Mae'n debyg bod yna rhywbeth addas yn y ffaith i fandiau perfformiad y Cynulliad gael eu rhyddhau ar yr un diwrnod ag ymddangosodd stori yn y Telegraph am dwyllo honedig gan arholwyr - gan gynnwys rhai sy'n gweithio i CBAC. Os ydi'r stori honno'n wir, yna mae'n un gwbl syfrdanol.
Y berthynas rhwng y ddwy stori ydi bod adeiladu pwysau a chystadleuaeth chwyrn i mewn i unrhyw gyfundrefn - fel mae cyhoeddi bandiau ysgolion yn ei wneud - yn siwr o arwain at rhywfaint o ymdrechion eithafol, ac o bryd i'w gilydd cwbl amhriodol gan ambell un i achub y blaen ar eraill.
Os ydi llywodraeth Cymru yn benderfynol o greu cyfundrefn mwy cystadleuol yn y byd addysg Cymreig, yna mae'n bwysig eu bod yn sicrhau bod eu dulliau o fesur a chymharu yn wrthrychol ac yn effeithiol, a bod y strwythurau sy'n mesur ac yn cymharu yn hollol dryloyw a gwrthrychol.
Os ydi honiadau'r Telegraph yn wir, 'dydi pethau ddim wedi cychwyn yn arbennig o dda.
Gellir dod o hyd i fandiau'r Cynulliad yma.

Ysgol Friars yn Band 4!
ReplyDeleteO Gaergybi i Gricieth bydd y dosbarth canol gwrth-Gymreig sydd yn gwario ffortiwn ar dacsis i gludo'u epil i Fangor yn cael cathod!
Dw i'n gynnyrch un o ysgolion gwaethaf Cymru felly? Chwarae teg i mi am feddu'r gallu i gyfansoddi'r brawddegau yma!
ReplyDeleteSyr Huw,
ReplyDeleteGCSEs WJEC,
a gradd Prifysgol Cymru.
Da de!