad wedi ei gyfeirio at brif weinidog Cymru mae cwestiwn diddorol yn codi.  Rydym yn gwybod bod Llafur yn fwy na pharod i gam arwain yr etholwyr - ond ydi hi'n bosibl bod yna ddiwylliant o gam arwain ei gilydd?  Mae'n ymddangos bod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yn un cadarnhaol.

Rydym wedi sefydlu eisoes nad ydi Llafur yn parchu'r etholwyr - 'dydi pobl ddim yn dweud celwydd wrth y sawl rydym yn eu parchu.  Ond ymddengys nad ydi aelodau Llafur hyd yn oed yn cefnogi ei gilydd.



No comments:

Post a Comment