Ymhellach i fy mlogiad ddoe, mae'n debyg y dyliwn i gyfeirio at nifer o straeon diweddar sydd wedi derbyn sylw yn y blogosffer a sydd heb dderbyn sylw gan y cyfryngau prif lif - hyd iddynt ymddangos ar y We o leiaf.
Aelod Ewrop diweddaraf Cymru - Nathan Gill a'i deulu - ydi gwrthrychau nifer o'r straeon yma. Mae'n gyfres o straeon digon hyll am fusnes y Gills yn egsploitio mewnfudwyr yn ogystal a nifer o honiadau eraill yn cael eu codi ym mlog Jac o' The North, tra bod straeon ynglyn a thad Nathan Gill yn ymddangos ar flog C'neifiwr - straeon sy'n ymwneud a rhyw a theiars mae gen i ofn.
Rwan mae'r straeon yn ganlyniad newyddiaduriaeth ymchwiliol da gan y ddau flogiwr - ond mae'n ffaith bod llawer (er nad y cwbl) o'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi yn ddefnydd sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus - open source material. Mae dau flogiwr sy'n 'sgwennu yn eu amser hamdden wedi dod o hyd i straeon na lwyddodd sefydliadau newyddiadurol proffesiynol i'w darganfod - nid eu bod nhw wedi gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod dim wrth gwrs - roedden nhw'n rhy brysir yn darparu Nigel Farage efo cymaint o sylw a phosibl yn yr wythnosau oedd yn arwain at yr etholiad.
Efallai nad oedd y stori a dyrchwyd gan y blog yma ar ddechrau ymgyrch is etholiad Mon - ynglyn ag Alun Michael yn cael ei hun o flaen llys yn ateb cyhuddiadau o enllib mor arwyddocaol a'r straeon am Gill a'i deulu, ond roedd pob dim a ymddangosodd ar fy mlog i yn ddeunydd oedd wedi ei dynnu o ffynonellau agored. Ni ddangoswyd unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y mater gan y cyfryngau prif lif, er y byddai rhywun wedi meddwl y byddai gonestrwydd ymgeisydd blaenllaw mewn is etholiad pwysig yn fater y byddent wedi ymddiddori ynddo. Ond wedyn wnaethon nhw ddim dangos llawer iawn o ddiddordeb yn yr is etholiad ei hun.
Yn y cyfamser Gareth Clubb ar ei flog yntau gododd y cwestiwn ynglyn a'r posibilrwydd bod Alun Davies wedi torri'r cod ymddygiad trwy ddefnyddio ei ddylanwad fel gweinidog yn llywodraeth Cymru i ddod a mantais i'w etholaeth ei hun. Mae'r mater o weinidogion yn torri'r cod ymarfer yn derbyn sylw sylweddol yn y cyfryngau Seisnig ar hyn o bryd wrth gwrs yn sgil y ffrae rhwng Michael zgove a Theresa May. Dydi'r posibilrwydd bod gweinidog wedi torri'r cod ymarfer heb wneud yr un argraff ar y cyfryngau Cymreig - er i'r Western Mail gyfeirio at y stori bellach. Doedd llawer o'r deunydd yn stori Gareth ddim ar gael o ffynonellau agored - ond roedd ar gael trwy ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - rhywbeth sydd ar gael i 'r cyfryngau prif lif.
Mi fyddai'r oll o'r uchod yn faterion o ddiddordeb cyfryngol yn Lloegr wrth gwrs - ond Lloegr ydi Lloegr a Chymru ydi Cymru.

Mase'r pethau mae'n gweithio y ddwy ffordd, wrth gwrs. Mae'r blog 'syniadau' wedi ail-agor yr hanes rhyfedd yna o ymateb arweinyddiaeth PC i'w gwestiynu o bolisi ynni'r Blaid. Gyda gwasg neu corff darlledu mwy craff neu effro, tybed os fyddai'r ymlid yma wedi cael ei gynnal mewn ffordd ddoethach ? Yn ol pob golwg, mae Elin Jones wedi ail-agor craith yr oeddem yn gobeithio fod yr ymgyrch Ewropeaidd wedi cau.
ReplyDeleteEgo trip estynedig ydi Syniadau bellach yn anffodus.
ReplyDeleteStori am Tal Michael oedd honna, nid Alun!
ReplyDelete