Saturday, February 28, 2015
Araith Kirsty Williams i'w phlaid
Faint ddywedwn ni dywedwch? A diystyru pobl y wasg yn y tu blaen hanner cant efallai - chwe deg ar y gorau.
Friday, February 27, 2015
Thursday, February 26, 2015
Grwp Llafur Cyngor Caerdydd
Hmm, fel mae Cyngor Llafur Caerdydd yn trafod y toriadau anferth maent am eu gwneud mae un o 'u cyn gynghorwyr Siobhan Corria (Gogledd Llandaf), wrthi'n trydar am ddiwylliant mewnol y grwp hwnnw. A barnu o'i sylwadau dydi aelodaeth o'r grwp ddim yn brofiad braf ar yr amser gorau. Duw yn unig a wyr sut mae pethau wedi bod tros yr wythnosau diwethaf pan mae penderfyniadau gwirioneddol anodd wedi gorfod cael eu gwneud.
Mae'r grwp mor rhanedig fel nad ydi hi'n sicr y gallant ennill pleidlais ar eu cyllideb eu hunain - er gwaetha'r ffaith bod ganddynt fwyafrif clir yn y cyngor. Gallwch ddilyn y shambyls yma - gan bod y webcast wedi ei ddiffodd.
Mae'r grwp mor rhanedig fel nad ydi hi'n sicr y gallant ennill pleidlais ar eu cyllideb eu hunain - er gwaetha'r ffaith bod ganddynt fwyafrif clir yn y cyngor. Gallwch ddilyn y shambyls yma - gan bod y webcast wedi ei ddiffodd.
Monday, February 23, 2015
Sunday, February 22, 2015
Llafur Watch - rhan 8
Normaleiddio cyfundrefn wleidyddol sydd yn ei hanfod yn un llwgr y tro hwn. Fel y bydd datblygiadau heno yn ein hatgoffa mae yna berthynas sylfaenol lwgr rhwng buddiannau ariannol a'r system wleidyddol yn y DU.
Agwedd arall ar y gyfundrefn lwgr yma ydi'r swmiau enfawr o arian a roir i bleidiau gwleidyddol gan unigolion cyfoethog a chorfforaethau mawrion. Er enghraifft derbyniodd y Blaid Lafur £385,000 gan gwmni ariannol PricewaterhouseCoopers yn ystod tri mis olaf y llynedd.
Mae'n weddol amlwg pam nad ydi derbyn pres o ffynonellau fel yma yn beth arbennig o gall, ond mi eglura i beth bynnag. Mae'n anodd i blaid sydd mewn llywodraeth weithredu yn groes i fuddiannau'r cwmniau sydd yn ei hariannu. Gormod o barch at anghenion banciau arweiniodd at y diffyg rheoleiddio a arweiniodd yn ei dro at anhrefn ariannol diwedd y ddegawd diwethaf.
Beth bynnag, mae gofyn bellach i bleidiau gwleidyddol ddatgan cyfraniadau unigol sy'n uwch na £7,500 bellach. Roedd gan Llafur a'r Toriaid gryn dipyn o ddatgan i'w wneud y llynedd gan bod pob math o unigolion cyfoethog a chorfforaethau yn syrthio tros eu gilydd i roi pres iddyn nhw. Doedd gan Blaid Cymru ddim un datganiad i'w wneud - doedd y blaid heb gael cymaint ag un cyfraniad o £7,500 neu fwy. Mae'r Blaid yn codi ei harian trwy drefnu boreuau coffi, ocsiynnau addewidion, apelio i aelodau ac ati - nid trwy gymryd swmiau mawr o bres gan fuddiannau preifat.
Ond mae'r Blaid Lafur Gymreig mor wyrdroedig, a chymaint allan o gysylltiad efo'r Gymru gyfoes nes eu bod yn credu mai'r sgandal ydi nad yw Plaid Cymru yn derbyn swmiau mawr o bres gan gwmniau ariannol. Ym myd Llafur Cymru mae peidio a bod ym mhoced pobl gyfoethog yn rhywbeth i gywilyddio ynddo. Mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig o dan yr argraff mai progressives ydi cwmniau fel PricewaterhouseCoopers.
Ac yn y cyfamser rydym yn deall o newyddion heno bod cyn weinidogion Llafur yn cymryd £5,000 y pop am ddefnyddio eu dylanwad i gynorthwyo cwmniau mawr. Peidiwch a disgwyl i Lafur Cymru feirniadu hynny - maen nhw'n rhy brysur yn chwerthin ar ben y sawl sydd a'u pennau y tu allan i'r cafn.
Gyda llaw - rhag ofn bod gennych ddiddordeb mae cyfrifon Plaid Cymru yn ddi eithriad yn y du y dyddiau yma - yn wahanol i'r Blaid Lafur sydd fel arfer efo miliynnau lawer o ddyledion - er gwaethaf yr holl bres sy'n cael eu lluchio atynt.
Paradocs y polau a'r marchnadoedd betio
Dwi wedi 'dwyn y delweddau hyn o wefan arbennig Mike Smithson, . http://www2.politicalbetting.com. Mae'r wybodaeth wedi dyddio rhyw fymryn -mae dau bol wedi eu cyhoeddi ddoe. Un yn rhoi Llafur ar y blaen, a'r llall yn rhoi'r Toriaid ar y blaen.
