Mae'n ddiddorol mai prif ddadl un o Lafurwyr Golwg -Leighton Andrews - yn erbyn datganoli pwerau gosod treth incwm i'r Cynulliad ydi ei gred ei hun y byddai refferendwm ar y pwnc yn cael ei cholli. Ymddengys ei fod wedi ei frifo yn ofnadwy pan gollwyd refferendwm 1979, a dydi o ddim eisiau cael ei frifo eto.
Rwan dydi Leighton ddim yn egluro pam bod ei farn ei hun ynglyn a thebygolrwydd colli refferendwm yn fwy cywir na pholau piniwn a gwaith ymchwil arall ar y pwnc. Dydi o ddim chwaith yn son i'r Alban bleidleisio yn drwm iawn o blaid datganoli treth incwm yn 1997.
Rwan mae'n bosibl bod Leighton yn gweld ei hun fel rhyw broffwyd o'r Hen Destament sydd wedi ei fendithio efo'r gallu i weld yr hyn na all neb arall ei weld, a sy'n credu y dylai'r genedl wneud ei phenderfyniadau ar sail ei ganfyddiadau fo ei hun.
Ond wedyn efallai nad oes gan hyd yn oed Leighton gymaint a hynny o hyfdra. Efallai mai ymarferiad syml mewn rhoi gwedd barchus i wrthwynebiad Llafur i ddatganoli pwerau trethiant i Gymru sydd ar waith yma.
Mae'r blog yma wedi dadlau dro ar ol tro na fydd Llafur Cymru byth yn awyddus i ymarfer pwerau tros drethiant oherwydd bod eu hapel yn ddibynol ar allu mynnu mwy o wariant cyhoeddus heb orfod trethu unrhyw un i dalu am hynny. Mae Llafur Cymru yn gwybod bod sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant yn wenwyn pur iddi. Dylid edrych ar din droi a 'darogan' etholiadol Leighton, Carwyn a'r gweddill yng nghyd destun y ffaith syml yna.
No comments:
Post a Comment