Thursday, August 28, 2014

Rhoi buddiannau'r Blaid Lafur Brydeinig yn gyntaf

Mae'n gas gen i rygnu ymlaen am yr un stori am dair blogiad o'r bron - ond Carwyn Jones a'i feto dychmygol ar ddefnydd yr Alban o Sterling sy'n ei chael hi eto heddiw.  Mi gaiff y mater sefyll wedyn.

Mae'r stori yn esiampl dda o pam nad ydi hi'n syniad arbennig o dda i Gymru gael Gweinidog Cyntaf sy'n aelod o'r Blaid Lafur.  Ystyriwch y canlynol:

Mae gan Carwyn Jones sawl joban - ond y ddwy bwysicaf ydi arwain y Blaid Lafur yng Nghymru ac arwain Llywodraeth Cymru.  Yr ail ddylai fod bwysicaf o'r ddwy, ond y gyntaf sydd bwysicaf i Carwyn.  Meddyliwch am y peth am funud:

Un o ddau beth fydd yn digwydd yn refferendwm yr Alban fis nesaf - bydd yr Alban yn ennill annibyniaeth neu fydd hynny ddim yn digwydd ond byddant yn cychwyn ar gyfnod o negydu mwy o bwerau efo San Steffan - proses fydd yn cael effaith arnom ni.  Yn y naill achos neu'r llall cenedlaetholwyr fydd yn rheoli yn yr Alban.  

Os ydi annibyniaeth yn cael ei ennill, yna bydd Cymru angen cyfeillion yn y negydu fydd yn arwain at hynny i bwrpas amddiffyn ei buddiannau ei hun, ac yna bydd angen perthynas dda efo Alban annibynnol.  Fydd ymyraeth unochrog Carwyn ddim o gymorth i'r naill beth na'r llall -  hynny yw dydi buddiannau Cymru ddim yn cael eu diwallu gan Carwyn.  

Os mai Na fydd canlyniad y refferendwm yna bydd cryn chwerwedd wedi eu greu - bydd yr ochr Ia yn credu eu bod wedi ennill y ddadl, wedi creu darlun cadarnhaol o'r hyn y gallai'r Alban fod, wedi rhyddhau ynni gwleidyddol anferth ar lawr gwlad, ond wedi colli oherwydd propoganda hysteraidd wal i wal gan y wasg a'r cyfryngau ehangach ac oherwydd tactegau codi braw yr ochr Na.  Mae negyddiaeth yn rhywbeth mae Carwyn wedi cymryd rhan ynddo gyda mwy o frwdfrydedd na mae'n ei ddangos at unrhyw beth sy'n digwydd yng Nghymru.  Eto bydd perthynas Cymru efo'r Alban wedi ei niweidio, ac eto mae'n llai tebygol y bydd cefnogaeth mewn negydu ol refferendwm ar gael o du'r Alban.

Petai Carwyn yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf byddai'n cadw allan o'r ddadl, cadw'n glir, cadw ei ddwylo'n lan - paratoi ar gyfer y dyfodol.  Ond dydi Carwyn ddim yn rhoi buddiannau Cymru'n gyntaf - mae'n neidio i'r adwy pob tro mae'r Blaid Lafur Brydeinig yn dweud wrtho am wneud hynny - mae'n rhoi buddiannau'r Blaid Lafur Brydeinig o flaen buddiannau Cymru.

A - tra'r rydym wrthi - byddai economi Cymru yn elwa'n sylweddol - byddai Cymru'n elwa yn sylweddol petai buddsoddiad yn dod i mewn o wledydd fel Ffrainc, yr Almaen neu Wlad Belg.  Dydi dweud wrth Albanwyr - 'Os ewch chi ffordd eich hunain fyddwch chi ddim gwell na phobl o Wlad Belg, yr Almaen neu Ffrainc' ddim yn gwneud buddsoddiad felly yn fwy tebygol.  I'r gwrthwyneb, mae'n gwneud i Gymru edrych fel rhyw Kazakhstan sy'n cael ei arwain gan Borat.  

Ond wedyn beth ydi'r ots am hynny os ydi gorchmynion y bos yn Llundain yn cael eu ufuddhau? 

No comments:

Post a Comment