Ond mae pwynt Mr Smithson yn sefyll - mae mwyafrif llethol y polau yn awgrymu mai Llafur fydd a blaid fwyaf o'r ddwy (tra na fydd y naill blaid na'r llall yn cael mwyafrif llwyr), ond mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu'n glir mai'r gwrthwyneb fydd yn digwydd. Mae yna sawl rheswm posibl am hyn - awgrymaf un neu ddau isod.
1). Toriaid yn betio efo'u calon. Mae gan Doriaid at ei gilydd fwy o bres na Llafurwyr, ac mae'n bosibl eu bod yn betio mewn modd afresymegol. Ceir rhywfaint o dystiolaeth i hyn ddigwydd yn 2010. Roedd y marchnadoedd yn disgwyl mwyafrif clir Toriaidd dri mis cyn yr etholiad.
2). Disgwyliad yn y farchnad y bydd rhywfaint o'r bleidlais UKIP yn mynd at y Toriaid pan fydd y rheiny yn gwneud mor a mynydd o'u haddewid am refferendwm ar Ewrop. Does yna ddim llawer o dystiolaeth polio y bydd hyn yn digwydd, ond mae'n bosibl.
3). Polio preifat. Mae yna gryn dipyn o bolio cudd yn mynd rhagddo - y rhan fwyaf ohono ar ran pleidiau gwleidyddol. Mae'n bosibl bod rhai o'r rheiny yn dweud stori sy'n wahanol 'r stori a ddywedir gan y polau cyhoeddus - a bod y wybodaeth yna'n gwneud ei ffordd at dylent sy'n betio.
4). Betwyr yn gwneud gormod o gyflafan debygol yr Alban. Mae Llafur yn debygol o golli llond trol o seddi yn yr Alban, ond os ydynt yn cael mwy o bleidleisiau na'r Toriaid tros y DU na'r Toriaid, byddant yn cael mwy o seddi na nhw beth bynnag. Yn wir dylent gael mwy o seddi na'r Toriaid os ydynt yn cael 2% yn llai o seddi na nhw.
5). Canfyddiad y bydd persenoliaeth Ed Miliband yn datblygu i fod yn bwnc etholiadol, ac y bydd hynny'n cael effaith negyddol ar gefnogaeth Llafur. Mae yna for o dystiolaeth polio nad ydi Mr Miliband yn apelio at drwch yr etholwyr - hyd yn oed cefnogwyr ei blaid ei hun.
6). Y gwelliant diweddar yn ffigyrau polio'r Blaid Werdd. Hyd yn hyn mae Llafur wedi cael y rhan fwyaf o'u cynnydd mewn poblogrwydd ers 2010 o gyfeiriad y Lib Dems. Byddai perfformiad cryf gan y Blaid Werdd yn cau'r ffynhonnell yma yn rhannol.
7). Patrwm hanesyddol sy'n awgrymu bod plaid sy'n llywodraethu'n ennill rhywfaint o gefnogaeth fel mae etholiad yn dynesu.
Friday, February 20, 2015
Dau lun, dwy stori
Hmm - yn ol Wings Over Scotland mae yna 87 o bobl (ag eithrio'r rhes flaen sydd wedi ei llenwi ag aelodau Senedd yr Alban, Arglwyddi ac Aelod Seneddol yn gwrando ar Ruth Davidson yn traddodi ei haraith yng Nghynhadledd Wanwyn y Toriaid Albanaidd heddiw.
Roedd yna 12,000 yn gwrando ar Nichola Sturgeon yn yr Hydro, Glasgow ym mis Tachwedd - ac roedd rhaid i'r rheiny dalu i gael mynd i mewn. Dwi'n gwybod, dwi'n meddwl.pa un o'r ddwy arweinyddes sy'n edrych ymlaen at etholiadau mis Mai.
Pwt bach am y polau piniwn
Gyda'r etholiad cyffredinol yn prysur agosau gallwn baratoi ein hunain am gannoedd (yn llythrennol) o bolau piniwn tros y misoedd nesaf. Mi fydd yna fwy o bolau nag a gafwyd erioed o'r blaen - mae polio rhyngrwyd wedi gwneud yr arfer yn llawer, llawer rhatach nag oedd yn y gorffennol - felly gallwn ddisgwyl mwy o lawer o boliau. Felly dyma bwt o arweiniad - ar gyfer gamblwyr gwleidyddol ac eraill - gan rhywun sydd wedi gwylio'r polau am fwy o flynyddoedd na mae'n mynd i gyfaddef.
2). Mae rheolau tebygolrwydd yn awgrymu bod pob pol yn anghywir i'r graddau bod gan pob un margin for error, ac mae yna lefel o ansicrwydd. Mae'r rhan fwyaf o bolau yn defnyddio sampl o tua 1,000. Golyga hyn bod y mfe yn +\-3%, ac mae'r lefel ansicrwydd yn 95%. Felly gallai'r 35% fod cyn uched a 38% neu cyn ised a 32% (er mai'r canolrif ydi'r ffigwr mwyaf tebygol). Ymhellach mae un pol ym mhob ugain am fod y tu allan i'r amrediad 32% i 38%. Dydi'r symudiadau bach mewn cefnogaeth mae'r papurau - ynghyd a rhai sylwebyddion a ddylai wybod yn well - yn gwneud mor a mynydd ohonynt mor aml, ddim yn o anghenrhaid yn ystadegol arwyddocaol.
