Liz Saville Roberts ydi'r gyntaf i ddatgan diddordeb (yn gyhoeddus o leisf) mewn olynu Elfyn Llwyd fel Aelod Seneddol Meirion / Dwyfor ar ran y Blaid. Mae Liz yn gynghorydd ym Morfa Nefyn, ac mae wedi llwyddo i adeiladu cefnogaeth personol sylweddol mewn rhan o Wynedd sydd ddim arbennig o hawdd i'r Blaid ar lefel lleol ar hyn o bryd. Cafodd hefyd y fraint amheus o ddal portffolio addysg Gwynedd yn ystod cyfnod o newid sylweddol - a dangos cryn ddewrder tra'n gwneud hynny. Dwi'n mawr hyderu y bydd ymgeiswyr cryf eraill yn dangos diddordeb tros y dyddiau nesaf.
Fydda i ddim yn datgan cefnogaeth tros unrhyw ymgeisydd mewn etholiad mewnol yn y Blaid oni bai bod gen i bleidlais fy hun yn yr etholiad honno - dydi bysnesu ar fy rhan i ddim am wneud lles i neb.
Fel yn achos Ynys Mon 'dwi'n fwy na pharod i gyhoeddi deunydd etholiad mewnol unrhyw ymgeisydd sydd yn rhoi ei enw ymlaen.
Newyddion gwych! Byddai Liz yn ymgeisydd penigamp - ymgyrchydd profiadol, arbenigwr iaith ac addysg, gwleidydd lleol effeithiol a dysgwr fyddai efo'r gallu i apelio yn bell y tu hwnt i gefnogwyr traddodiadol y Blaid yn yr etholaeth.
ReplyDeleteO safbwynt cydbwysedd a chydraddoldeb byddai hefyd yn dda gweld dynes yn cael ei hethol o ardal Dwyfor.