Mae gen i ofn fy mod yn anghytuno a sylwadau hysteraidd braidd fy nghymydog Ebenezer Scrooge ynglyn a phenderfyniad Cyngor Gwynedd i beidio a thocio cyflogau’r sawl aeth ar streic tan fis Chwefror.
Yn wir, byddwn yn mynd ymhellach ac yn llongyfarch y cyngor am ddangos hyblygrwydd a chonsyrn tuag at ei weithwyr yn ystod amser digon anodd. Mae’r deilydd portffolio sy’n gyfrifol am gyllid y sir, Sian Gwenllian yn gwbl gywir pan mae’n nodi:
Yn wir mae’n anodd peidio a chwerthin wrth ddarllen rhai o sylwadau Ebenezer ynglyn a thegwch.
Ond wnewch chi ddim clywed gair am yr anhegwch sylfaenol hwnnw gan ein cyfeillion Toriaidd. Wnewch chi ddim clywed gair chwaith am y cyflogau enfawr mae penaethiaid yn y sector bancio yn dal i’w hawlio. Mae’n well o lawer ganddynt dynnu sylw at pob anghyfartaledd rhwng grwpiau o bobl sy’n mynd allan pob dydd i wneud diwrnod gonest o waith.
Peidiwch a disgwyl gwobr gan Flogmenai am egluro pam nad ydi anhegwch sylfaenol y sefyllfa sydd ohoni hyd yn oed yn ymwthio i ymwybyddiaeth Toriaid fel Ebenezer.
Yn wir, byddwn yn mynd ymhellach ac yn llongyfarch y cyngor am ddangos hyblygrwydd a chonsyrn tuag at ei weithwyr yn ystod amser digon anodd. Mae’r deilydd portffolio sy’n gyfrifol am gyllid y sir, Sian Gwenllian yn gwbl gywir pan mae’n nodi:
Mae’n bwysig bod yn hyblyg mewn cyfnod sydd mor heriol yn ariannol. Does dim codiad cyflog wedi bod ers dwy flynedd (yn sgil polisiau cenedlaethol) ac mae llawer o’n gweithwyr sy’n cynnig gwasanaethau pwysig ar y rheng flaen yn teimlo’r esgid yn gwasgu erbyn hyn.
Fydd gohirio’r tocio yn rhoi mymryn mwy o arian yn eu pocedi dros y Nadolig sy’n adeg drud i deuluoedd a rhaid cofio mai gohirio’r tocio ydan ni, ac nid gwneud i ffwrdd ag o yn gyfan gwbl.
“Mi fydd y gweithwyr yn dal i golli diwrnod o dâl os fuon nhw ar streic felly does dim cyfiawnhad i’r ddadl y bydd y trethdalwyr rhywsut ar eu colled.
Pwy sy’n mynd i ddigolledu’r gweithiwr Asda neu’r gweithiwr Morrisons sy’ wedi gorfod cymryd diwrnod i ffwrdd er mwyn edrych ar ôl eu plant? Pwy sy’n mynd i’w digolledu nhw?
Rwan ‘dydw i ddim yn gwybod yr ateb i’w gwestiwn, nag i faint o weithwyr Asda a Morrisons a gafodd eu hunain yn y sefyllfa yma, ond byddai dyn yn rhyw obeithio bod y cyfryw gwmniau wedi ymddwyn yn gydymdeimladol , hyblyg a chyfrifol a gwneud yr hyn allant i ail drefnu shiftiau ac at.
Mae’n bosibl na ddigwyddodd hynny – ond meddyliwch am y rhesymeg mewn difri – os nad ydi Morrisons ac Asda yn ymddwyn yn gydymdeimladol, hyblyg a chyfrifol yna mae’n ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy o anheg i Gyngor Gwynedd ymddwyn yn gydymdeimladol , hyblyg a chyfrifol.
Dyma resymeg Tori i’r dim – os ydi rhai cyflogwyr yn ymddwyn yn gas tuag at eu gweithwyr, yna mae’n anheg nad ydi pob cyflogwr yn gwneud hynny.

Efallai y bydd Ebenezer yn caniatau i mi dynnu sylw at y gwir anhegwch yn y sefyllfa yma – sef bod y sector bancio wedi cael rhyddid i ymddwyn yn gwbl anghyfrifol am flynyddoedd, ac wedi i’r hwch fynd trwy’r banc, bod rhaid i bawb arall – yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd - dalu trwy eu trwynau am y llanast.
Ond wnewch chi ddim clywed gair am yr anhegwch sylfaenol hwnnw gan ein cyfeillion Toriaidd. Wnewch chi ddim clywed gair chwaith am y cyflogau enfawr mae penaethiaid yn y sector bancio yn dal i’w hawlio. Mae’n well o lawer ganddynt dynnu sylw at pob anghyfartaledd rhwng grwpiau o bobl sy’n mynd allan pob dydd i wneud diwrnod gonest o waith.
Peidiwch a disgwyl gwobr gan Flogmenai am egluro pam nad ydi anhegwch sylfaenol y sefyllfa sydd ohoni hyd yn oed yn ymwthio i ymwybyddiaeth Toriaid fel Ebenezer.
Roeddwn i'n gefnogol iawn i'r streic, ond rhaid cyfaddef fy mod yn gweld gohirio'r tocio cyflog am ddau fis yn rhyfedd. Ar yr olwg gyntaf, o leiaf, roeddwn i'n rhyw hanner-gydymdeimlo â barn Mr Bebb (er wrth gwrs rwyt ti'n llygad dy le bod y pwynt ynglyn â gweithwyr Asda'n gwbl ddwl ac amherthnasol).
ReplyDeleteYdi gohirio fel hyn yn beth arferol? Onid yw hynny'n gwanhau'r safiad a wnaed gan y gweithwyr, gan ei bod wedyn yn ymddangos eu bod yn ei chael hi'r ddwy ffordd? Mae streicio i fod i beri anghyfleustra a chaledi i'r sawl sy'n gwneud hynny. Onid o'r aberth yna y mae pwer y weithred yn deillio'n y lle cyntaf?
Asking questions are genuinely pleasant thing if you are not
ReplyDeleteunderstanding something entirely, however this post gives fastidious understanding even.
Have a look at my web page ... hardwood floors
Thanks for one's marvelous posting! I seriously enjoyed reading it, you can be a great author. I will be sure to bookmark your blog and definitely will come back sometime soon. I want to encourage you to continue your great writing, have a nice weekend!
ReplyDeleteLook into my blog post - discount hardwood floors
Thanks for the auspicious writeup. It in reality was a entertainment account it.
ReplyDeleteLook advanced to more delivered agreeable from you! However, how
could we keep up a correspondence?
hardwood floors installation
Also visit my web site - hardwood floor
Having read this I thought it was rather enlightening. I appreciate you spending some time and effort to
ReplyDeleteput this content together. I once again find myself spending
way too much time both reading and commenting. But so what, it was still worth it!
Feel free to surf to my blog post: treatment for toenail fungus
my website :: nail fungus zetaclear
My relatives every time say that I am killing my time here at net, except I know I am getting know-how everyday by reading thes fastidious articles or
ReplyDeletereviews.
my website :: shiny hair hair
Thanks for the auspicious writeup. It if truth be told was a leisure account it.
ReplyDeleteGlance advanced to more added agreeable from you! However, how can we communicate?
Also visit my homepage; zetaclear nail fungus relief