In other words, Company X surveys customers and finds that 50 percent of the respondents say its customer service is “very good.” The confidence level is cited as 95 percent plus or minus 3 percent. This information means that if the survey were conducted 100 times, the percentage who say service is “very good” will range between 47 and 53 percent most (95 percent) of the time.
3). Peidiwch a dewis eich pol. Mae'r polau yn dweud pethau gwahanol. Mae'n demtasiwn i ddewis y pol sydd at eich dant, a chymryd mai hwnnw ydi'r un cywir. Dyna pam mae llawer o wleidyddion yn trydar pol sy'n ffafriol i'w plaid nhw, tra'n anwybyddu pob un sydd ddim.
4). Mae'r polau wedi bod yn anghywir yn y gorffennol, ac mi fyddan nhw'n anghywir eto. Yr esiampl mwyaf cofiadwy (i'r sawl yn ein plith sydd ddigon hen i gofio )ydi etholiad cyffredinol 1992 pan enilliodd John Major, er bod y polau i gyd bron yn awgrymu mai Kinnock fyddai'n ennill. Mae'r cwmniau wedi mireinio eu dulliau ers hynny - ond byddant yn cael pethau'n anghywir o hyd. Er enghraifft tan gyfrifwyd cefnogaeth UKIP yn sylweddol gan y polau Cymreig ar gyfer etholiad Ewrop y llynedd.
In other words, Company X surveys customers and finds that 50 percent of the respondents say its customer service is “very good.” The confidence level is cited as 95 percent plus or minus 3 percent. This information means that if the survey were conducted 100 times, the percentage who say service is “very good” will range between 47 and 53 percent most (95 percent) of the time.
5). Peidiwch a chwyno bod y cwmniau polio yn erlid eich plaid, fel mae nifer o wleidyddion Llafur yn yr Alban yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae'n bosibl bod eu methodoleg yn wallus, ac mae'n briodol tynnu sylw at hynny - ond dydyn nhw ddim yn cael pethau'n anghywir yn fwriadol. Mae busnes y poliwr yn dibynu ar gael pethau'n gywir - os yw'n cael pethau'n anghywir yn rheolaidd mae'n colli ei gwsmeriaid i gyd.
6). Peidiwch a chymryd bod cyfartaledd y polau sydd ar gael yn fwy cywir na pholau unigol. Yn hanesyddol mae polau sydd ymhell o'r cymedr llawn mor debygol o fod yn gywir na rhai sy'n agos ato.
7). Mae cyfeiriad polau yn aml cyn bwysiced a'r union ffigyrau. Os ydi'r polau yn gyffredinol symud oddi wrth un plaid tuag at un arall mae hynny'n arwyddocaol bron yn ddi eithriad - mae hynny'n arbennig o wir yn nyddiau olaf ymgyrch etholiadol.
8). Mae'r rhan fwyaf o bolau Prydeinig yn chwilio am ganrannau 'cenedlaethol' ond etholaeth wrth etholaeth mae etholiadau yn cael eu hennill a'u colli yn y DU. Ers talwm roedd gogwydd yn un rhan o'r DU yn tueddu i gael ei adlewyrchu ym mhob man arall - ond dydi hynny ddim yn wir erbyn hyn - mae ardaloedd daearyddol a grwpiau demograffig yn torri eu cwys eu hunain yn aml iawn. Enghraifft da o hyn ydi'r newid sylweddol yn yr Alban. Mae yna ogwydd tuag at Lafur yn Lloegr, ond yn erbyn Llafur yn yr Alban. Mae hyn oherwydd bod cydadran arwyddocaol o'r bleidlais Llafur yn yr Alban wedi pechu oherwydd i'w plaid ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth i'r wlad. O edrych ar y DU yn ei chyfanrwydd go brin bod y bobl hyn yn cymaint ag 1% o'r etholwyr - ond mae ganddynt y potensial i wneud gwahaniaeth arwyddocaol iawn - gallant yn hawdd amddifadu Llafur o fwy na 40 sedd ym mis Mai. Byddai hynny'n hen ddigon i'w hamddifadu o fwyafrif llwyr.
9). Peidiwch a chymryd gormod o sylw pan mae'r polau yn dod yn fwy tebyg i'w gilydd yn niwedd Ebrill a dechrau Mai. Mae hyn yn digwydd yn amlach na pheidio fel mae diwrnod etholiad cyffredinol yn dynesu. Mae llawer yn meddwl bod hyn yn adlewyrchu beth sy'n mynd i ddigwydd ar y diwrnod - ond dydi o ddim. Yr hyn sy'n digwydd ydi bod y cwmniau polio sydd a chanlyniadau gwahanol i'r rhan fwyaf o'r lleill yn dechrau cael panig - os ydynt yn wahanol ac yn gwbl anghywir byddant yn edrych yn wirion ac yn colli busnes. Felly mae yna demtasiwn i'r cwmniau polio sy'n cael canlyniadau ar eithafion yr amrediad i addasu eu methodoleg i'w wneud yn fwy tebyg i fethodoleg cwmniau eraill. Canlyniad hyn ydi bod eu canlyniadau yn mynd yn fwy tebyg i rai cwmniau eraill. Dydi hynny ddim yn golygu o anghenrhaid eu bod yn mynd yn gywirach.
