Saturday, September 07, 2013

Cartogramau etholiadol

Pwt bach sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol efo gwleidyddiaeth Cymru heddiw.

Dwi wedi cymryd y delweddau isod o wefan Datablog y Guardian.  Mae'r ddau cyntaf yn cynrychioli etholiad arlywyddol America yn 2012 ac mae'r ddau yn cynrychioli etholiad ffederal Awstralia yn 2010.  

Mae'r rhan fwyaf o fapiau etholiadol confensiynol yn creu'r argraff mai'r blaid adain Dde sy'n dominyddu, oherwydd bod y rhan fwyaf o'r map yn cael ei gynrychioli efo'u lliw nhw (coch yn America, glas yn Awstralia).  Mae hyn yr un mor wir am Brydain gyda llaw.

Mae'r rheswm am hyn yn weddol amlwg - mae pobl sydd yn gogwyddo tua'r chwith yn tueddu i fyw mewn ardaloedd trefol, tra bod rhai sydd yn gogwyddo tua'r Dde yn tueddu i fyw mewn ardaloedd gwledig.  Yr hyn mae'r cartogramau isod yn ei wneud ydi dylunio mapiau yn ol poblogaeth a phatrymau pleidleisio yn hytrach nag arwynebedd daearyddol a phatrymau pleidleisio.  Maent yn ddadlennol iawn o ran dangos yn glir y patrwm trefol / gwledig yn y ddwy wlad yma.  Byddai cartogram etholiadol o Gymru yn ddiddorol.




2 comments:

  1. Diddorol. Mae map tebyg o Brydain fan hyn, efo Cymru yn rhan ohono: http://geocurrents.info/geopolitics/changing-geographical-patterns-in-british-elections

    ReplyDelete