Saturday, June 04, 2011

Perfformiad yr SNP eleni

'Dwi'n dwyn y ffigyrau a'r stori ganlynol o'r blog penigamp o Ogledd Iwerddon, Slugger O'Toole.

Y pwynt mae Slugger yn ei wneud ydi bod yr SNP wedi dod yn rhyfeddol o agos at ennill pob sedd uniongyrchol yn etholiadau Senedd yr Alban eleni:

Coatbridge and Chryston 2,741 Llaf
Motherwell and Wishaw 587 Llaf
Uddingston Bellshill 714 Llaf
Glasgow Maryhill and S’burn 1,292 Llaf
Glasgow Pollock 623 Llaf
Glasgow Provan 2,079 Llaf
Glasgow Rutherglen 1,779 Llaf
Orkney 868 Lib Dem
Shetland 3,328 Lib Dem
Edinburgh North and Leith 595 Llaf
Cowdenbeath 1,247 Llaf
Ayr 1,113 Tori
Dumfrieshhire 4,274 Llaf
East Lothian 151 Llaf
Ettrick, Roxburgh & Ber’shre 5,334 Tori
Galloway and West Dumfries 862 Tori
Dumbarton 1,639 Llaf
Eastwood 4,885 Llaf
Greenock and Inverclyde 511 Llaf
Renfrewshire South 2,587 Llaf

Yn ol Slugger mi fyddai 18,624 pleidlais (yn y lleoedd cywir) i'r SNP yn hytrach na phleidiau eraill wedi rhoi pob sedd etholaethol iddyn nhw.

'Rwan, dyna beth fyddai stori etholiadol.

6 comments:

  1. maen_tramgwydd1:03 pm

    Rhyfeddol yn wir!

    Sut mae Plaid yn cymharu?

    ReplyDelete
  2. Dwi'n meddwl bod y ffigyrau i'w cael ar wefan y Bib - ymysg lleoedd eraill.

    ReplyDelete
  3. maen_tramgwydd3:41 pm

    Beth oeddwn i'n olygu (gyda tipyn o eironi), oedd faint o bleidleisau oedd rhaid i'r Blaid ei colli, iddi golli ei seddau uniongyrchol i gyd?

    Dim ond cyferbyniad, wrth gwrs, sydd rhwng llwyddiant yr SNP a methiant y Blaid yn yr etholiad hwn.

    ReplyDelete
  4. Heb edrych ar y ffigyrau llai na fyddai'n rhaid i'r Toriaid (ac wrth gwrs y Lib Dems) ei golli.

    ReplyDelete
  5. 'Dyda chi ddim angen plyg.

    ReplyDelete