10). Edrychwch ar wahanol fathau o boliau. Polio rhyngrwyd a geir fel rheol heddiw. Ni ddylai hynny wneud gwahaniaeth - maent yn pwyso eu canlyniadau er mwyn sicrhau bod eu sampl yn cynrychioli'r gofrestr pleidleisio yn ei chyfanrwydd. Ac yn wir mae record y cwmniau rhyngrwyd yn eithaf da. Ond erys y ffaith bod y sawl sydd yn eu sampl wedi gwirfoddoli i gymryd rhan - ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud y sampl yn wahanol i'r pwll cyflawn o etholwyr. Pe byddai yna batrwm o'r polwyr ffon / wyneb yn wyneb yn dweud un peth a'r polwyr rhyngrwyd yn dweud rhywbeth arall, mi fyddwn i'n rhoi mwy o gred i ganfyddiadau'r grwp cyntaf na'r ail.
Thursday, February 19, 2015
Is etholiadau Hengoed
Deall bod Plaid Cymru wedi ennill is etholiad Cyngor Gwledig Llanelli. Yr etholiad Cyngor Sir yn agos, ond o bosibl Plaid Cymru heb wneud digon i ennill.
Diweddariad - Plaid Cymru 22 pleidlais yn brin yn yr etholiad Cyngor Sir.
351 i 285 o flaen Llafur ar y Cyngor Gwledig.
Llafur 335, Plaid Cymru 313 ar y Cyngor Sir.
Diweddariad Cyngor Sir
Llaf - 335
PC - 313
UKIP - 152
PPLF - 80
Ann - 76
Tori - 54
Llafur watch - rhan 7
Ceisio dychryn yr etholwyr yn wirion - yn yr achos yma trwy honni bod eu gwrthwynebwyr yn fygythiad i filiynau o bobl sydd ddim eto yn bodoli.
Wednesday, February 18, 2015
Llongyfarchiadau _ _
Llongyfarchiadau i Tony Blair am ennill gwobr am ei wasanaethau i heddwch yn y Dwyrain Canol - ynghyd a miliwn o ddoleri. Go brin y gall neb anghytuno efo'r wobr honno - oni bai am Tony ni fyddai'r Dwyrain Canol y llyn heddychlon, tawel yw heddiw.
Llongyfarchiadau hefyd i'r Tywysog Andrew ar gael ei ddyrchafu'n is Adrimal (beth bynnag ydi hynny yn y Gymraeg) gan ei fam fel anrheg penblwydd yn 55 oed. Mi fydd hyn yn siwr o fod o gymorth iddo anghofio'r gwahanol broblemau sydd ganddo yn llysoedd barn America. Mae'r broses yma o ddewis uchel swyddogion yn amlwg yn un o'r rhesymau am effeithlionrwydd chwedlonol lluoedd 'diogelwch' y DU.
A llongyfarchiadau i'w dad, y Tywysog Philip ar gael ei urddo'n farchog gan lywodraeth Awstralia. Mi fydd yr anrhydedd yn ychwanegiad gwych i weddill ei deitl swyddogol - His Royal Highness The Prince Philip, Duke of Edinburgh, Earl of Merioneth, Baron Greenwich, Royal Knight of the Most Noble Order of the Garter, Extra Knight of the Most Ancient and Most Noble Order of the Thistle, Member of the Order of Merit, Grand Master and First and Principal Knight Grand Cross of the Most Excellent Order of the British Empire, Knight of the Order of Australia, Additional Member of the Order of New Zealand, Extra Companion of the Queen's Service Order, Royal Chief of the Order of Logohu, Extraordinary Companion of the Order of Canada, Extraordinary Commander of the Order of Military Merit, Canadian Forces Decoration, Lord of Her Majesty's Most Honourable Privy Council, Privy Councillor of the Queen's Privy Council for Canada, Personal Aide-de-Camp to Her Majesty, Lord High Admiral of the United Kingdom.
Pwy ddywedodd bod anrhydeddau yn llwyth o lol di ystyr sy'n cael eu defnyddio i droi'r gwirionedd a'i ben i lawr?
Llongyfarchiadau hefyd i'r Tywysog Andrew ar gael ei ddyrchafu'n is Adrimal (beth bynnag ydi hynny yn y Gymraeg) gan ei fam fel anrheg penblwydd yn 55 oed. Mi fydd hyn yn siwr o fod o gymorth iddo anghofio'r gwahanol broblemau sydd ganddo yn llysoedd barn America. Mae'r broses yma o ddewis uchel swyddogion yn amlwg yn un o'r rhesymau am effeithlionrwydd chwedlonol lluoedd 'diogelwch' y DU.
A llongyfarchiadau i'w dad, y Tywysog Philip ar gael ei urddo'n farchog gan lywodraeth Awstralia. Mi fydd yr anrhydedd yn ychwanegiad gwych i weddill ei deitl swyddogol - His Royal Highness The Prince Philip, Duke of Edinburgh, Earl of Merioneth, Baron Greenwich, Royal Knight of the Most Noble Order of the Garter, Extra Knight of the Most Ancient and Most Noble Order of the Thistle, Member of the Order of Merit, Grand Master and First and Principal Knight Grand Cross of the Most Excellent Order of the British Empire, Knight of the Order of Australia, Additional Member of the Order of New Zealand, Extra Companion of the Queen's Service Order, Royal Chief of the Order of Logohu, Extraordinary Companion of the Order of Canada, Extraordinary Commander of the Order of Military Merit, Canadian Forces Decoration, Lord of Her Majesty's Most Honourable Privy Council, Privy Councillor of the Queen's Privy Council for Canada, Personal Aide-de-Camp to Her Majesty, Lord High Admiral of the United Kingdom.
