Mae'n anodd peidio chwerthin wrth weld agweddau'r ddwy brif blaid unoliaethol tuag at ddatganoli pwerau trethu i Fae Caerdydd.
Mae'r Toriaid - sydd yn hanesyddol wedi gwrthwynebu datganoli bellach eisiau cymryd y cam eithaf radicalaidd o ddatganoli pwerau tros dreth incwm tra'n gwrthwynebu'r cam llawer llai arwyddocaol o ddatganoli treth meusydd awyr. Mae Llafur yn siomedig iawn nad ydyn nhw'n cael eu dwylo ar y dreth llai arwyddocaol tra'n dweud nad ydyn nhw eisiau'r grym i amrywio treth incwm tan bod Barnett wedi ei ddiwygio - rhywbeth y cafodd y Blaid Lafur dair blynedd ar ddeg i'w wneud tra'n rheoli yn San Steffan.
Rwan mae'r safbwyntiau hyn yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn afresymegol ac yn anisgwyl - ond dydyn nhw ddim. Mae'r ddwy blaid yn gadael i'w hagweddau tuag at ddatganoli pwerau trethu gael eu gyrru gan ystyriaethau etholiadol. Mae Carwyn Jones eisiau'r grym i ostwng treth meysydd awyr er mwyn gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol. Dydi'r Toriaid ddim am i hynny ddigwydd oherwydd y byddai hynny ar draul Maes Awyr Bryste. Mae yna lawer o bleidleisiau Toriaidd ac etholaethau cystadleuol yn Ne Orllewin Lloegr. Felly dydi'r dreth ymylol yma ddim am gael ei datganoli.
Mae'r blog yma wedi tynnu sylw dro ar ol tro bod y diffyg cysylltiad rhwng gwariant cyhoeddus a threthiant yng Nghymru yn fanteisiol iawn i'r Blaid Lafur yma. Eu prif apel ydi eu gallu i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i godi'r dreth i wneud hynny. Byddai sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant yn tynnu'r mat o dan draed Carwyn Jones a'i blaid - felly mae Cameron wedi dal ei drwyn a chynnig grym tros drethiant i Gaerdydd. Mae'n werth hyd yn oed datganoli chwaneg o rym i Gymru os ydi hynny'n tanseilio Llafur.
Dydi hi ddim yn hawdd i Carwyn Jones efelychu Hain a dweud y byddai cael yr hawl i drethu yn difa'r genedl, neu beth bynnag. Mae'n dweud ei fod eisiau'r pwerau i fenthyg er mwyn gwella is strwythur yr wlad - ond mae am fod yn anodd cael benthyciadau arwyddocaol heb ddangos gallu i godi refeniw ychwanegol - dydi treth stamp ddim am wneud llawer o wahaniaeth yn y cyswllt yna. Felly mae'n cysylltu derbyn grym tros dreth incwm efo Barnett - er nad oes yna unrhyw sail rhesymegol i wneud hynny. Dydi Carwyn ddim eisiau y pwer tros dreth incwm tan bod Barnett wedi ei ddiwigio - a does neb yn gwybod i sicrwydd beth sydd am ddigwydd i Barnett.
Ond rydan ni'n gwybod petai trefn sy'n adlewyrchu angen yn glosiach yn cael ei mabwysiadu yna byddai'r Alban ar ei cholled a Chymru ar ei hennill. O ganlyniad fydd yna ddim byd yn digwydd tan ar ol refferendwm yr Alban - mae 'caredigrwydd' Barnett tuag at yr Alban yn rhan greiddiol o'r ddadl uniliaethol. Ond dydi hi ddim yn sicr o bell ffordd y bydd newid wedyn - dydi hi ddim am fod yn hawdd i'r pleidiau unoliaethol newid setliad ariannol yr Alban er gwaeth ar ol treulio blwyddyn yn defnyddio'r setliad yna fel craidd eu dadl i bobl fotio 'Na'. A beth bynnag mae yna fwy o Aelodau Seneddol Albanaidd na Chymreig. Y fathemateg oedd yn gyfrifol am i lywodraethau Llafur 1997 - 2010 beidio a thrafferthu edrych ar Barnett.
Felly mae Cameron yn ddigon parod i ddatganoli rhai trethi i Gymru oherwydd ei fod yn gweld mantais etholiadol mewn gwneud hynny. Dydi Carwyn ddim eisiau derbyn cyfrifoldeb arwyddocaol tros drethiant am ei fod yn gweld perygl etholiadol o wneud hynny - er gwaetha'r ffaith bod gwrthod y pwerau yn cyfyngu ar ei allu i wneud rhai o'r pethau mae'n dweud ei fod am eu gwneud er budd y wlad.
Mewn geiriau eraill mae'r ddwy blaid fawr unoliaethol yn rhoi eu budd etholiadol nhw eu hunain yn gyntaf a budd a lles Cymru yn ail. Hen, hen stori mae gen i ofn.
No comments:
Post a Comment