Sunday, August 31, 2014

Pamffled Llafur yn Arfon

Dwi newydd gael cip ar bamffled etholiadol cyntaf Alun Puw, Llafur - ymgeisydd Llafur yn Arfon yn Etholiad Cyffredinol 2015. 

Er bod y pamffled braidd yn or eiriog, dyda ni ddim yn dysgu llawer a dweud y gwir.  Mae'n dod yn amlwg bod Alun yn hoff o falwns - dim o'i le yn hynny wrth reswm, dwi'n eithaf hoff o falwns fy hun.  Rydym hefyd yn cael un o'r graffiau Lib Demaidd yna sy'n dangos i gefnogwyr y Toriaid a'r Lib Dems mai dim ond Llafur all guro'r Blaid.  Ymgais i ddenu pleidleiswyr tactegol o gyfeiriad cefnogwyr pleidiau tebyg i'r Blaid Lafur o bosibl.

Beth bynnag y prif bwynt ydi'r un arferol - os nad ydi pobl yn fotio i Alun Puw bydd y Toriaid yn ennill - ac mae pawb yn gwybod bod y rheiny yn bobl ddrwg iawn, iawn.  Oni bai bod y syniad y byddai'r Blaid yn cynnal llywodraeth Doriaidd yn nonsens mae yna ddau ateb arall i hon.

Yn gyntaf pan mae'n dod i doriadau gwariant cyhoeddus tair boch o'r un pen ol (mae yna rhywbeth o'i le ar y trosiad yna) ydi Llafur, y Toriaid a'r Lib Dems - maen nhw i gyd wedi ymrwymo i'r un cynlluniau gwariant, ac mi fyddan nhw i gyd yn torri gwariant cyhoeddus i'r bon yn dilyn 2015.

Yn ail mi'r ydan ni yng Nghymru wedi fotio i Lafur ym mhob etholiad bron ers 1918 ac mi'r ydan ni yn dal yn dlotach na'r unman arall yng Ngorllewin Ewrop.  Dydi fotio Llafur ddim yn gweithio - mae'n arwain at dlodi a methiant - mae ganddon ni bron i gan mlynedd o hanes i ddangos hynny.  Y cwbl sydd gan blaid Alun Puw i'w gynnig i Gymru ydi methiant a thlodi.


Saturday, August 30, 2014

Argraffiadau o'r Alban ar drothwy refferendwm hanesyddol

Rhag i ddarllenwyr Blogmenai ddechrau cwyno nad ydyn nhw'n cael gwerth eu pres, mi es i am ychydig o ddyddiau i'r Alban i bwrpas busnesu er mwyn gadael i chi oll wybod sut mae pethau'n mynd. Dyma fy argraffiadau - gweddol di strwythur - isod.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod pawb yn son am y refferendwm - mewn tai bwyta, tafarnau, yn y siopau allan ar y stryd.  Rydych yn clywed y sgwrs ym mhob man o'ch cwmpas.  Dydi'r lefel yma o ymglymiad gwleidyddol ddim yn rhywbeth 'dwi wedi dod ar ei draws o'r blaen yn unman.



Mae yna elfen gref o anghymesuredd ynghlwm a'r holl sefyllfa.  Rydym wedi son o'r blaen - sawl gwaith am y syniad o 'air war' a 'ground war' mewn etholiad - hynny yw bod un rhan o'r ymgiprys yn digwydd trwy gyfrwng y cyfryngau torfol tra bod un arall yn digwydd ar lawr gwlad.  Mae'r ochr Na yn dominyddu'r naill tra bod yr ochr Ia yn dominyddu'r llall.  



Mae'r Herald (papur a chylchrediad cyfyng) ar yr ochr Ia, ac mae'r holl gyfryngau print eraill ar yr ochr Na. Mae'r Bib a Sky News i fod yn ddi duedd - ond dydi barn bersonol eu gohebwyr byth ymhell o'r wyneb - ac mae'n torri i'r wyneb yn fynych.  Er enghraifft roedd Sky yn ystyried perfformiad treuenus Darling yn nadl nos Lun yn fuddugoliaeth, tra bod y Bib yn dweud 'bod pethau'n fwy cyfartal y tro hwn'.  Mae pob dim arall yn wrth annibyniaeth - weithiau i raddau cwbl hysteraidd (ein hen gyfaill y Daily Mail er enghraifft), ac mae llif di derfyn o bropoganda gwrth annibyniaeth yn cael ei gynhyrchu'n ddyddiol i bobl ei ddarllen wrth fwyta'i brecwast. Mae'r  stwff yma yn aml yn bersonol a dilornus iawn o'r sawl sydd o blaid annibyniaeth - yn diferu gyda chasineb a malais.