Pwy ddywedodd bod anrhydeddau yn llwyth o lol di ystyr sy'n cael eu defnyddio i droi'r gwirionedd a'i ben i lawr?
Tuesday, February 17, 2015
Yr Estelada'n weladwy iawn ym Marcelona
Treulio diwrnod neu ddau ym Marcelona.
Yn dilyn refferendwm answyddogol Mis Tachwedd a gorymdaith anferth Mis Medi o blaid annibyniaeth, mae'n anodd osgoi'r mater yma. Mae'r Estelada - baner y mudiad annibyniaeth i'w gweld ymhle bynnag rydych yn edrych.
Monday, February 16, 2015
Sylwebaeth dethol Golwg360
Hmm, rhyddhawyd canlyniadau pedwar pol heddiw - tri (Ashcroft, Populus ac YouGov) yn awgrymu bod Llafur ar y blaen (o drwch blewyn) ac un (ICM) awgrymu bod y Toriaid ar y blaen. Am resymau sy'n glir yn unig i Golwg360 maent yn adrodd ar yr outlier, tra'n anwybyddu'r lleill.
Dwi'n gwybod bod stori dda'n hwyl, ond wir Dduw mae'n bwysig ceisio darparu sylwebaeth cytbwys ar faterion fel hyn.
Dwi'n gwybod bod stori dda'n hwyl, ond wir Dduw mae'n bwysig ceisio darparu sylwebaeth cytbwys ar faterion fel hyn.
Llafur a phwerau codi trethi
Ni ddylai'r newyddion na fydd Llafur yn cynnig pwerau codi trethi i'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn syndod i ynrhyw un sy'n darllen Blogmenai.
Tra'n derbyn bod perygl i mi ddechrau swnio fel tiwn gron dyma ailadrodd y rheswm pam. Petai perthynas yn cael ei sefydlu rhwng gwariant cyhoeddus a threthiant cyhoeddus, byddai'n rhaid i Lafur ddewis rhwng y naill a'r llall. Dydyn nhw ddim eisiau gwneud hynny. Mae eu hapel etholiadol yn dibynu ar gymryd arnynt eu bo o blaid gwariant cyhoeddus, ond heb godi ffadan goch ar neb i sicrhau'r gwariant cyhoeddus hwnnw. Plesio pawb a phechu neb. Pan mae'r cysylltiad yn cael ei wneud bydd Llafur Cymru yn gorfod rhoi eu gwleidyddiaeth anaeddfed a phlentynaidd i un ochr - a dydyn nhw ddim am wneud hynny ar chwarae bach.
Saturday, February 14, 2015
Pam y gallai'r tro hwn fod yn wahanol
Rhyw siarad wrth ganfasio oedd rhai ohonom wrth ganfasio Mynydd Llandygai y bore 'ma am ragolygon y Blaid ym mis Mai. Mae etholiadau cyffredinol yn tueddu i fod yn anodd i'r Blaid wrth gwrs - yn draddodiadol dyma 'r etholiadau lle mae canran y Blaid o bleidleisiau ar ei isaf. Ond mae yna le i gredu y gallai - gallai - pethau fod yn wahanol y tro hwn. Dyma pam:
1). Mae'r papurau newydd wedi llywio'r naratif etholiadol mewn etholiadau cyffredinol. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru'n cael eu newyddion o bapurau Seisnig. Golyga hyn fod llawer o Gymry yn edrych sr etholiadau cyffredinol trwy lygaid Seisnig. Mae yna lawer llai o bobl yn darllen papurau newydd heddiw nag oedd yna yn 2010.
2). Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu penderfynu bron yn ddi eithriad gan ystyriaethau economaidd - ac mae'r Blaid yn ei chael yn anodd i gael ei phig i mewn i'r dadleuon hynny yn aml. Mae pethau'n wahanol y tro hwn. Mae Llafur a'r Toriaid a'r Dib Lems yn yr un cwch economaidd i'r graddau eu bod o blaid parhau efo toriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus - er nad i union yr un graddau. Mae yna ddwr clir economaidd rhwng y Blaid a chwch llymder - ac mae'r toriadau yn effeithio'n sylweddol ar lawer iawn o bobl.
3). Gan amlaf dydi llawer o bobl ddim yn cymryd llawer o sylw o neges y Blaid yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol oherwydd nad ydi hi'n debygol o fod mewn sefyllfa i weithredu ar y neges honno ar ol yr etholiad. Unwaith eto mae pethau'n wahanol y tro hwn. Mae disgwyliad cyffredinol bron y bydd yna senedd grog - ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu bod y tebygolrwydd o senedd felly yn uwch na 80%. Mae cefnogaeth yr SNP yn y polau a pherthynas agos draddodiadol y Blaid efo'r SNP yn helpu 'r canfyddiad bod cyfle go iawn i'r Blaid wireddu ei hamcanion.
4). Mae'r ffaith bod Plaid Cymru a'r SNP am gael cyfle i gymryd rhan yn y dadleuon teledu hefyd yn cynnig cyfle euraidd - cyfle i osod y Blaid ynghanol y ddisgwrs etholiadol. Mi fydd cynrychiolwyr y prif bleidiau unoliaethol yn edrych yn debyg i'w gilydd - o ran eu neges ac o ran pwy ydyn nhw - dynion canol oed cyfoethog iawn o Dde Ddwyrain Lloegr - ac o ran eu cefnogaeth i doriadau llym mewn gwariant cyhoeddus. Bydd rhaid i'r Bib a Sky roi sylw i gyfraniadau Leanne a Nichola Sturgeon yn eu bwlitinau newyddion i'r dadleuon os ydyn nhw eisiau gwneud hynny neu beidio.
