Mae'n ddiddorol bod y blogiwr gwleidyddol Mike Smithson yn parhau i ddadlau ei bod yn bosibl i'r ochr Ia ennill yn refferendwm yr Alban er bod pob pol ar hyn o bryd yn awgrymu i'r gwrthwyneb. Mae'r diweddaraf yn awgrymu y bydd 38% yn pleidleisio Ia, 47% Na tra nad ydi'r gweddill yn rhy siwr. Mae gan Mike Smithson record arbennig o dda o ddarogan canlyniadau etholiadau.
Dwi'n tueddu i gytuno - a'r rheswm am hynny ydi bod patrymau pleidleisio yn yr Alban efo hanes diweddar o droi yn gyflym iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o fuddugoliaeth ysgubol yr SNP yn etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai 2011 - ond yr hyn sy'n llai adnabyddus ydi bod yr SNP y tu ol i Lafur yn y polau tan yn agos i'r etholiad ei hun. Rhestraf isod ganfyddiadau'r polau piniwn rhwng Chwefror 2010 a Mawrth 2011. Cafwyd symudiad sylweddol at yr SNP yn Ebrill 2011. Canran yr SNP ydi'r rhif cyntaf pob tro a chanran Llafur ydi'r ail.
Chwef 2010: 35/37 36/29 28/33
Mawrth 2010: 34/31
Ebrill 2010: 30/34. 27/31. 34/31. 31/30
Mehefin 2010 29/45
Awst 2010: 32/46. 35/36. 34/37. 32/42
Medi 2010: 29/39
Hydref 2010: 34/46
Tachwedd 2010: 31/41
Ionawr 2011: 33/49
Chwefror2011: 37/36. 32/41
Mawrth 2011: 29/44. 37/43. 35/39. 38/41. 37/38. 40/39
Yn yr etholiad ei hun cafodd yr SNP 45.39% o'r bleidlais i 31.69% Llafur.
Rwan dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd pam y cafwyd y fath newid, ond gallwn fwrw amcan. Fel roedd yr etholiad yn nesau peidiodd yr SNP a chanolbwyntio ar lywodraethu ac aeth ati i ganolbwyntio ar ymgyrchu gan dywallt adnoddau dynol ac ariannol i mewn i'r ymgyrch. Pan ddigwyddodd hynny enillwyd y ddadl greiddiol yn gyflym iawn. Gallai'r un peth ddigwydd eto'r flwyddyn nesaf.
* Manylion polio ar gael yma.
Dwi'n tueddu i gytuno - a'r rheswm am hynny ydi bod patrymau pleidleisio yn yr Alban efo hanes diweddar o droi yn gyflym iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o fuddugoliaeth ysgubol yr SNP yn etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai 2011 - ond yr hyn sy'n llai adnabyddus ydi bod yr SNP y tu ol i Lafur yn y polau tan yn agos i'r etholiad ei hun. Rhestraf isod ganfyddiadau'r polau piniwn rhwng Chwefror 2010 a Mawrth 2011. Cafwyd symudiad sylweddol at yr SNP yn Ebrill 2011. Canran yr SNP ydi'r rhif cyntaf pob tro a chanran Llafur ydi'r ail.
Chwef 2010: 35/37 36/29 28/33
Mawrth 2010: 34/31
Ebrill 2010: 30/34. 27/31. 34/31. 31/30
Mehefin 2010 29/45
Awst 2010: 32/46. 35/36. 34/37. 32/42
Medi 2010: 29/39
Hydref 2010: 34/46
Tachwedd 2010: 31/41
Ionawr 2011: 33/49
Chwefror2011: 37/36. 32/41
Mawrth 2011: 29/44. 37/43. 35/39. 38/41. 37/38. 40/39
Yn yr etholiad ei hun cafodd yr SNP 45.39% o'r bleidlais i 31.69% Llafur.
Rwan dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd pam y cafwyd y fath newid, ond gallwn fwrw amcan. Fel roedd yr etholiad yn nesau peidiodd yr SNP a chanolbwyntio ar lywodraethu ac aeth ati i ganolbwyntio ar ymgyrchu gan dywallt adnoddau dynol ac ariannol i mewn i'r ymgyrch. Pan ddigwyddodd hynny enillwyd y ddadl greiddiol yn gyflym iawn. Gallai'r un peth ddigwydd eto'r flwyddyn nesaf.
* Manylion polio ar gael yma.
Mae fy nghalon yn dweud y bydd yr ymgyrch 'Ie' yn ennill y dydd, ond mae fy mhen yn dweud 'Na'. Fe fyddai yn braf meddwl y gallai dadleuon cadarn ddenu pobl i bleidleisio 'ie' ond rydw i'n drwgdybio y bydd mwy o bobl yn pleidleisio ar sail greddf - pa hunaniaeth sydd bwysicaf iddyn nhw - ac ofn y 'worst case scenario' yn achos annibyniaeth - sy'n mynd i ffafrio'r status quo. Rwy'n credu y byddai angen i'r Alban fod mewn lle reit wael, ac i'r ymgyrch 'ie' allai dangos yn hollol blaen ac eglur y bydd pethau cymaint gwell yn annibynol, cyn i'r Alban gymryd cam mawr fawr a hynny. Dyw'r ymgyrch ie ddim wedi gallu dangos y byddai pethau cymaint a hynny yn well mewn Alban annibynol - mae'n ymddangos na fyddai yn cael gymaint a hynny o effaith o gwbl mewn gwirionedd - felly mae nifer yn dod i'r casgliad nad yw werth cymryd y risg.
