Sunday, April 10, 2011

Betio etholiadol

Fydd yna byth rhyw fynd mawr ar fetio ar etholiadau Cymreig - pobl am fetio ar gyffylau ydan ni yn hytrach nag ar ymgeiswyr etholiadol. O ganlyniad 'dydi'r cwmniau betio ddim yn cynnig llawer o farchnadoedd gan amlaf.

Beth bynnag 'dwi'n tueddu i gredu bod prisiau'r bwci yn ffordd tra effeithiol i ddarogan beth fydd yn digwydd mewn etholiad - yn arbennig felly tua diwedd ymgyrch. Mae pobl yn rhoi eu pres lle mae eu cegau pan maent yn betio - felly 'dydi pobl ddim yn betio ar chwarae bach.

Ladbrokes ydi un o'r ychydig gwmniau sy'n cynnig prisiau ar hyn o bryd, a dwy farchnad sydd ganddynt yn agored - nifer seddi Llafur ac etholaeth hynod ddiddorol Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro.

Yn groes i'r polau piniwn mae'r farchnad seddi Llafur yn awgrymu na fyddant yn cael mwyafrif llwyr.

Mae'r farchnad Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn awgrymu mai rhwng Nerys Evans (Plaid Cymru) a Christine Gwyther (Llafur) mae pethau, gyda Angela Burns (Tori) yn weddol glir y tu ol i'r ddwy arall.

Diweddariad - dwi newydd sylwi bod Victor Chandler yn cynnig prisiau ar nifer o etholaethau Cymreig. Mae rhai o'r prisiau yn ddigon rhyfedd (cyfle i rhywun wneud arian o bosibl). Mae yna hefyd gamgymeriadau - rhestrir ymgeiswyr Llais Gwynedd a'r BNP yn Arfon er nad oes rhai'n sefyll, ac nid oes prisiau ar gyfer y Tori - er bod un yn sefyll.

5 comments:

  1. Anonymous10:43 pm

    Unrhyw tips i roi geiniog neu ddau?

    ReplyDelete
  2. Mi geith honna aros tan fory.

    ReplyDelete
  3. Unrhyw tips i roi geiniog neu ddau?

    Dyma dip, os wyt am facio dy hoff blaid i ennill, rho dy arian i'w hymgyrch ac nid i'r bwci!

    ReplyDelete
  4. Os am wneud bet sylweddol ma Victor Chandler yn cynnig pris da ar Alun Davies, ma fe bendant mynd i ennill - os am gynnig ychydig bunnoedd Nerys yng Nghaerfyrddin

    ReplyDelete
  5. Gan bod prisiau VC more rhyfedd mi fyddwn yn rhyw feddwl nad ydynt yn hollol siwr beth maent yn ei wneud, ac o ganlyniad bydd cyfyngiad go gaeth ar faint caiff pobl fetio.

    ReplyDelete