5). Gyda chynnydd yng nghefnogaeth y Blaid Werdd ac UKIP mi fydd y bleidlais unoliaethol yn hollti bum ffordd yn lle tair y tro hwn. Mi fydd UKIP yn effeithio'n negyddol ar un gydadran o'r bleidlais Lafur tra bydd y Gwyrddion yn atal pleidleisiau rhag mynd oddi wrth y Dib Lems i Lafur.
6). Dydi'r Blaid Lafur yng Nghymru ddim wedi arfer cael eu beirniadu - mae'r cyfryngau Cymreig yn ffyddlon iawn iddyn nhw. Mi fydd y papurau Toriaidd yn ymosod gydag arddeliad hysteraidd y tro hwn oherwydd eu bod eisiau creu naratif o fethiant gan Lafur yng Nghymru, a honni y byddai Llafur yn methu llywodraethu Lloegr hefyd. Bydd llawer o'r feirniadaeth (er nad y cyfan) yn anheg, ond bydd yn effeithio ar bleidlais Llafur yng Nghymru er gwaethaf hynny.
Mae'r pedwar pwynt cyntaf yn ymwneud ag un gair mewn gwirionedd - perthnasoldeb. Mae cyfle i'r Blaid fod yn gwbl berthnasol ddisgwrs etholiad cyffredinol am y tro cyntaf erioed. Dydi'r polau ddim yn dangos symudiad mawr i gyfeiriad y Blaid ar hyn o bryd, ond mae'r tirwedd etholiadol yn fwy ffafriol i'r Blaid nag yw erioed wedi bod. Mae yna lawer iawn o waith i'w wneud cyn mis Mai - ond mae yna gyfle gwirioneddol yno i sicrhau canlyniad hanesyddol.
Map yr wythnos - rhan 1
Mae gen i rhyw ddiddordeb tipyn bach yn rhyfedd mewn mapiau gwleidyddol - felly dyna feddwl am ddechrau cyfres o flogiadau ar fapiau gwleidyddol.
Trosglwyddiad iaith ydi thema'r cyntaf. Mesur ydi hwn o ble mae plant tair a phedair oed yn siarad y Gymraeg. Arwyddocad yr oedran hwn ydi ei fod yr unig gohort lle nad ydi'r system addysg wedi dylanwadu llawer arno.
Daw'r mapiau o wefan statiaith.
Daw'r mapiau o wefan statiaith.
Tuesday, February 10, 2015
Lleoliad gwleidyddol pleidiau'r DU
Wel, yn ol y wefan yma beth bynnag.
Mae'n ddiddorol mor debyg i'w gilydd - ac adain Dde - ydi'r prif bleidiau unoliaethol.
Mae'n ddiddorol mor debyg i'w gilydd - ac adain Dde - ydi'r prif bleidiau unoliaethol.
Rhai o'r etholaethau Cymreig lle mae'r Toriaid yn derbyn nad oes ganddynt obaith i'w hennill
Diolch i Gareth am dynnu ein sylw at restr o seddi sydd 'ddim yn cael eu targedu' gan y Toriaid. Hy rhestr maent yn derbyn nad oes ganddynt unrhyw obaith i'w hennill. Mae yna fwy wrth gwrs - ond dyma'r rhai sydd wedi eu rhyddhau - trwy ddamwain mae'n debyg.
Anwen Barry – Arfon
Anwen Barry – Arfon
Andrew Atkinson – Wrexham
Keith Dewhurst – Cynon Valley
Ed Hastie – Neath
David Nicholls – Clwyd South
Meirion Jenkins - Pen y Bont
David Nichols - De Clwyd
Bill Rees - Merthyr
Natasha Asghar - Dwyrain Casnewydd
Chris Davies - Brycheiniog a Maesyfed
Byron Davies - Gwyr
James Davies - Dyffryn Clwyd
Neil Fairbank - Dwyfor Meirion
Alsaf Hussein - Dwyrain Abertawe
Mark Isherwood - Delyn
Laura Knightley - Alyn a Glannau Dyfrdwy
Selaine Saxby - Llanelli
Nick Webb - Gorllewin Casnewydd
Craig Williams - Gogledd Caerdydd
Edward Yi He - Aberafon
Monday, February 09, 2015
Llongyfarchiadau i _ _ _
_ _ _ Alun Cairns, Ian Lucas, Madeleine Moon a'r erchyll Owen Smith am lwyddo i berswadio'r bobl bach annwyl 'na sy'n gwneud ffortiwn yn gwerthu arfau ar hyd a lled y Byd i fwy neu lai unrhyw un sy'n fodlon talu i roi ffidan iawn iddyn nhw.
Gobeithio i'r tri ohonyn nhw fwynhau'r araith ddi wahoddiad a di groeso gan Anne Marie O'Reilly.
I weld y tabl yn llawn o'r 40 AS aeth i'r digwyddiad gweler yma.
Gobeithio i'r tri ohonyn nhw fwynhau'r araith ddi wahoddiad a di groeso gan Anne Marie O'Reilly.
I weld y tabl yn llawn o'r 40 AS aeth i'r digwyddiad gweler yma.