Ond mae'r frwydr llawr gwlad yn gwbl wahanol - ceir nifer fawr o ddigwyddiadau i gefnogi annibyniaeth ar hyd a lled y wlad yn ddyddiol - sesiynnau canfasio, stondinau stryd, sesiynnau taflennu, cyfarfodydd cyhoeddus.  Mae'r lefel o weithgaredd llawr gwlad yn sylweddol iawn.  'Dydi'r Albanwyr erioed wedi bod fel trigolion Ceredigion neu Dublin Central yn yr ystyr eu bod yn teimlo'r angen i roi poster etholiadol ar bob dim wneith ddal un, ond mae'n debyg gen i bod yna gant o bosteri Ia am pob poster Na.  Mae hyn yn wir ym mhob math o gymdogaeth - o'r fflatiau sydd uwchben siopau ar y Filltir Euraidd yng Nghaeredin i gymdogaethau tlawd Kelvinside yn Glasgow.  



Ac wedyn wrth gwrs mae yna'r cyfryngau amgen ar y We.  Yn wahanol i'r cyfryngau prif lif, unigolion sy'n gyfrifol am y rhain yn hytrach na chwmniau Prydeinig ac o ganlyniad fel yn achos y 'ground war' mae'r ochr Ia yn dominyddu'n llwyr. Mae'r stwff sy'n cael ei gynhyrchu yn aml yn greadigol ac effeithiol iawn - er bod cryn amrywiaeth yn y safon.  'Dydi'r cyfryngau amgen ddim mor bwysig a'r cyfryngau prif lif wrth gwrs, ond mae eu pwysigrwydd yn cynyddu - ac maent yn darparu atebion i bropoganda'r ochr Na yn gyflym iawn - weithiau o fewn eiliadau yn unig.  Hyd yn oed os nad ydi pawb yn gweld y cyfrwng ei hun, mae'r cynnwys yn cael ei gymryd oddi yno a'i drafod ar lawr gwlad.  Yn bersonol 'dwi ddim yn meddwl y byddai'r math yma o refferendwm yn enilladwy oni bai am yr arlliw o gydbwysedd cyfryngol mae'r cyfryngau amgen yn ei ddarparu.

'Dwi eisoes wedi nodi mai un o'r pethau rhyfeddol am y refferendwm ydi'r ffaith ei fod wedi annog cymaint o bobl i drafod gwleidyddiaeth - ond mae'n rhaid dweud bod yr hyn mae cefnogwyr y ddwy ochr yn ei ddweud yn adlewyrchu'r ymgyrchoedd.  



Mae'r rhesymau mae'r sawl sy'n cefnogi Na yn ei roi tros bleidleisio felly yn tueddu i fod yn negyddol, a/neu'n blwyfol - hynny yw byddant yn dweud nad ydynt yn hoffi Salmond neu Sturgeon, neu eu bod yn ofni colli eu pensiwn, neu eu bod yn ofn neidio i'r tywyllwch, neu bod yr Alban yn rhy fach.  




Mae'r rhesymau mae pleidleiswyr Ia yn eu rhoi yn fwy cadarnhaol - maen nhw'n dweud eu bod eisiau gweld gwlad decach neu lywodraeth sy'n adlewyrchu dyheuadau'r wlad neu lywodraethiant mwy cyfrifol a llai ymysodol.  

'Dydi'r canfyddiad mai brwydr rhwng yr SNP a phawb arall ydi hi ddim yn wir ar lawr gwlad - mae'n llawer mwy na hynny.  Un o bump siaradwr mewn cyfarfod cyhoeddus yn Morningside, Caeredin oedd yn perthyn i'r SNP.  Roedd y bobl (canol oed) oedd yn gweithio ar stondin stryd ynghanol Perth yn dweud nad oeddynt yn perthyn i unrhyw blaid ac erioed wedi cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth cyn y refferendwm.  Mae'n debyg bod ugainau o filoedd o bleidleiswyr Llafur am fod yn pleidleisio Ia. 

Mae'r polau yn dweud o hyd mai'r ochr Na fydd yn ennill.  'Dydi pob pol ddim yn anghywir yn aml - er bod hynny'n digwydd ambell waith.  Ac mae yna un neu ddwy o anecdotau sy'n awgrymu mai Na aiff a hi.  Dyn mewn cryn oed yn dod i mewn i gaffi yn Perth gyda gohebiaeth Ia yn ei law oedd wedi ei godi o'r stondin Ia allan ar y 'stryd a'r weinyddes yn gofyn wrtho - ' Dydach chi ddim yn bwriadu fotio Ia nag ydych George' - a hwnnw'n ateb - ' Dwi'n sicr yn meddwl am y beth _ _ _ ond mae fy mhensiwn yn dod o Loegr'. 

'Yn union George' meddai'r weinyddes, ac aeth un neu ddwy o ferched mewn oed ar fwrdd cyfagos ati i gytuno.  Roedd y busnes pensiynau yn codi dro ar ol tro ar ol tro ymysg yr henoed.  Roedd Gordon Brown wedi cael cyhoeddusrwydd sylweddol yn y cyfryngau prif lif yn codi bwganod am bensiynau.

