Sunday, April 10, 2011

Plaid Cymru a'r SNP i helpu pleidlais Ia yn y refferendwm AV?

Dyna mae politicalbetting.com yn ei awgrymu fodd bynnag.

Ymddengys bod cwmni polio Angus Reid wedi gofyn i gefnogwyr gwahanol bleidiau yng Nghymru a'r Alban sut y byddant yn pleidleisio yn y refferendwm AV, a bod mwyafrif sylweddol iawn o bleidleiswyr yr SNP a'r Blaid yn debygol o bleidleisio Ia.

Mae'r gyfradd pleidleisio yn y refferendwm yn debygol o fod yn uwch yn y ddwy wlad Geltaidd nag yn Lloegr oherwydd yr etholiadau Cynulliad a Senedd yr Alban ar yr un diwrnod.

Gyda'r refferendwm yn debygol o fod yn agos, byddai'n ddifyr petai pleidleisiau cenedlaetholwyr o'r ddwy wlad Geltaidd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng canlyniad Ia a Na

2 comments:

  1. Anonymous9:37 pm

    A fydd y refferendwm AV yn cael effaith a'r etholiad?.
    Os ie, pwy ydych yn meddwl wneith ennill a cholli allan. Yn ol un blog- y Ceidwadwyr wneith yn well ohoni, ai dyna pam bod y Toris yn curo Plaid? YNG NGHYMRU, pan mae na DORIADAU!? yntau problem sylfaenol gyda'r Blaid ydyw?

    ReplyDelete
  2. Mae'n anodd dweud pwy wneith elwa oherwydd bod y refferendwm ar yr un diwrnod. Dwi'n deall bod UKIP o blaid AV. Mae'n bosibl y bydd y Toriaid yn elwa, ond byddwn yn tybio y byddai Toriaid fyddai'n trafferthu i fynd allan i fotio yn erbyn AV yn fotio i'r Blaid Doriaidd beth bynnag.

    ReplyDelete