Sunday, April 29, 2012

Ymdrechion 'anhygoel' Charles Windsor tros yr amgylchedd

Mae'n ddiddorol bod rhywun o'r enw Robert Redford yn defnyddi'r ansoddair anhygoel am Charles Windsor a'i ymdrechion tros yr amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd efo rwdlan a phrygethu Windsor ynglyn a'r hyn y dylem oll ei wneud i amddiffyn yr amgylchedd.

Yr hyn sy'n llai adnabyddus ydi'r gagendor anferth rhwng yr hyn mae'r uchelwr Seisnig yn ei ddweud a'r hyn mae'n ei wneud. Ym Mhrydain mae ein argraff carbon cyfartalog yn 11 tunnell metrig y flwyddyn y person. 2601 tunnell metrig ydi argraff carbon Mr Windsor. - cymaint a 236 o'r hyn mae pobl cyffredin yn ei gynhyrchu. Mae'r dyn yn ceisio difa'r blaned ar ei ben ei hun bach.

Erbyn meddwl, efallai bod yr ansoddair yn briodol, ond ddim yn y ffordd mae Mr Redford yn ei feddwl.

3 comments:

  1. Brwynen10:53 am

    Postiad gwych, mae'n hen bryd i rhagrith y dilettante gwrth gymraeg yma gael ei rhoi ar goedd

    ReplyDelete
  2. Anonymous1:25 pm

    Hollol - mae angen i genedlaetholwyr ddangos gwrthwynebiad agored tuag at y teulu brenhinol

    ReplyDelete