Etholiad Mon - sylwadau brysiog
- Y peth amlwg i son amdano ydi perfformiad y Blaid - mae'n berfformiad cadarn iawn, ac efo dipyn o lwc gallai fod wedi bod yn un gwych. Byddai nifer fach o bleidleisiau ychwanegol mewn pedair ward (Lligwy, Bro Rhosyr, Seiriol a Talybolion) wedi rhoi 16 sedd a grym llwyr i'r Blaid.
- Does yna ddim modd gor bwysleisio canlyniad mor erchyll ydyw i'r prif bleidiau unoliaethol - ac yn enwedig felly y Toriaid a Llafur. Llwyddodd y Toriaid i gael llai o bleidleisiau nag UKIP, a chafodd y Blaid fwy na'r Lib Dems, Llafur a'r Toriaid efo'i gilydd.
- Mae'r traddodiad annibynnol yn fwy gwydn nag oedd llawer ( gan gynnwys fi) yn ei gredu. Serch hynny nid ymgeiswyr annibynnol gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholiadau lleol ar Ynys Mon am y tro cyntaf erioed. Mae hyn yn newid sylweddol.
- Dwi'n amau y bydd Albert Owen yn cysgu'n rhy dda heno. Dwi'n gwybod bod etholiad cyffredinol yn beth gwahanol iawn i etholiad lleol, dwi'n gwybod bod yna amgylchiadau arbennig y tro hwn - ond roedd gan bawb yn Ynys Mon gyfle i fotio i Lafurwr ac 17% wnaeth hynny. Mi fydd yna ogwydd cyffredinol tuag at Lafur yn 2015 ond Ynys Mon ydi Ynys Mon. Os bydd y Blaid yn dewis yn ddoeth - yn dewis rhywun efo hygrededd ar lawr gwlad Mon - mae'r hyn oedd yn edrych yn hynod anhebygol ychydig wythnosau yn ol yn ymddangos yn bosibl yn fwyaf sydyn.
- Mae perfformiad sobor Llafur yn haeddu sylw pellach. Methodd y blaid yn llwyr a gwneud argraff y tu allan i ardal Caergybi. Er iddynt ennill sedd yn Seiriol (ardal Beamaris) pleidlais Alwyn Rowlands nid un Llafur oedd honno. Cafodd eu hail ymgeisydd bleidlais digon tebyg i un UKIP. Ar ben hynny tan berfformiodd Llafur yn eu cadarnle yn ardal Caergybi. Dwy o'r dair sedd a gawsant yn ward Caergybi - ardal drefol, dlawd Saesneg o ran iaith - ac roedd UKIP yn agos at gymryd eu hail sedd. Mae ward gyfagos Ynys Cybi yn fwy dosbarth canol ond mae'n cynnwys ardaloedd Maeshyfryd a Kingsland yn nhref Caergybi - ardaloedd a ddylai fod yn ddelfrydol i Lafur. Plaid Cymru ddaeth ar ben y rhestr, collodd John Chorlton - arweinydd Llafur ei sedd gan ddod ar ol UKIP. Roedd eu dau ymgeisydd arall y tu ol i'r Toriaid hyd yn oed. Mae yna rhywbeth sylfaenol o'i le ar drefniadaeth Llafur ym Mon - a hyd yn oed ar Ynys Cybi ei hun.
- Mae arweinyddiaeth bresenol y Blaid yn wahanol i'r rhai rydym wedi eu cael yn y gorffennol o ran arddull i'r graddau ei bod yn arweinyddiaeth 'hands on' iawn o ran ymgyrchu a chymryd rhan mewn etholiadau. Mae'r ffordd yma o fynd ati wedi talu ar ei ganfed y tro hwn ac mae'n bluen yn het yr arweinydd (cymharol) newydd.
Mae'n debyg mai dyma'r ymgyrch fwyaf brwdfrydig a threfnus yn Ynys Mon ers ethol Ieuan Wyn Jones yn ol yn 1987. Mae'r ymgyrch wedi cryfhau'r drefniadaeth leol yn sylweddol a gellir mynd ati i adeiladu ar hynny o gwmpas y cynghorwyr newydd.
