Diolch i Dafydd Meurig am anfon linc i wefan sy'n dangos ar ffurf sydd wedi ei animeiddio ganlyniadau etholiadau lleol Iwerddon ddydd Gwener cyn yr un diwethaf.
Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn gwybod fy mod yn hoff o'r dull Gwyddelig - STV - o bleidleisio - yn rhannol oherwydd ei fod yn gyfrannol ac yn rhannol am ei fod yn gwneud diwrnod y cyfri yn wirioneddol gynhyrfus. Mae'r wefan yn rhoi syniad i chi o'r newidiadau sy'n digwydd yn ystod y cyfri - er ei fod wedi ei gyflymu wrth gwrs - mae cyfri go iawn yn parhau trwy'r dydd, neu weithiau am fwy. Mae yna rhywbeth ymlaciol am edrych ar yr animeiddiadau hefyd.
Os ydych efo diddordeb yn y dull hwn o bleidleisio cliciwch yma - er bod y dull Gwyddelig ychydig yn wahanol i'r un a ddisgrifir yn y darn. Gyda llaw defnyddir STV yn y DU hefyd - ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban.

No comments:
Post a Comment