Sunday, April 29, 2012

Sibrydion o'r wardiau

Cyn yr etholiadau diwethaf mi es ati i gynhyrchu dadansoddiad gweddol gynhwysfawr o'r gwahanol ornestau yng Ngwynedd. 'dydw i ddim am wneud hynny y tro hwn - yn rhannol oherwydd diffyg amser, ac yn rhannol oherwydd y ffaith bod unrhyw ddarogan yr oeddwn yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio i bwrpas propoganda yn amlach na pheidio. Ond waeth i ni gael cip bach ar un neu ddwy o'r straeon sy'n ymddangos trwy fwg y frwydr.

I ddechrau cydymdeimlad Blogmenai i'r Cynghorwyr Annibynnol Dilwyn Lloyd (Talysarn) a Sion Roberts (Gogledd Pwllheli) sydd wedi cefnogi Llais Gwynedd yn gyson tros gyfnod o bedair blynedd, ond sy'n cael eu hunain efo gwrthwynebwyr o'r grwp hwnnw. Ymddengys bod y ddau wedi eu hypsetio braidd gan y ffasiwn ddatblygiad. Trist iawn, ond dyna ydi natur y broses ddemocrataidd mae gen i ofn hogiau.

Fel y gwelwyd eisoes, mae pethau braidd yn fler i lawr yn Ne Meirion rhwng Louise Hughes o Lais Gwynedd a'r ymgeisydd Annibynnol, John Haycock.

Yn y cyfamser, mae ymgeisydd y Lib Dems yn ward Glyder ym Mangor yn canoli ei ymgyrch yn llwyr o gwmpas tyllau yn y lon - er a bod yn deg mae ei ohebiaeth hefyd yn cyfeiro at goed wedi syrthio, siop wag, llygod mawr a'r angen i dorri coed sy'n amharu ar olygfeydd pobl. 'Dydi o ddim yn anisgwyl bod Doug eisiau son am lygod mawr, coed a thyllau yn y palmant yn hytrach na'i Blaid ei hun a'i pholisiau yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, ond wir Dduw mae gohebiaeth Doug yn dod a dimensiwn cwbl newydd i'r term dog shit Liberals. Mae fel patai pob cyfeiriad at unrhyw beth nad yw'n gorwedd ar y palmant wedi ei ddileu o'i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth lleol. Does neb yn disgwyl i Lib Dem fel Doug ddyrchafu ei lygaid i'r mynyddoedd, ond efallai y byddai edrych ar rhywbeth -unrhyw beth o gwbl - ag eithrio'r palmant yn syniad.

Atal llywodraethiant gan Blaid Cymru yng Ngwynedd ydi prif ddadl ymgeisydd Llais Gwynedd yn Llanfair a Llanfarian! Roger Payne. Ymddengys bod y Blaid wedi defnyddio eu 'rheolaeth' o'r Cyngor i wneud pob math o bethau ofnadwy megis cymryd penderfyniadau cynllunio dadleuol, codi treth y cyngor, ail strwythuro ysgolion a chartrefi gofal ac ati. Rhywbeth nad yw'n gyfeirio ato ydi'r ffaith nad ydi Gwynedd yn cael ei rheoli gan Blaid Cymru. Mae Gwynedd bron yn unigryw yng Nghymru yn yr ystyr bod grym yn cael ei rannu rhwng pob plaid a grwp. Yn wir, er bod y Blaid efo mwyafrif llwyr eithaf cyfforddus ar y cyngor erbyn hyn, mae'n dewis peidio a manteisio ar ei hawl i gael mwyafrif llwyr ar Fwrdd y Cyngor. Y cydbwysedd ar y Bwrdd ydi Plaid Cymru 7, Annibynnol 4, Llais Gwynedd 2, Lib Dems 1 a Llafur 1.

Yma yn Arfon mae prif ddyn Llafur, Tecwyn Thomas, yn cael trafferth deall pam bod ei blaid yn cael cymaint o drafferth i ddenu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.  Efallai y byddai eistedd yn ol a gofyn iddo'i hun beth mae helynt pamffledi Trelai yn ei ddweud am agweddau gwaelodol llawer yn ei blaid tuag at y Gymraeg, a beth mae'r agweddau hynny yn eu dweud wrth Gymry Cymraeg ynglyn a'i blaid yn syniad.  Serch hynny mae'n rhaid llongyfarch nifer o'u hymgeiswyr sy'n fyfyrwyr ac yn dod o'r tu allan i Gymru.  Yn ol Tecwyn maent yn bwriadu aros yma ar ol graddio.  Mae'n gryn gamp cael gwaith yn lleol hyd yn oed wedi graddio yn yr oes sydd ohoni, ond ymddengys bod yr ymgeiswyr Llafur wedi cael eu swyddi ymhell cyn graddio. Da iawn nhw.