Saturday, February 07, 2015
Thursday, February 05, 2015
Gwilym Owen eto fyth
Tybed os mai Gwilym Owen ydi colofnydd mwyaf llwfr Cymru? Fel rydym wedi son sawl gwaith yn y gorffennol mae'n fframio ei honiadau / ensyniadau ar ffurf cwestiynau - ac felly'n llwyddo i osgoi gorfod bod yn atebol am yr hyn mae'n ei honni a'i awgrymu.
Fel arfer ceir nifer o gwestiynau yn ymdrech yr wythnos yma. Faint yn union o bobl oedd yn y gwrthdystiad yn erbyn penderfyniad Tai Cymunedol Gwynedd i ollwng eu amod Cymraeg wrth hysbysebu swyddi? Ai Cymry Cymraeg sy'n cael eu penodi i pob swydd gan Gyngor Gwynedd? Sawl athro / athrawes ddi Gymraeg sydd wedi eu penodi i ysgolion uwchradd yn rhannau Cymraeg Gwynedd? Oedd yr athrawon nad ydi Gwilym yn gwybod os ydynt wedi eu penodi neu beidio wedi eu penodi pan roedd Sian Gwenllian yn ddeilydd portffolio addysg Cyngor Gwynedd? Pam bod penaethiaid addysg Gwynedd wedi rhoi penrhyddid i lywodraethwyr a phenaethiaid dorri polisi iaith y sir trwy benodi'r athrawon nad ydi Gwilym yn gwybod os ydynt wedi eu penodi? Os oedd Sian Gwenllian yn gwybod am benodiad yr athrawon di Gymraeg nad ydi Gwilym yn gwybod os ydynt wedi cael eu penodi neu beidio?
Un pwynt brysiog cyn cychwyn - mae ei gwestiwn ynglyn ag os ydi Cyngor Gwynedd yn sicrhau eu bod yn cyflogi Cymry Cymraeg yn un rhyfeddol. Byddai'n anghyfreithlon cyflogi ar sail ethnig - a fyddwn na neb arall o fewn y Blaid yn gallu cefnogi polisi felly. Polisi o gyflogi pobl sy'n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg a geir yng Ngwynedd - nid polisi o gyflogi Cymry Cymraeg. Mae yna weithwyr sector gyhoeddus yng Ngwynedd o Gymru, Lloegr ac o'r tu hwnt i llefydd hynny sy'n gallu cynnig gwasanaeth ddwyieithog. Mae'r awgrym bod y polisi yn un sy'n ymwneud a chyflogi ar sail ethnig yn awgrym cwbl gywilyddus.
O ran y cwestiynau eraill, mi allaf ateb ambell un.
Beth bynnag ddywedodd Karen Owen yn y Cymro roedd yna rhwng 200 a 250 o bobl yno - mi wnes i gyfri. Dydi Gwilym ddim yn hoffi protestiadau iaith - ac mae wedi gwneud datganiad cwbl boncyrs yn y gorffennol ei fod yn nodi o graffu yn ofalus ar ei deledu mai pobl sy'n ennill eu bywoliaeth o'r Gymraeg sy'n eu mynychu.
Mae yna bobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg yn gweithio i Gyngor Gwynedd - ond lleiafrif bach iawn ydi'r rheiny - rhywbeth o dan 2% -
Mae'r >2% hynny bron yn ddi eithriad naill ai wedi ymrwymo i ddysgu'r iaith, neu yn gallu siarad yr iaith yn ddigon da i gyflawni'r swydd benodol maent yn ei gwneud trwy ei chyfrwng.
Dydw i ddim yn gwybod os oes yna staff sydd ond yn siarad Saesneg wedi eu penodi i ysgolion uwchradd mewn ardaloedd Cymreig yng Ngwynedd - ond dydw i ddim yn ymwybodol o achosion felly. Dwi hefyd yn gwybod mai mater i lywodraethwyr ydi penodi staff, nid mater i gynghorau. Mae'r pwerau i benodi staff wedi eu datganoli i ysgolion unigol ers degawdau. Byddai'n anghyfreithlon i gyngor sir geisio cymryd y pwerau hynny.
Dwi wedi beirniadu arddull sgwennu Gwilym ar gychwyn y blogiad yma - ond cyn ei fod o yn cael dweud yr hyn mae ei eisiau trwy'r ddyfais o fframio ei honiadau ar ffurf cwestiwn ym mhob erthygl mi wnaf i hynny unwaith mewn blogiad.
Pam bod Gwilym mewn erthygl ar ol erthygl yn beirniadu ymrwymiad i'r Gymraeg yr unig awdurdod lleol sy 'n ei defnyddio fel iaith weinyddol, a sydd a'i holl weithlu bron yn siarad y Gymraeg tra'n anwybyddu'r 21 awdurdod arall sy'n gwneud ychydig neu ddim defnydd o'r iaith ar lefelau gweinyddol a rheolaethol?
Pam nad ydi Gwilym yn teimlo unrhyw angen i dynnu sylw at ddiffyg darpariaeth Cymraeg yr 11 awdurdod lleol sy'n cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur?
Os ydi Gwilym yn credu bod gwneud defnydd o'r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig, pam nad oes ganddo air i'w ddweud pan mae gwleidyddion Llafur yn honni bod cynnig darpariaeth felly yn ymylu ar hiliaeth.
