Tuesday, February 10, 2015

Lleoliad gwleidyddol pleidiau'r DU

Wel, yn ol y wefan yma beth bynnag.

Mae'n ddiddorol mor debyg i'w gilydd - ac adain Dde - ydi'r prif bleidiau unoliaethol.

6 comments:

  1. Newydd wneud yr holiadur - am sioc! Dwi'n nes at y blaid Werdd na unrhyw blaid arall... Chwith - Dde tebyg i'r SNP, a Libertarian tebyg i'r Gwyrddion.

    Fel o'n i'n amau, chydig i'r dde o Blaid Cymru, ond i'r chwith o'r pleidiau Prydeinig mawr.

    Ti wedi llenwi'r holiadur Cai?

    ReplyDelete
  2. Anonymous7:35 pm

    Diddorol gweld fod PC i'r chwith o'r SNP. Hefyd, mae'r SDLP i'r chwith, ac yn fwy rhyddfrydol na Sinn Fein. Mae'n rhaid cofio fod Pabyddiaeth, tan yn gymharol ddiweddar, yn gynhenid elyniaethus i'r adain-chwith.

    ReplyDelete
  3. Anonymous5:53 pm

    Gen i amheuaeth fod yr SDLP yn cael ei safleoli i'r chwith o Blaid Cymru. Byddwn i'n meddwl fod Plaid Cymru gryn dipyn fwy i'r chwith nag y mae'r wefan hon yn tybied. Dafydd Williams

    ReplyDelete
  4. Newydd gwneud y 'prawf' dw i ar y chwith ;-)

    ReplyDelete
  5. Yn y blaid anghywir mi faswn i'n gesho! Gwyrdd?

    ReplyDelete
  6. Anonymous5:30 pm

    Diddorol iawn fuasai gweld lle mae pobl y cymoedd yn gweld eu hunain bellach. Buasai'n egluro llawer am fethiant diflas Plaid Cymru ymysg y di-Gymraeg, mi dybiaf.

    ReplyDelete