ReplyDeleteRoedd trefnu pleidlais annibyniaeth yn gam strategol gan yr SNP yn fy marn i - fe ddylen nhw fod wedi mynd am Devo Max. Mae mwyafrif yn yr Alban yn cefnogi Devo Max, ac mae'n gam llawer llai o Devo Max i Annibyniaeth nag yw o gyflwr presennol Senedd yr Alban i Annibyniaeth. Mae wastad yn haws arwain yr etholwyr gerfydd y llaw i lawr y grisiau yn slo bach na gofyn iddyn nhw gydio ynot ti am bungee jump cyflym a pheryglus i lawr y clogwyn.
Diolch am grynhoi'r data, Cai. Rwy'n grediniol fod Alex Salmond yn graffach o beth coblyn na Cameron. Gwyr yn dda fod ganddo gyfle da i ennill. Gwelais bôl piniwn lle gofynnwyd i'r Albanwyr sut y byddent yn pleidlesio pe bai'r Torïaid yn ennill lecsiwn 2015. Buasai'r rhan fwya o blaid annibynniaeth yn yr achos yma. Thatcher yn anad neb a wanychodd yr Undod a gallasai buddugoliaeth i'r Conservative and Unionist (sic) Party ym 2015 yn arwain at ddatgymalu Prydain Fawr. Eironig iawn
ReplyDeleteBe mae Mike yn ddweud, ydi y basa fo'n betio ar odds o 8 i 1 (mae'r ods yn 5 i 1 ar y foment). Fellu mae'n rhoi y tebygolrwydd o "Ie" rhywle rhwng 12.5% a 20%.
ReplyDeleteY broblem yw William bod y bleidlais annibyniaeth cyn y bleidlais cyffreinol!
ReplyDeleteMi fentra'i fod yr SNP uwchben eu digon o weld mai dim ond 9% yw mantais Better Together yn wyneb y llif di-ddiwedd o negyddiaeth a chodi ofn sydd wedi nodweddu eu hymgyrch o'r cychwyn cyntaf.
ReplyDeleteMae'r ffigwr hwn yn dangos cymaint o stroc oedd penderfyniad yr SNP i gynnal ymgyrch refferendwm dros 2 flynedd a hanner gan fod hynny'n fodd o dynnu'r colyn o ymosodiadau'r unoliaethwyr, mewn math o strategaeth "rope a dope" clasurol.
Ac yn unol a bwriad yr SNP, mae hyn oll wedi arwain at sefyllfa ble bo pobl yr Alban bellach wedi hen ddiflasu ar y codi bwganod di-synnwyr a phlentynaidd gan Better Together, megis yr un diweddaraf- chewch chi ddim gwylio Dr Who mewn Alban Annibynnol( hyn er gwaetha'r ffaith bod Dr Who yn cael ei werthu i bob rhan o'r byd!)
Dydi'r SNP eu hunain ddim wedi cychwyn ar eu hymgyrch hwy eto mewn gwirionedd- mae'n cychwyn fory gyda chyhoeddi'r Papur Gwyn- ond eto dim ond swing o 5% sydd angen i ennill!
Stroc arall oedd cynnal y refferendwm yn dilyn Etholiadau Ewrop 2014, gan ddyfalu y bydd llwyddiant UKIP yn yr etholiadau hynny yn symud y tirwedd Prydeinig ymhellach i'r dde. Bydd hyn yn siwr o ddylanwadu ar lawer iawn o bobl yr Alban rhai sydd heb benderfynu eto sut i fwrw'u pleidlais.
Mae sawl esiampl dros y misoedd diwethaf ble mae IE wedi ennill y dydd mewn dadleuon cyhoeddus yn yr Alban- unwaith y mae pobl yn cael clywed y dadleuon yn llawn. Yr enghraifft orau efallai oedd y Newsnight Scotland hwnnw gyda chynulleidfa o bobl nad oeddent yn siwr sut y byddent yn pleidleisio. A'r canlyniad ar ddiwedd y ddadl, a hyn yn y Borders sydd yn ardal lled geidwadol? 62% IA NA 38%. Roedd wyneb y brydeinwraig falch, Kirsty Wark, yn bictiwr!
Pen ar y bloc fan hyn- ond gyda'r SNP yn barod rwan i ymgyrchu fflat-owt ac UKIP yn cyflwyno newid o fath gwahanol haf nesaf- dwi'm yn amau mai rhywbeth tebyg i ganlyniad Newsnight Scotland fydd canlyniad y refferendwm ei hun flwyddyn nesaf.
Ti'n iawn Ifan. Mae'r bleidlais annibynniaeth yn gynt. Mi ddylaswn fod wedi deud: os bydd y boblogaeth yr Alban yn synhwyro fod rhagolygon ennill lecsiwn 2015 Cameron yn gwella, mi fydd o fantais i'r bleidlais ie
ReplyDelete