- Mae'r Blaid ym Mon i'w llongyfarch am eu hymgyrch y tro hwn. Roedd yn drefnus, trylwyr a brwdfrydig.
Cyn gorffen mae'n debyg y dyliwn ddweud gair neu ddau am ymdriniaeth ystafell newyddion BBC Cymru. Pan roeddwn yn mynd i'r gwaith y bore ma roedd yr hogiau wrthi'n brysur yn dweud wrthym bod Ynys Mon yn union y math o le y gallai UKIP wneud yn dda ynddo. Erbyn heno roeddynt yn gweld arwyddocad mawr i'r ffaith i'r blaid adain Dde ddod yn bedwerydd mewn un ward. Rwan doedd UKIP erioed yn gystadleuol yn Ynys Mon - a fyddan nhw byth. Ond maent wedi cael etholiad dda yn Lloegr. Mae'n naturiol ddigon bod y Bib yn hefru am hynny. Ond byddai'n syniad i'r Bib yng Nghymru lunio eu naratif eu hunain wrth ymdrin ag etholiadau yng Nghymru - naratif sy'n rhywbeth i'w wneud efo realiti gwleidyddol yng Nghymru. Ond byddai hynny'n ormod i ofyn mae'n debyg gen i.
Cytuno yn llwyr a dy sylwadau ynglyn a BBC Cymru. Roeddynt fel pet agent wedi gwirioni bod UKIP wedi gwneud yn weddol yn Caergybi.. Wnes I ddim clywed nhw yn dweud pa mor drychinebus roedd eu canlyniad ar draws Mon
ReplyDeleteEdrych bod UKIP wedi dwyn fot oddiwrth Llafur a'r Toriaid. Edrych bod y cynnydd o 7% i UKIP yn gret i Plaid Cymru mewn system FPTP (ddim mor dda yn y Cynulliad, lle byddant ella yn enill ambell i sedd ar y list).
ReplyDeleteNes i ddim dychmygu basa Llafur yn cael noson mor wael...
Wrth ddarllen y Daily Post heddiw, sylwi bod yn 4 ymgeisydd PC yn Twrcelyn, gyda 3 aelod i'w hethol. Lle mae'r gwall ? Arwahan i hyn a diflastod nodweddiadol Caergybi, noson obeithiol.
ReplyDeleteCytuno ei bod hi'n noson wael iawn i Lafur a nhwythau wedi bod yn brolio am ennill hyd at 10 sedd. Dwi'n meddwl y bydd Carwyn Jones yntau yn poeni o weld sut gafodd ei blaid eu curo gan y math o ymgyrchu "hands-on" brwdfrydig a welwyd gan PC ar yr ynys, gan y gallai hyn fod yn argoel o etholiad senedd Cymru 2016. I bawb oedd yn cefnogi Leanne am arweinyddiaeth PC, mi roedd ennill 12 sedd yn gyfiawnhad bod y dewis iawn wedi'i wneud y llynedd. Roedd gweld hi ar garreg y drws hefo etholwyr yn ystod yr ymgyrch hon yn dangos eto ei bod hi'n gallu cyrraedd pobol gyffredin mewn modd nad ydi gwleidyddion arferol o bob plaid yn gallu gwneud.
ReplyDeleteA phwy a wyr na fydd y llwyddiant etholiadolyn fodd i ddenu un neu ddau o'r ymgeiswyr annibynol i ymuno a grwp PC, unwaith y bydd y maniffesto rheoli wedi'i gyhoeddi.
Un pwynt arall calonogol: mae 28 o'r 30 cynghorydd newydd yn Gymry Cymraeg. Cyfle go iawn rwan i sefydlu gweinyddiaeth fewnol Gymraeg i'r cyngor megis Gwynedd a sefydlogi sefyllfa'r iaith ar yr ynys.
