Bethan Jenkins ydi targed Gwilym Owen yn ei golofn ryfedd yn Golwg yr wythnos yma - nid am y tro cyntaf.
Mae'n cymryd tua 450 o eiriau i honni i'r Bib beidio a mynd ar ol sylwadau gan Bethan ar Twitter oherwydd i'r Western Mail eu curo i stori oedd yn ymwneud a'r ffaith iddi fethu a mynychu dau gyfarfod tra ar ymweliad a'r Iwerddon yn ddiweddar. Gobeithio nad ydi Golwg yn talu fesul gair.
Wel, mae'n bosibl am wn i bod rhyw fath o bwynt gan Gwilym - ond mae yna eglurhad ychydig yn symlach mi dybiwn. Efallai nad ydi stori am ddiffyg ymddangosiad gwleidydd mewn cyfarfodydd yn stori arbennig o ddiddorol i'r rhan fwyaf o bobl, ac efallai nad yw'n newyddion i neb ond Gwilym bod yna fwlis a phobl slei yn ymwneud a gwleidyddiaeth. Ac efallai, jyst efallai nad ydi pawb yn cytuno ag awgrym Gwilym bod gwleidyddion Cymraeg eu hiaith yn arbennig o addas ar gyfer sylw negyddol gan y cyfryngau.
Mae gen ti flog gwych fan hyn Cai, y gorau yn y Gymraeg heb os, ac er fy mod i'n gwerthfawrogi dy drafodaeth am golofn Gwilym Owen hoffwn glywed dy ymateb i benderfyniad Plaid Cymru i beidio a chefnogi'r penderfyniad i gyfieithu holl drafodaethau y Cynulliad i'r Gymraeg. Hynny yw, i gefnogi safiad y Western Mail yr oeddet ti'n ymosod arno mor huawdl gwta fis yn ol! Dwn i ddim a wyt ti'n cymryd 'resquest' ond diolch, Ifan
ReplyDeleteDwi'n rhyfeddu at allu Gwilym Owen i daro hoelen ar 'i phen - ond rhywsut rhywfodd yn llwyddo i ergydio 'i fawd a'i fwrthwl dro ar ol tro. Rhyfeddol yn wir.
ReplyDeleteYdw Ifan, dwi yn cymryd requests - ond bydd rhaid i ti ddisgwyl tan 'fory (neu ddydd Sadwrn) - mae'r hen foi wedi blino. Gyda llaw, diolch am y sylwadau caredig.
ReplyDeleteTin Tac - Anghytuno mae gen i ofn - hen falwr cachu chwerw ydi GO sy'n aml yn gwbl afresymegol.
Rhaid imi anghytuno am eich sylwadau parthed Gwilym Owen. Dwi'n credu eich bod yn camddeall beth yw pwrpas y math o newyddiaduraeth mae Gwilym Owen yn ei sgwennu. Nid llais swyddogol i Blaid Cymru yw Gwilym Owen nac i neb arall, ei bwrpas fel newyddiadurwr yw corddi'r dyfroedd ac ennyn trafodaeth, a dwi'n meddwl ei fod o'n llwyddiannus iawn ar y cyfan yn gwneud hynny.
ReplyDeleteMae'r hyn mae Gwilym Owen yn mynd ar ei ol yn bradychu'r hyn ydyw.
ReplyDeleteFel rheol pan mae gohebydd yn ceisio ennyn trafodaeth ac ati mae'n cwestiynu'r sefydliad - yn arbennig felly sefydliadau llywodraethol yn achos gohebydd gwleidyddol.
Dydi'r gohebydd yma prin byth yn beirniadu'r sefydliad llywodraethol yng Nghaerdydd nag yn wir yn Llundain. Yn wir mae o'r farn mai priod bwrpas Plaid Cymru ydi cefnogi'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.
Problem Gwilym yw 'i fod e'n palu yn
ReplyDeleteyr un rhigol wythnos ar ol wythnos. Mae hynny'n diflasu darllenwyr - ac o bosib yn diflasu Gwilym hefyd.
Beth am i Gwilym ehangu ei orwelion dros yr Haf? Rhywbeth am yr Euro, y cwpan a'r crisis. Yr Olympics, Y Jiwbili - unrhywbeth ond y stwff arferol.
Wel ia Tin Tac.
ReplyDeleteMae Gwilym yn un o'r bobl hynny sydd efo obsesiwn am y dosbarth canol Cymraeg ei iaith - mae yna ambell i aelod seneddol sydd efo'r un broblem.
O ganlyniad mae Byd Gwil yn ofnadwy o fach - mae pethau mae o'n eu canfod fel pethau sy'n ymwneud a'r cyfryw ddosbarth canol yn bwysig iawn iddo (mewn ffordd negyddol) Welsh Nash, yr Urdd, BBC Cymru ac ati. Dydi pethau eraill ddim yn bwysig.
Mae prif lif bywyd cyfoes yn mynd trosto fel afon tros garreg - dydi o prin yn sylwi arno a does ganddo ddim i'w ddweud amdano. Mae ei sylw wedi hoelio ar yr hyn mae'n ei ystyried yn ddosbarth canol sefydliadol Cymraeg.