Ond wedyn roedd yna arwyddion eraill - yr holl weithgarwch gan yr ochr Ia, y boi yn y siop ddillad yn Glasgow yn fy llongyfarch ar brynu crys 'Aye' a dweud ei fod wedi gwerthu llwyth.  Pan ofynais iddo fo faint o rai 'Naw' oedd o wedi ei werthu yr ateb oedd 'Dim jyst'.  Ac roedd yna hyder y bobl Ia yn wyneb yr holl bolio a chyhoeddusrwydd negyddol a'r dynion mewn bar yng Nghaeredin yn rowlio chwerthin wrth son am berfformiad treuenus Alistair Darling yn y ddadl yn erbyn Alex Salmond.  A dyna'r boi yn swyddfa Ia Caeredin yn eistedd am gyfnod maith efo dynes oedd eto i benderfynu  yn mynd trwy un mater ar ol y llall ar ol y llall yn fanwl, fanwl yn ei acen addysgiedig Dwyrain yr Alban.  Ac wedyn dyna fanylder rhyfeddol yr holi a'r ateb yn y cyfarfod llawn hwnnw ym Morningside.

Ac wedyn dyna'r dyn wrth y stondin yn Perth a finnau'n gofyn iddo fo beth fyddai'n digwydd petai'r polau'n gywir a'r canlyniad yn un negyddol 'Mi awn ni ymlaen' meddai 'dydi hi ddim am fod yn bosibl rhoi'r holl ynni sydd wedi ei ryddhau yn ol mewn bocs - mae o allan ac mae o allan i aros'.  

Ac efallai mai dyna'r hyn sydd i'w gymryd o hyn oll - beth byddag fydd yn digwydd ar Fedi 18 fydd yr Alban byth yr un peth eto - mi ddaw'r mater yn ei ol os na chaiff ei setlo bryd hynny - 'All is changed, changed utterly _ _ _'.

Mwy o drais yn yr Alban


Gan bod Jim Murphy yn cwyno am ymysodiadau arno fo, mae'n drist gan Flogmenai orfod adrodd ar ymysodiad cwbl faleisus ar un o MSPs yr SNP - Jim Eadie a chyfaill gan gyd arweinydd y Blaid Werdd Albanaidd, Patrick Harvie a chyfaill iddo yntau nos Fawrth ddiwethaf.  Digwyddodd y weithred warthus yng  nghadarnle honedig yr ochr Na ym Morningside, Caeredin ychydig funudau  cyn cychwyn cyfarfod cyhoeddus i drafod annibyniaeth  nos Fawrth ddiwethaf.

Mae'r lluniau trist yma'n egsgliwsif i Flogmenai gyda llaw.

Friday, August 29, 2014

Fideos Albanaidd 1 - Lady Alba



Mae o'n gweithio ar PC yn unig mae gen i ofn.

Pethau'n fler i Lafur yn Abertawe hefyd

Mae'n ymddangos bod grwp Llafur ail ddinas Cymru, Abertawe bron mor ffraegar a'u cyd Lafurwyr yn y brifddinas.
Roedd yna amser pan roedd disgyblaeth mewnol y Blaid Lafur yn Nghymru yn chwedlonol. Erbyn  hyn mae'n ymddangos nad ydyn nhw  fawr gwell na llwyth o wenciod mewn sach.

Rhoi buddiannau'r Blaid Lafur Brydeinig yn gyntaf

Mae'n gas gen i rygnu ymlaen am yr un stori am dair blogiad o'r bron - ond Carwyn Jones a'i feto dychmygol ar ddefnydd yr Alban o Sterling sy'n ei chael hi eto heddiw.  Mi gaiff y mater sefyll wedyn.

Mae'r stori yn esiampl dda o pam nad ydi hi'n syniad arbennig o dda i Gymru gael Gweinidog Cyntaf sy'n aelod o'r Blaid Lafur.  Ystyriwch y canlynol:

Mae gan Carwyn Jones sawl joban - ond y ddwy bwysicaf ydi arwain y Blaid Lafur yng Nghymru ac arwain Llywodraeth Cymru.  Yr ail ddylai fod bwysicaf o'r ddwy, ond y gyntaf sydd bwysicaf i Carwyn.  Meddyliwch am y peth am funud:

Un o ddau beth fydd yn digwydd yn refferendwm yr Alban fis nesaf - bydd yr Alban yn ennill annibyniaeth neu fydd hynny ddim yn digwydd ond byddant yn cychwyn ar gyfnod o negydu mwy o bwerau efo San Steffan - proses fydd yn cael effaith arnom ni.  Yn y naill achos neu'r llall cenedlaetholwyr fydd yn rheoli yn yr Alban.  

Os ydi annibyniaeth yn cael ei ennill, yna bydd Cymru angen cyfeillion yn y negydu fydd yn arwain at hynny i bwrpas amddiffyn ei buddiannau ei hun, ac yna bydd angen perthynas dda efo Alban annibynnol.  Fydd ymyraeth unochrog Carwyn ddim o gymorth i'r naill beth na'r llall -  hynny yw dydi buddiannau Cymru ddim yn cael eu diwallu gan Carwyn.  