Trueni nad oedd y Blaid mor llwyddianus yn y de lle'r ennillod Llafur mewn etholiad cyngor yng Nghaerffili a Phenybont.
ReplyDeleteFel yr ydych yn awgrymu, y cwestiwn mawr nawr ydy pwy i'w ddewis yn ymgeisydd ar gyfer San Steffan. Rhaid iddo / iddi fod yn wreiddiol o Fôn ac yn byw yno o hyd, baswn i'n meddwl. Oes gan Vaughan Hughes ddigon o hygrededd? Rhyw syniadau eraill?
ReplyDeleteRhaid cytuno bod Plaid Cymru wedi gwneud yn dda a’r Blaid Lafur wedi eu siomi. Ond etholiad oedd hwn dan system newydd oedd wedi ei ddyfeisio - yn ôl y cyn-arweinydd ac ambell un arall - i ffafrio’r pleidiau gwleidyddol dros aelodau annibynnol. Ar y cyfan ‘roedd y ddwy blaid wedi ymateb i’r her yn dda, gan ymdrechu i ffurfio’r weinyddiaeth, fel mewn cynghorau eraill ar linellau pleidiol.
ReplyDeleteOnd rhaid dweud, os oedd bwriad i hel yr elfen annibynnol allan, neu i gyflwyno lawer o waed newydd, mai methiant fu hwnnw. Os rhywbeth (a chydag ambell i eithriad arwyddocaol), roedd ceidwadaeth yr etholaeth wedi tueddu i ffafrio ailethol aelodau presennol y cyngor. Er gwaethaf yr ailwampio ffiniau, mae 60% o aelodau’r cyngor newydd yn dod o blith aelodau’r hen gyngor – canran dim uwch nag yn 2008.
Os bydd yr aelodau sydd wedi eu hethol dan faner annibynnol yn llwyddo i ddod at ei gilydd a ffurfio un grŵp, efallai hefyd yn denu’r Democrat Rhyddfrydol unig, nhw fyddai’r grŵp mwyaf, ac yn hawlio ffurfio’r weinyddiaeth. Mae sôn yn y cyfryngau am ffurfio clymblaid yn anwybyddu’r rhifyddeg amlwg hwn.
Yn anffodus, mae’r rhifyddeg hefyd yn arwain yn anochel at yr angen gan y naill ochr a’r llall i ennill cadeiryddiaeth y cyngor, gyda’r bleidlais fwrw. Bydd colled y cyn Is-gadeirydd yn taflu’r gystadleuaeth yn agored. Gall hyn – Cyngor wedi ei hollti yn hanner yn union, a dim ond grym y Cadeirydd i dorri’r anghydfod – ddychwelyd Môn i rai o sefyllfaoedd annifyr y gorffennol.
Tra bob amser yn gobeithio am well, rhaid awgrymu nad yw’r holl ailwampio a fuodd wedi arwain at ryw lawer o newid sylweddol yn y Cyngor fuasai’n bodloni amcanion gwreiddiol y sawl a’i cynlluniodd.
Beth sydd hefyd yn arwyddocaol am yr etholiad yma yw fod y Blaid wedi gwneud mor dda yng ngwyneb diffyg sylw/sylw negyddol y papurau lleol (Daily Post a'r Holyhead Mail). Gwyr pawb sydd yn deallt unrhywbeth am wleidyddiaeth a'r wasg mai papurau Trinity Mirror sydd yn gefnogol i Llafur yw'r rhain - mae'r Holyhead Mail wedi troi i fod fel taflen etholiad Albert Owen yn wythnosol ac mae'r Daily Post yn dilyn yr un trywydd bellach. Dwi'n cytuno'n llwyr fod angen i'r Blaid ddewis ymgeisydd San Steffan da, a hynny'n fuan, gan eu bod wedi profi mai ar stepan y drws mae ennill yr etholiad honno, a tydi'r drefniadaeth, brwdfrydedd a'r gwirfoddolwyr yna ddim gan y Blaid Lafur ym Mon.
ReplyDelete