Gyda chymysgedd o fraw ac eiddigedd y darllenais brif stori'r Cymro heddiw - yn wir yr unig stori fwy neu lai i ymddangos ar y ddwy dudalen gyntaf. Y ffaith bod y Cymro wedi achub y blaen arnaf i gyrraedd sgwp y ganrif oedd y rheswm tros yr eiddigedd, a chynnwys y sgwp oedd y rheswm tros y braw a'r dychryn.
Mae'r wythnosolyn cenedlaethol arloesol wedi tyrchu o dan pob carreg a dod ar draws y ffaith syfrdanol bod yna deulu dosbarth canol Cymraeg ei iaith wedi gor yfed. Yn wir roedd pob un o bedwar aelod y teulu wedi gor yfed - y mab tra'n gwersylla ar lan y mor, y ferch mewn gwyl 'gerddorol' (a finnau'n meddwl mai cymryd cyffuriau oedd pobl mewn llefydd felly), y tad yn ystod ymweliadau a gemau rygbi, a'r fam yn y 'Steddfod.
Mi fydd y stori erchyll yma megis bollt o'r awyr wag i'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg mae gen i ofn. Duw yn unig a wyr pa dystiolaeth o lygredigaeth moesol y genedl fydd y Cymro yn ei ddatgelu yn yr wythnosau sydd i ddod - bod yna deulu yn gadael i'w plant chwarae mewn cae swings ar ddydd Sul efallai, neu bod yna deulu nad ydynt yn anfon eu plant i'r ysgol Sul yn wythnosol, bod tafarn yn agored ar y seithfed diwrnod, neu bod yna bentref yng Nghymru nad oes iddo weinidog.
Ac efallai y daw o hyd i sgwps economaidd a gwleidyddol a mynd ati i ddarogan y bydd Chwarel Dinorwig yn cau, bod tebygrwydd y bydd y Tywysog Siarl yn treulio cyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth a bod yna bosibilrwydd cryf nad George Thomas fydd yr Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru wedi'r etholiad nesaf.
Diolch i Dduw bod y Cymro gyda ni i'n cadw mewn cysylltiad a'r Gymru gyfoes.

No comments:
Post a Comment