Trychineb ydi'r term sydd wedi ei ddefnyddio'n fynych i ddisgrifio'r toriadau arfaethiedig i'r cyfryngau darlledu yng Nghymru. Yn aml mewn sefyllfaoedd fel hyn mae yna or ddweud, ond nid yn yr achos hwn. O'u gwireddu mi fyddai'r toriadau hyn yn drychineb i Gymru.
Roedd yn ddiddorol gwrando ar Guto Bebb, aelod seneddol Toriaidd Aberconwy ar CF99 yn lled amddiffyn y toriadau sydd ar y gweill i wasanaethau darlledu yng Nghymru trwy awgrymu bod cost darlledu yng Nghymru yn uchel o gymharu a Chatalonia.
Rwan, dwi ddim yn gwybod faint ydi cost darlledu yng Nghatalonia i'r pwrs cyhoeddus, ond 'dydi'r gymhariaeth ddim yn un addas. Mae'r byd cyfryngol yn hynod gryf yng Nghatalonia. Er enghraifft mae yna rwydwaith o wyth sianel deledu Catalanaidd o ran iaith TV3, 33, Super3, 3/24, 3XL, Esport 3, TV3 HD a TV3CAT. Ceir hefyd 17 sianel radio sy'n defnyddio'r iaith fel cyfrwng, ac un ar bymtheg o bapurau newydd. a chwe chylchgrawn.
Cymharer hynny efo'r hyn sydd ar gael yng Nghymru - yn y Gymraeg a'r Saesneg. 'Rydym wedi edrych ar rhan o'r rheswm am hyn eisoes - 'dydan ni ddim yn creu marchnad ar gyfer allbwn cyfryngol Cymreig. Oherwydd hynny rydym yn ddibynnol iawn ar arian cyhoeddus am ein allbwn cyfryngol cenedlaethol. Mae'n debygol y bydd rhaglenni sy'n ymwneud a materion cyfoes a gwleidyddiaeth ymysg y cyntaf i wynebu'r gyllell. Ar hyn o bryd mae rhaglenni felly yn rhoi sylw digon effeithiol a thrylwyr i'r wleidyddiaeth Gymreig newydd sydd wedi datblygu tros y cyfnod ers sefydlu'r Cynulliad. O'u torri bydd y sylw hwnnw yn edwino - a bydd yr anghydbwysedd llwyr rhwng y sylw a roir ar y cyfryngau i wleidyddiaeth Gymreig o gymharu a gwleidyddiaeth Brydeinig yn gwaethygu - i anfantais gwleidyddiaeth Gymreig wrth gwrs.
Mi fyddai'n eironi creulon petai'r Cynulliad - ac yntau bellach yn ddeddfwrfa am y tro cyntaf - yn mynd trwy'r broses o reoli a deddfu, ond bod hynny'n digwydd heb i grynswth pobl Cymru fod a fawr o syniad beth sy'n digwydd yno. Mae perygl gwirioneddol i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei hun mewn rhyw fath o swigan wedi ei wahanu oddi wrth, ac allan o olwg y sawl mae'n eu llywodraethu.
Cytuno'n llwyr. Pwynt cryf yn y paragraph olaf.
ReplyDeleteCytuno â dy ddadansoddiad. Hynod ddiddorol gweld maint y cyfryngau yn Catalonia. Beth sydd i'w ateb am hyn tybed?
ReplyDeleteWrth gwrs, bu adeg pan oedd Cymru yn cynhyrchu toreth fawr o ddeunydd cyfryngol Cymraeg - yn y 19 ganrif. Mae'n annodd credu pa mor gynhyrchiol oedd y cyfnod. Er mai deunydd crefyddol oedd y mwyafrif ohono roedd yn talu amdano'i hun heb help y wladwriaeth.
Pam nad oes marchnad ar gyfer rhywbeth - unrhywbeth - yng Nghymru heddiw? Onid all rhywun ddefnyddio'r we i sefydlu sianel fyddai'n gallu apelio ar draws ystod eang o ddiddordebau? Mae Golwg 360 yn blatfform allai gael ei ddatblygu i greu cyfrwng newyddion llawer mwy cynhwysfawr. Ond chydig iawn o ddatblygu go iawn fu arno hyd yma.
Awgrymu ydw i y dylem geisio datblygu rhywbeth ein hunain - heb ddibynnu ar y wladwriaeth. Byddai hynny'n fwy cydnaws a'r Gymru newydd sy'n ymffurfio o bosibl.
Fel y dywedwn yma ym Môn - medrwn.
Hi Cai,
ReplyDeleteDwi'n gweld rhinwedd yn sylwadau Dyfed ac yn wir felly hefyd dy sylwadau am Gatalonia. Bu i mi gymharu gwariant o'r pwrs cyhoeddus yn unol a thystiolaeth gafwyd wrth lunio adroddiad y Pwyllgor Dethol ynghylch S4C.
O ystyried lefel y gwariant cyhoeddus ar ddarlledu yng Nghymru gyda'r gwledydd / rhanbarthau eraill o fewn y DU y mae'n anodd iawn datgan fod Cymru yn cael cam o fath yn y byd. Creu'r farchnad yw'r her.
Credaf fod Barn yn gwerthu tua 30 - 40 copi yng Nghaernarfon pob mis. Falle mwy bellach ond go brin fod yna ddatblygiad sylweddol wedi bod dros y ddegawd ers i mi werthu'r siop. Yng nghyd-destun y nifer sy'n byw yn fras yng Nghaernarfon ar draul uwch swyddi yn y Cyngor, athrawon a'r hyn sy'n weddill o staff y cyfryngau heb son am y byd iechyd / addysg ym Mangor sy'n dewis byw yng nghyffiniau Caernarfon y mae'n rhyfeddol nodi cyn lleied o gefnogaeth sydd yna i gyhoeddiad Cymraeg ei iaith sy'n weddol safonol.
Yn achos nifer helaeth iawn o'r unigolion hyn y mae eu swyddi yn bodoli i ryw raddau oherwydd eu gallu i ddefnyddio y Gymraeg megis gweinyddwyr yng Nghyngor Gwynedd, athrawon ac gweithwyr y cyfryngau. Ymddengys ein bod yn ddigon parod i dderbyn arian oherwydd ein gallu ieithyddol ond ddim mor fodlon gwario ein harian ein hunain ar yr iaith. Pam?
Yn olaf, ddaru ti ddim ail-adrodd sylw difyr Simon Thomas ynghylch pan y penderfynodd Llywodraeth Cymru'n Un wrthod ariannu papur dyddiol Cymraeg. Doess yna ddim achos busnes oedd ei ateb. Felly hefyd yn achos S4C sydd, wel y dengys adroddiad y Pwyllgor Dethol, yn denu tua £3m o gyllid masnachol. Ryfedd nad yw'r cyfiawnhad dros wrthod Papur Dyddiol (sef penderfyniad Plaid Cymru) ddim yn cael sylw wrth ystyried buddsoddiad parhaol o £100miliwn yn fwy na'r cyllid masnachol yn S4C (sef penderfyniad y Glymblaid). Safonau dwbwl?
Guto
ON - £100m yn parhau sef £83m o'r BBC / DCMS gyda £19m o raglenni gan y BBC. Hyn oll heb achos busnes :-)