Ar nodyn ychydig yn wahanol 'dydw i ddim yn ddyn Facebook fy hun, ond i'r sawl yn eich plith sydd efo cyfri ac eisiau perspectif arall ar bethau, gallwch weld yr etholiad o safbwynt Llais Gwynedd yma.  Anaml y byddaf yn rhoi hysbys i Llais, ond am yr un tro hwn 'dwi'n fodlon gwneud eithriad. 

Gallwch ddysgu pob math o ffeithiau diddorol yno - megis pam bod Louise Hughes yn edmygu Prif Weinidog Awstralia, a pam bod Aeron Jones (ward Llanwnda), yn rhagweld llwyddiant ym Mangor, er nad oes gan Lais Gwynedd cymaint ag un ymgeisydd yn sefyll yn y ddinas.

Mi gewch chi fwy o newyddion fel 'dwi'n ei gael.

8 comments:

  1. Anonymous2:33 pm

    Alla i ddim cael y ddolen o'r post i dudalen facebook Llais Gwynedd i weithio, ond o chwilio am 'Llais Gwynedd' yn facebook, fe ddes i o hyd i'w tudalen.

    Mae'n debyg mae un o'u polisiau nhw ydy:

    "Enthusiastically supports the Welsh language"

    Awgrymaf, felly, y byddai ambell air o Gymraeg (heblaw am jest 'Llais', 'Gwynedd', 'Plaid' a 'Cymru') ar eu tudalen facebook yn lle da i gychwyn rhoi'r polisi hwnnw ar waith.

    Iwan Rhys
    (Peblig)

    ReplyDelete
  2. Dwi'n meddwl bod rhaid i ti fod wedi mewngofnodi i dy gyfri Facebook cyn dilyn y linc.

    ReplyDelete
  3. Ymgeisydd Llais Gwynedd Porthmadog yn cwyno bod Cyngor Gwynedd yn buddsoddi yng Ngogledd y Sir yn unig ac yn amddifadu y de o unrhyw arian. Beth sydd gan ymgeiswyr Llais Gwynedd yn Arfon i ddweud am hyn tybed? I fod yn deg i'r ymgeisydd yn Porthmadog mae yn cwyno fod y Cyngor wedi gwario miliynau ar Blaenau Ffestiniog. Blaenau Ffestiniog yn ol Llais Gwynedd felly wedi symud lleoliad i Ogledd Gwynedd!

    ReplyDelete
  4. Wel, mae ymgeisydd Llais Gwynedd Menai (Caernarfon), Jim Bracegirdle o'r farn bod angen mwy o fuddsoddiad yng Nghaernarfon - datblygu'r sustemau trafnidiaeth yn y dref, gwneud yn siwr nad oes yna ddim byd yn cau yma, cael mwy o swyddi yma - etc - o a rhoi Caernarfon yn gyntaf.

    Rhyfedd de?

    ReplyDelete
  5. Anonymous9:18 pm

    Newydd Gael golwg ar y wefan facebook,dim math o bolisi na syniad yno,dim ond cwyno di ddiwedd ac dim son am gyllido na sut I ymdopi efo'r wasgfa ariannol sydd ar droed.

    Mae yna ran plentynaidd ohonnof isho Llais gael ychydig o rym,I weld a mwynhau y chwalfa yng ngwyneb unrhyw benderfynniad anodd,ond fel perchennog I fuses Bach yng Ngwynedd,a gyda plant yn yr ysgolion mi fysai'n ddisaster or radd flaenaf.

    Mawr obeithiaf bydd yr etholwyr yn gallach dydd iau

    ReplyDelete
  6. Anonymous8:11 pm

    Sut ma'r blaid yn edrych yn etholaethau c'fon?

    ReplyDelete
  7. Iawn - dwi'n meddwl.

    ReplyDelete
  8. Roger Payne - Llais Gwynedd - "You F***in Welsh - you are all backward - you deserve all that you get" Ofnadwy de i foi o Lais Gwynedd rannu hyn yn gyhoeddus ym Mhentref Llanbedr wythnos cyn ei belidlais ei hun!!!!!!!!!!!!

    ReplyDelete