Os mai Na fydd canlyniad y refferendwm yna bydd cryn chwerwedd wedi eu greu - bydd yr ochr Ia yn credu eu bod wedi ennill y ddadl, wedi creu darlun cadarnhaol o'r hyn y gallai'r Alban fod, wedi rhyddhau ynni gwleidyddol anferth ar lawr gwlad, ond wedi colli oherwydd propoganda hysteraidd wal i wal gan y wasg a'r cyfryngau ehangach ac oherwydd tactegau codi braw yr ochr Na.  Mae negyddiaeth yn rhywbeth mae Carwyn wedi cymryd rhan ynddo gyda mwy o frwdfrydedd na mae'n ei ddangos at unrhyw beth sy'n digwydd yng Nghymru.  Eto bydd perthynas Cymru efo'r Alban wedi ei niweidio, ac eto mae'n llai tebygol y bydd cefnogaeth mewn negydu ol refferendwm ar gael o du'r Alban.

Petai Carwyn yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf byddai'n cadw allan o'r ddadl, cadw'n glir, cadw ei ddwylo'n lan - paratoi ar gyfer y dyfodol.  Ond dydi Carwyn ddim yn rhoi buddiannau Cymru'n gyntaf - mae'n neidio i'r adwy pob tro mae'r Blaid Lafur Brydeinig yn dweud wrtho am wneud hynny - mae'n rhoi buddiannau'r Blaid Lafur Brydeinig o flaen buddiannau Cymru.

A - tra'r rydym wrthi - byddai economi Cymru yn elwa'n sylweddol - byddai Cymru'n elwa yn sylweddol petai buddsoddiad yn dod i mewn o wledydd fel Ffrainc, yr Almaen neu Wlad Belg.  Dydi dweud wrth Albanwyr - 'Os ewch chi ffordd eich hunain fyddwch chi ddim gwell na phobl o Wlad Belg, yr Almaen neu Ffrainc' ddim yn gwneud buddsoddiad felly yn fwy tebygol.  I'r gwrthwyneb, mae'n gwneud i Gymru edrych fel rhyw Kazakhstan sy'n cael ei arwain gan Borat.  

Ond wedyn beth ydi'r ots am hynny os ydi gorchmynion y bos yn Llundain yn cael eu ufuddhau? 

Wednesday, August 27, 2014

Ydi Carwyn Jones yn dangos tueddiadau Xenoffobaidd?

Rhywbeth arall sy'n gwneud dyn ychydig yn amheus am ddaatganiad bisar a bombastic Carwyn Jones ei fod am roi'r feto i'r Alban gael cadw Sterling - er nad oes ganddo fwy o hawl i wneud hynny na fi - ydi'r agwedd anymunol mae'n ei ddangos at bobl o wledydd eraill.  Mae'n honni y bydd yr Albanwyr annibynnol mor dramor a Gwlad Belg, yr Almaen neu Ffrainc - hynny ydi ein partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd - corff a chysyniad mae Carwyn yn honni ei fod yn eu cefnogi.  Mae o bron iawn fel petai Carwyn yn meddwl bod rhywbeth o'i le ar 'dramorwyr'. 

Yn rhyfedd iawn wnaeth Carwyn ddim son am Iwerddon fel bod yn wlad llawn tramorwyr, er bod y rhan fwyaf o'r wlad honno wedi ei lleoli mewn gwladwriaeth arall.  Byddai'n ddiddorol os ydi Carwyn a'i wraig - sy'n dod o Ogledd Iwerddon - yn ystyried pobl o'r De fel 'tramorwyr'. 

Carwyn Jones eisiau ychwanegu £1,800 o ddyled ar ran pawb yng Nghymru

Chware teg i Carwyn Jones am wneud ymddangosiad ym mhapurau'r Alban.  Yn ol Carwyn yn yr Herald ddoe mi fyddai'n rhoi'r feto ar unrhyw ymgais gan yr Alban i ddefnyddio Sterling petai'n ennill annibyniaeth.

Rwan ar un olwg mae hyn yn ddatganiad chwerthinllyd o fombastig a fi fawraidd.  Hyd yn oed petai Carwyn yn lew o ran cynrychioli Cymru ar lwyfan ehangach ni fyddai George Osborne a David Cameron yn cymryd y diddordeb lleiaf yn yr hyn sydd ganddo i'w ddweud ar fater sydd ymhell y tu hwnt i'w bwerau.  Ond dydi Carwyn ddim yn llew pan mae'n dod i amddiffyn buddiannau Cymru ar lwyfan rhyngwladol - llygoden ydi o.

Ond gadewch i ni feddwl am funud bod y dyn efo'r awdurdod mae'n smalio sydd ganddo - beth fyddai'n digwydd?  Dwi wedi gwneud syms cefn amlen.  Wel ar hyn o bryd mae dyled genedlaethol y DU yn tua £1,304bn.  Mae hyn yn cyfieithu i tua £21,000 am pob copa walltog yn y wlad.  Petai'r Alban yn gadael a phetai Carwyn yn cael ei ffordd ac yn mynnu nad ydi'r Alban yn cael defnyddio Sterling, yna byddai'r Alban yn gadael beth bynnag - ond yn gadael eu siar o'r ddyled genedlaethol i weddill y DU ei sortio allan.  Byddai hyn yn golygu bod y ddyled yn dod i tua £22,800 y person.