Ag ystyried yr uchod onid yw'n rhesymol cymryd nad oes gan Gwilym y mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn hyrwyddo a chynnal y Gymraeg mewn gwirionedd, ond bod ganddo pob diddordeb mewn gwneud defnydd sinigaidd ohoni i ymosod ar yr unig blaid sy'n rhoi bri i iddi - Plaid Cymru?
Ac yn olaf, os ydi Golwg yn benderfynol o gyflogi hen hac, Llafuraidd, chwerw a sinigaidd fel colofnydd rheolaidd, onid yw'n rhesymol disgwyl i bobl a safbwyntiau gwahanol gael mynegi'r safbwyntiau hynny o bryd i'w gilydd?
Dim ond gofyn.
Wednesday, February 04, 2015
Llafur watch - rhan 6
Mae'n edrychiad ni heddiw i ddulliau Llafur o gamarwain etholwyr yn mynd a ni ymhell o Arfon, ac yn wir ymhell o Gymru - rydym yn mynd i'r Alban ac hynny yn sgil y polau Ashcroft cwbl drychinebus o safbwynt Llafur.
Mae'r hen gelwydd 'Vote SNP, Get Tory' yn un cyfarwydd iawn i ni yng Nghymru - ond gyda'r geiriau Plaid Cymru yn cymryd lle SNP yma wrth gwrs. Y drwg - o safbwynt Llafur - ydi nad oes neb yn credu honna y tro hwn. Mae'r SNP wedi datgan yn glir na fyddan nhw yn cefnogi llywodraeth Doriaidd a'u bod yn awyddus i gefnogi llywodraeth Lafur - am bris, ac mae'r ffaith eu bod yn blaid lywodraethol yn yr Alban yn sicrhau bod y neges honno yn cael ei chlywed yn ddigon clir gan yr etholwyr. Dydi'r ffaith i Lafur yn yr Alban dreulio'r rhan fwyaf o'r llynedd yn dweud celwydd law yn llaw a'r Toriaid ddim yn help wrth gwrs
Yr ateb i'r broblem fach yma ydi cyfnewid un celwydd am un arall - neu o leiaf ei chyfnewid am amrywiaeth ar y celwydd cyntaf. Yr honiad diweddaraf ydi mai'r blaid fwyaf sy'n cael ffurfio llywodraeth, a bod pob sedd mae'r SNP yn ei hennill yn ei gwneud yn fwy tebygol mai'r Toriaid fydd y blaid fwyaf. Dydi hyn ddim mymryn mwy gwir na'r celwydd cyntaf wrth gwrs - fel mae'r cyngor cyfansoddiadol a'r dyfyniad o reoliadau'r cabinet isod yn dangos.
Y sefyllfa mewn gwirionedd ydi mai'r prif weinidog ar y pryd sy'n cael y cynnig cyntaf i ffurfio llywodraeth, ac os nad yw'n llwyddo mae arweinydd yr wrthblaid yn cael cynnig i wneud hynny. Dyna ddigwyddodd yn 2010.
Hyd yn oed petai'r celwydd sy'n cael ei wyntyllu gan y Blaid Lafur yn wir, dydi hi ddim yn bosibl i blaid na all sicrhau mwyafrif ar lawr Ty'r Cyffrefin basio deddfau nag unrhyw beth arall. Byddai'n rhaid wrth etholiad arall mewn ychydig wythnosau.
Tuesday, February 03, 2015
Polau Albanaidd Ashcroft
Roedd polau Ashcroft i fod i gael eu rhyddhau 'fory. Mae'n ymddangos eu bod wedi eu rhyddhau yn fuan gan rhywun ar y We. Os ydi'r ffigyrau isod yn gywir - a does gen i ddim rheswm i feddwl nad ydynt - mae gwleidyddiaeth yr Alban wedi ei drawsnewid yn llwyr.
Ynglyn ag ymgyrchu negyddol
Mae'n un o nodweddion etholiadau Prydeinig bod y pleidiau yn pwysleisio pwysigrwydd ymgyrchu cadarnhaol ar union yr un pryd na maent yn mynd ati i ymgyrchu yn negyddol. Dydi'r ddeuoliaeth yma ddim yn ddirgelwch mewn gwirionedd - mae honni i fod yn gadarnhaol yn swnio'n dda, ond mae ymgyrchu negyddol yn gweithio. Dyna pam bod gwleidyddion yn America yn gwario biliynau ar ymgyrchu negyddol - yn llythrennol.
Dyma dri o negeseuon etholiadol negyddol mwyaf effeithiol y degawdau diweddar - 1979, 1992 a 2001. Mae'r math yma o beth yn effeithiol mae gen i ofn.
Monday, February 02, 2015
Glasgow yn symud i gyfeiriad yr SNP yn ol y marchnadoedd betio
Mae'n ddiddorol bod yr SNP bellach yn ffefrynau gweddol glir yn nhair o saith etholaeth Glasgow ar gyfer etholiad mis Mai. Tan yr ychydig ddyddiau diwethaf yn Glasgow North yn unig oeddynt yn ffefrynau. Mae'n bosibl bod hyn yn gysylltiedig a'r ffaith bod Michael Ashcroft wedi bod wrthi'n polio etholaethau unigol yn yr Alban tros yr wythnosau diwethaf. Mae'r polio hwnnw bellach wedi ei goledu, ac mae yna le i gredu y byddant yn ffafriol i'r SNP.
Bydd y canfyddiadau yn cael eu rhyddhau am 11 o'r gloch fore Mercher yma.