Mae'n debyg bod yr eironi nad oes neb yn fwy sefydliadol Gymreig na dosbarth canol na fo wedi ei golli'n llwyr iddo.
Bach yn 'gyfoethog' yw cyhuddo Gwilym Owen o balu yr un hen rhigol ac o fod a obsesiwn am Blaid Cymru ar wefan sydd yn trafod fynycha Plaid Cymru, Y Gymraeg, Aelodau sefydliad Cymru ayyb. Dwi'n siwr ein bod ni gyd yn euog yma o syllu ar ein botwm bol ein hunain. Y pwynt dwi'n neud ydi hyn, mae'n fwy diddorol weithie darllen sylwadau sy'n cythruddo na sylwadau dachi'n cytuno a nhw
ReplyDeleteMae'n rhaid i'r darllenwyr feirniadu os ydi'r blog yma'n ddigon eclectig i'w chwaeth.
ReplyDeleteYr Almaen neu Groeg heno , ta ?
ReplyDeleteMi'r oeddwn i'n rhyw feddwl mynd ar ol materion mwy diwyllianol a dweud y gwir - dylanwad ol foderniaeth ar ffuglen Indonesiaidd oedd gen i dan sylw.
ReplyDelete"Y pwynt dwi'n neud ydi hyn," medd Brwynen," mae'n fwy diddorol weithie darllen sylwadau sy'n cythruddo na sylwadau dachi'n cytuno a nhw." Iawn, ond y gair allweddol yn fanna yw 'weithie.' Mae yna ystyr i 'hyd syrffed' ond oes?
ReplyDeletemae Gwilym efo obsesiwn efo'r hyn mae'n ei weld fel dosbarth Canol Cymraeg, oherwydd cenfigen a'i fethiant llwyr tra yn Barcud blynyddoedd yn ol. Mae'n teimlo'n 'hard done by' ac mewn gwirionedd wedi torri ei fol dros y blynyddoedd i fod yn rhan o'r union ddosbarth mae mor feirniadol ohono. Rhyfedd o fyd...
ReplyDeleteI hаve bеen exploring for a little bit fоr any high-quality artiсles or wеblog posts іn thіs
ReplyDeletesοrt οf ѕpаce .
Eхрloгіng in Yahοο I evеntuallу stumbled
upon this wеb ѕite. Studying this info So i'm satisfied to show that I'ѵе
а ѵery еxсellent uncanny fееling I came upon exасtly whаt I
needed. I moѕt certаinly will mаke sure to
ԁon?t ԁisregаrd thіs wеb ѕite
and give it a looκ гegulагly.
my web site - pay day loans
Great beat ! I would like to apprentice while
ReplyDeleteyou amend your web site, how could i subscribe for
a blog website? The account aided me a acceptable deal.
I had been tiny bit acquainted of this your broadcast
offered bright clear idea
my web page - games online
І am in fаct thankful to the hоlder of
ReplyDeletethis website who has shaгed this great рагagraph at at this ρlaсe.
Here is my site : loans for bad credit
Pretty gгeat post. I ѕimply stumbled uρon your
ReplyDeleteweblog and wanted to mеntіon that І've truly enjoyed surfing around your weblog posts. In any case I'll be subscribing іn your feeԁ anԁ I hope you wrіte onсе mοгe very ѕoоn!
Feel free to visit my blog : loans for bad credit
Hi! I сoulԁ have ѕworn Ι've visited this web site before but after looking at a few of the posts I realized it's new to me.
ReplyDeleteNonethеless, I'm certainly happy I discovered it and I'll be boοk-mаrkіng it and cheсking back
rеgularly!
Here is my web-site ; best payday loans
It's going to be ending of mine day, except before end I am reading this great piece of writing to improve my experience.
ReplyDeleteHere is my blog post :: 1 month loan
Do you have a spam issue on this blog; I also am a blogger, and I was wanting to know your situation; we have developed some nice procedures and we are looking
ReplyDeleteto trade strategies with others, why not shoot me an e-mail if interested.
Here is my blog diets that work
My ρartner anԁ I ѕtumbled over here comіng
ReplyDeletefгοm a diffегent wеbѕite аnԁ thоught I might as well check
things out. I like what I see ѕo now i'm following you. Look forward to finding out about your web page again.
Feel free to visit my web-site - bad credit loans
Fantaѕtic goods from уou, man. I have understand уоuг ѕtuff
ReplyDeleteprevious to and you are just extremely magnificеnt.
Ӏ aсtually like what you have acquirеd hеre, certainlу like ωhat you are stating anԁ the way
in which yοu say іt. You make it enjoyable anԁ you ѕtіll care for to keep it sеnsible.
I can't wait to read far more from you. This is actually a tremendous website.
Here is my web site payday loans
My website: payday loans
Aw, this wаs а very nice post. Spenԁing
ReplyDeleteѕome time and actual effort to produce а grеat article… but what can
Ӏ say… I hеsitate a whole lot
anԁ don't seem to get anything done.
My website :: Property for Sale
Post ωriting is also a excitement, if you be fаmiliar with thеn
ReplyDeleteyou can write οr else іt iѕ comρlіcatеd
to wгite.
Also vіsit my sitе :: instant payday loans
My page: instant payday loans