Mewn geiriau eraill byddai Carwyn Jones yn fodlon rhoi £1,800 o ddyled ychwanegol ar sgwyddau pob pensiynwr, oedolyn, plentyn a babi yng Nghymru oherwydd nad yw eisiau defnyddio'r un math o bres ag Alban annibynnol.  Diolch Carwyn.

Sunday, August 24, 2014

Ynglyn a chelwydd refferendwm arall

Dwi wedi edrych ar amrywiaeth o gelwyddau sydd wedi cael eu defnyddio gan yr ochr Na yn y blogiad olaf ond un, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n gelwyddau braidd yn boncyrs - ac mae'n debyg nad ydi'r rhan fwyaf o bobl yn eu credu.  Ond mae yna rhai o'r celwyddau sy'n cael eu dweud yn cael eu credu gan niferoedd mawr o bobl - er eu bod nhw'n amlwg ddim yn wir.

Un celwydd felly ydi'r naratif y bydd y Toriaid mewn grym am byth yn San Steffan os bydd yr Alban yn mynd ei ffordd ei hun.  Rwan mae hyn yn gredadwy - ond dydi o ddim yn wir.  Beth am edrych ar y fathemateg? 

Ar hyn o bryd mae gan Llafur 258 sedd yn San Steffan.  Byddai hynny'n gostwng i 217 petai'r Alban yn gadael yr Undeb.  


Ond byddai'r trothwy sydd ei angen i gael mwyafrif llwyr yn gostwng hefyd.  Ar hyn o bryd mae'r trothwy hwnnw yn 326. Byddai'r trothwy yn 296 pe na fyddai Aelodau Seneddol yr Alban yn mynd i Lundain.  

Felly mae Llafur angen ennill 68 sedd ychwanegol i gyrraedd 326 fel mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd.  Petai'r Alban yn mynd ei ffordd ei hun byddai Llafur angen 79 sedd i fynd o 217 i 296. 

Mae hynny'n yn fwy heriol, ond dydi o ddim yn llawer iawn mwy heriol.  Yn sicr dydi'r cynnydd yma o 11 sedd sy'n rhaid ei hennill ddim yn gwarantu mwyafrif Toriaidd yn San Steffan am byth bythoedd.

Rhifyddeg syml ydi hyn - ond mae'r honiad yn cael ei gwneud trosodd a throsodd a throsodd.  

Saturday, August 23, 2014

Cefnogwyr Israel ym Melfast heno

Teyrngarwyr ac aelodau'r English Defence League sydd allan yn protestio yn erbyn hawl George Galloway i ddweud ei farn yn ol pob golwg.

Ymgyrch Na yr Alban - yr ymgyrch fwyaf celwyddog yn hanes y DU?

Dwi'n meddwl mai Mabon ap Gwynfor anfonodd yr adroddiad isod ataf ynglyn ag un o nodweddion mwy anymunol yr ymgyrch Na yn yr Alban - ei thueddiad i ddweud celwydd i bwrpas dychryn pobl rhag pleidleisio Ia.

Ar rhyw olwg mae'n debyg bod y rheswm am hyn yn weddol amlwg - mae'n afresymegol dadlau y dylai gwlad ildio ei hawl i wneud ei phenderfyniadau pwysig i wlad arall.  Felly mae'n rhaid mynd ati i gyflwyno nonsens celwyddog.

Dwi wedi rhestru nifer o enghreifftiau eraill o nonsens sydd wedi eu cyflwyno gan yr ochr Na - pob un ohonyn nhw yn anwiredd hawdd iawn eu gwrth brofi, ond pob un ohonyn nhw wedi eu cyflwyno gan bobl sy'n honni i fod yn wleidyddion neu biwrocratiaid difrifol.


1). Bydd rhaid i Loegr fomio meusydd awyr yr Alban.  Lord Fraser of Carmyllie
2). Bydd rhaid i'r pandas adael sw Caeredin. Llefarydd ar ran llywodraeth y DU.
3).  Bydd yr Alban yn agored i ymysodiadau o'r gofod.  Philip Hammond.
4). Bydd rhaid i'r Alban dalu am ddad gomisiynu canolfan WMDs Prydain yn Faslane ac am godi canolfan WMDs newydd.  Philip Hamond.
5). Bydd rhaid i bawb yrru ar ochr dde'r lon.  Andy Burnham.
6). Bydd Prydain yn cadw gafael ar ran o'r Alban er mwyn cadw eu canolfan WMDs.
7). Bydd rhaid codi rhwystrau rhwng Lloegr a'r Alban a bydd angen pasport i groesi o un wlad i'r llall.  Theresa May.
8). Bydd y Byd i gyd yn cael ei ddad sefydlogi a bydd 'grymoedd y tywyllwch' wrth eu bodd.  George Robertson.
9). Bydd costau o £2.7bn yn codi o newid. LSE.
10). Bydd costau ffonau symudol yn saethu trwy'r to.
11).  Fydd Albanwyr ddim yn cael gweld Dr Who.  Maria Miller.
12).  Bydd y diwydiant adeiladu llongau yn dod i ben.  Plaid Lafur yr Alban.
13). Bydd costau cadw car neu lori yn cynyddu £1,000 y flwyddyn.  David Mundell
14). Bydd mynd i siopa yn llawer drytach.  Margaret Curran.



Llongyfarchiadau i Alistair Darling _ _ _

_ _ _ am wneud cymaint o bres o wrthwynebu i'w wlad ei hun gael yr un hawliau a gwledydd eraill.

Friday, August 22, 2014

Ynglyn a betio gwleidyddol a'r Alban

Mae'r bwcis yn dweud yn weddol glir mai'r ochr Na sy'n mynd i ennill fis nesaf yn yr Alban, ac mae'r pres sy'n dod i mewn yn awgrymu hynny hefyd.  Pres sy'n gyrru hynny i raddau - ond edrychwch ar y graffiau yma sy'n dangos yn gyntaf faint o bres mae Ladbrokes yn ei gymryd ac wedyn faint o fetiau sydd wedi eu gwneud.  Mae'r gwahaniaeth yn sylweddol.

Mae yna fwy o bres yn mynd ar Na, ond mae yna fwy o bobl unigol yn betio ar Ia.  Gallai hyn  adlewyrchu'r ffaith bod pobl gyfoethog yn fwy tueddol o fotio Na, tra bod y sawl sydd heb lawer iawn o bres yn fwy tueddol i bleidleisio Ia - a bod pobl yn fotio'n unol a'r hyn maent am iddo ddigwydd.   Mae tri chwarter y sawl sy'n betio ar hyn o bryd yn pleidleisio Ia.  

Mi ddof yn ol at hyn maes o law - ond gallwch weld manylion pellaf yma.


Thursday, August 21, 2014

Plaid De Lloegr

Mae'n debyg y dyliwn i longyfarch y canlynol ar gael eu hethol i Bwyllgor Gwaith 'Cenedlaethol' y Blaid Lafur.


Ken Livingstone
Ann Black

Ellie Rives

Christine Showcroft
Kate Osamore
Johanna Baxter
Jim McMahon
Alice Perry

Er mai ychydig o gefnogaeth sydd gan Lafur yn Ne Ddwyrain Lloegr, mae'r cwbl o 'r uchod ag eithrio Jim McMahon yn byw yn Llundain neu yn y Ne Ddwyrain Lloegr.  Mae hynny i'w ddisgwyl gan blaid hynod lwythol sydd a 40% o'i haelodau yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr.  Yr aelodau sy'n pleidleisio.

Ond yr hyn sy'n llai disgwyliedig ydi gwneuthuriad Cabinet Cysgodol Llafur - sydd ddim yn cael eu hethol gan aelodau llwythol y Blaid Lafur.  Ystyrier lle maent wedi eu magu / geni

Ed Milliband - Llundain
Harriet Harmann - Llundain
Douglas Alexander - Glasgow
Ed Balls - Norwich
Yvette Cooper - geni yn Inverness on cafodd ei magu yn Hampshire
Sadiq Khan - Llundain
Rosie Winterton - Swydd Efrog
Andy Burnham - Aintree
Chucka Umanna - Llundain
Rachel Reeves - Llundain
Tristram Hunt - Caergrawnt
Vernon Coaker - Llundain
Hilary Benn - Llundain
Caroline Flint - Twickenham
Angela Eagle - Swydd Efrog
Mary Creagh - Coventry
Owen Smith - Morcambe / Ponty
Maria Eagle - Swydd Efrog
Michael Dogher - Swydd Efrog
Jon Treckett - Swydd Efrog
Chris Leslie - Swydd Efrog
Gloria De Piero - Swydd Efrog
Janet Royals - Newnham on Severn
Steve Bassam - Essex

Felly dyna ni - 13 o'r 24 wedi eu magu yn Ne Lloegr a 7 o'r gweddill o Swydd Efrog.  Mae nifer da o'r rhai nad ydynt wedi eu magu yn Ne Lloegr gyda llaw wedi derbyn eu haddysg prifysgol yno.  Mae cyfran uchel o aelodaeth Llafur o De Ddwyrain Lloegr, ond mae trwch eu cefnogaeth yng Nghymru, Canolbarth Lloegr, De Lloegr a'r Alban.  Dydi hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yng nghynrychiolaeth lefelau uchaf y Blaid Lafur.  

Mae'r pleidleisiau yn dod o'r tu hwnt i Dde Lloegr - ond yno mae'r elit sy'n rhedeg y blaid yn byw ac wedi eu magu.  Peidiwch a dishwyl i'r cyfeiriad polisi sy'n manteisio De Lloegr newid llawer os ydi'r criw yma'n cael eu bachau ar rym y flwyddyn nesaf.





Roger Lewis yn ei chanol hi eto

Pwy sy'n cofio Roger Lewis - yr un sy'n sgwennu erthyglau gwrth Gymreig i'r Daily Mail o bryd i'w gilydd - cwyno am y Taliban Cymraeg a iaith mwncis a 'ballu?

Ymddengys bod ei angen i fwlio a sarhau wedi colli cytundeb cyhoeddi iddo.

Bechod.

Dydi'r holl ddata ynglyn a'r Gymraeg ddim yn ddrwg

Edrych ar ystadegau Plasc, Llywodraeth Cymru oeddwn i (fel y bydd rhywun) pan gefais fy hun yn edrych ar ystadegau iaith plant ysgolion cynradd Cymru. Efallai y byddaf yn dod yn ol at agweddau eraill ar y tablau eto - ond i bwrpas yr ymarferiad yma edrych ar y plant sy'n siarad y Gymraeg adref ydw i.  Dwi wedi addasu'r tablau er eglurder ac yn cyfrifo'r canrannau - dydi hynny ddim ar gael yn y data gwreiddiol.

Cyn dechrau mae'n well i mi gynnig pwt o eglurhad - er mwyn llonyddwch domestig ymhlith pethau eraill.  'Dydw i ddim yn credu mewn gwahaniaethu rhwng gwahanol fath o siaradwyr Cymraeg - maent i gyd mor werthfawr a'i gilydd.  Dydw i ddim chwaith yn awgrymu am funud mai dim ond pobl o gartrefi Cymraeg eu hiaith sy'n trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant - dwi'n briod efo rhywun nad oes neb ond hi yn ei theulu estynedig mawr iawn sy'n siarad y Gymraeg, a'r unig dro dwi wedi ei chlywed yn siarad Saesneg adref oedd pan oedd yn dweud rhywbeth wrthyf fi nad oedd am i'r plant ei ddeall pan oeddynt yn fan a di Saesneg.  Gallaf feddwl am lawer o bobl mae'r Gymraeg yn ail iaith iddynt sydd wedi codi eu plant yn Gymry Cymraeg.

Ond dwi yn credu bod unrhyw iaith hyfyw angen siaradwyr iaith gyntaf - pobl sy'n fwy cyfforddus yn ei siarad nag ydynt yn siarad yr un iaith arall.  Pe na byddai siaradwyr Cymraeg felly yn bodoli yn y gorffennol, ni fyddai'r iaith yn fyw heddiw.  I'r graddau hynny mae'r nifer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn bwysig - a dyna pam 'dwi'n edrych ar y mater yma.  'Dwi'n cychwyn trwy edrych ar ffigyrau Cymru a Gwynedd yn fanwl tros y deg mlynedd ddiwethaf cyn mynd ati i edrych ar pob man arall yn llai trylwyr.

Byddai dyn yn disgwylm cwymp cyson ag ystyried bod trosglwyddiad iaith yn llai effeithiol pan mai dim ond un rhiant sy'n siarad y Gymraeg a chyn mai llai na 20% o'r boblogaeth sy'n siarad yr iaith.  Petai pob dim arall yn gyfartal byddai 80% o siaradwyr Cymraeg yn priodi -neu o leiaf yn cael plant efo - rhywun di Gymraeg.  'Dydi pethau ddim yn gweithio felly yn union wrth gwrs - mae diwylliant a daearyddiaeth yn gyrru hyd yn oed cariad a rhamant i raddau - ond dwi'n siwr eich bod yn gwerthfawrogi negyddiaeth y fathemateg sy'n wynebu'r Gymraeg yn y cyswllt yma.

Ond dydi'r disgwyliad ddim yn cael ei wireddu mewn gwirionedd.  Mae'n wir bod y canrannau o blant sy'n siarad y Gymraeg adref yn is yng Nghymru a Gwynedd yn 2012/13 nag oeddynt yn 2003/04, ond gallwn ddewis blynyddoedd eraill - 2006/07 er enghraifft lle mae'r canrannau'n is na'r rhai diweddaraf.  Yr hyn sydd fwyaf trawiadol i mi ydi sefydlogrwydd ffigyrau a ddylai - yn ol unrhyw fodel mathemategol - syrthio'n gyson.

Mae yna eglurhad syml am hyn - ac eglurhad diwylliannol ydi hwnnw.  Mae'n ymddangos i mi bod parodrwydd i siarad y Gymraeg adref ar gynnydd naill ai ymysg teuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad y Gymraeg neu lle mae un o'r ddau yn siarad y Gymraeg, neu ymysg teuluoedd lle ceir rhiant sengl yn siarad y Gymraeg neu mewn cyfuniad o'r mathau yma o deuluoedd.

Dydi pob newyddion am yr iaith ddim yn newyddion drwg.

CymruSiarad CymCym AdrefDim CymCyfanswm %Cym Adre
2003/0437,99523,511150,693212,19911.1
2004/0539,11122,995147,228209,33411.0
2005/0637,45721,943146,062205,46210.7
2006/0737,14621,016144,116202,27810.4
2007/0850,70220,969127,021198,69210.6
2008/0950,08319,923124,323194,32910.3
2009/1051,41219,737120,875192,02410.3
2010/1153,64419,453118,371191,46810.2
2011/1254,86219,956117,560192,37810.4
2012/1356,69420,276116,954193,92410.5


GwyneddSiarad CymCym AdrefDim CymCyfanswm %Cym Adre
2003/041,3285,3791,2877,99467.3
2004/051,1435,2611,5257,92966.4
2005/061,1155,0651,7017,88164.3
2006/071,0134,8351,9247,77262.2
2007/081,5834,9421,1237,64864.6
2008/091,7094,6738917,27364.3
2009/101,6914,7808197,29065.6
2010/111,7074,6588677,23264.4
2011/121,7234,7088367,26764.8
2012/131,7094,6738917,27364.3






2012/13 Siarad Cym Cym Adref Dim Cym Cyfanswm %Cym Adre
Powys4,3727532,7767,9019.5
Sir Ceredigion1,6181,3926453,65538.1
Sir Benfro3,0645003,9957,5596.6
Sir Gaerfyrddin4,4393,0083,87911,32626.6
Abertawe1,77657512,64314,9943.8
Castell-nedd Port Talbot1,4425886,6458,6756.8
2008/09
Powys5,1197502,4008,2699.1
Sir Ceredigion1,6091,5568934,05838.3
Sir Benfro1,6316195,5977,8477.9
Sir Gaerfyrddin3,1063,1315,01311,25027.8
Abertawe1,79845612,60914,8633.1
Castell-nedd Port Talbot1,3536216,6888,6627.2
2003/04
Powys4,1559494,0699,17310.3
Sir Ceredigion1,6581,8388624,35842.2
Sir Benfro1,4818756,0758,43110.4
Sir Gaerfyrddin1,8273,5976,50811,93230.1
Abertawe1,22852514,00815,7613.3
Castell-nedd Port Talbot1,3198287,7079,8548.4
Wrecsam1,0603307,6018,9913.7


2012/13 Siarad Cym Cym Adref Dim Cym Cyfanswm %Cym Adre
Pen-y-bont ar Ogwr1,0873017,6499,0373.3
Bro Morgannwg1,0804617,2188,7595.3
Rhondda Cynon Taf3,1821,11811,35315,6537.1
Merthyr Tudful521383,3403,8991.0
Caerdydd2,2181,39318,41422,0256.3
2008/09
Pen-y-bont ar Ogwr1,1602077,8029,1692.3
Bro Morgannwg8813787,4768,7354.3
Rhondda Cynon Taf2,8871,17511,43415,4967.6
Merthyr Tudful530423,2553,8271.1
Caerdydd2,0051,07617,66420,7455.2
2003/04
Pen-y-bont ar Ogwr1,4512568,1099,8162.6
Bro Morgannwg1,0575227,9559,5345.5
Rhondda Cynon Taf2,3861,24813,41017,0447.3
Merthyr Tudful724873,5764,3872.0
Caerdydd1,9071,36818,95922,2346.2

2012/13Siarad CymCym AdrefDim CymCyfanswm%Cym Adref
r Ynys Môn1,4002,0686854,15349.8
Gwynedd1,7094,6738917,27364.3
Conwy1,2131,4153,8516,47921.8
Sir Ddinbych2,0808912,9775,94815.0
Sir y Fflint2,9592636,7699,9912.6
Wrecsam3,3722455,3398,9562.7
2008/2009
Sir Ynys Môn9671,9101,2424,11946.4
Gwynedd1,7504,7379477,43463.7
Conwy9811,4794,1296,58922.4
Sir Ddinbych2,0108313,3996,24013.3
Sir y Fflint2,6072527,16210,0212.5
Wrecsam2,2082956,2328,7353.4
2003 / 04
Sir Ynys Môn9302,2271,3714,52849.2
Gwynedd1,3285,3791,2877,99467.3
Conwy1,3611,5894,4337,38321.5
Sir Ddinbych2,0518743,8536,77812.9
Sir y Fflint2,0513688,68311,1023.3
Wrecsam1,0603307,6018,9913.7




2012/13 Siarad Cym Cym Adref Dim Cym Cyfanswm %Cym Adre
Caerffili5,6372696,16712,0732.2
Blaenau Gwent1,859552,1674,0811.3
Torfaen3,3221202,6426,0842.0
Sir Fynwy3,4601121,6825,2542.1
Casnewydd4,884385,22710,1490.4
2008/09
Caerffili5,2981186,75112,1671.0
Blaenau Gwent1,758372,6564,4510.8
Torfaen2,896783,0596,0331.3
Sir Fynwy4,0131411,2165,3702.6
Casnewydd3,516346,69910,2490.3
2003/04
Caerffili3,9802369,26513,4811.8
Blaenau Gwent639554,4995,1931.1
Torfaen1,762795,2997,1401.1
Sir Fynwy2,3882363,3655,9893.9
Casnewydd1,252459,79911,0960.4