Sunday, April 17, 2011
O un eithaf i'r llall
'Dwi wedi bod yn cwyno am bamffledi fwy neu lai uniaith Saesneg Llafur. 'Fedra i ddim cyhuddo ymgeisydd Llafur yn Arfon, Christina Elizabeth Rees o hynny. Mae'r Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar yr unig bamffled i ddod i law hyd yn hyn, ac mae hanner y testun yn ymwneud a'r iaith Gymraeg. Yn wir mae'n lled ymddiheuriad am ddiffyg Cymraeg Christina.
Mae'r pamffled fodd bynnag yn codi hynod ddadlennol. 'Dwi wedi son eisoes nad yw Christina yn ymgeisydd lleol. Mae hynny yn beth problem mewn ardal fel Arfon, ond 'dydi hi ddim yn un na ellir ei goresgyn. I wneud hynny fodd bynnag mae'n rhaid dangos diddordeb, neu o leiaf ymwybyddiaeth o faterion lleol cyfredol. 'Does yna ddim arwydd o unrhyw fath yn y pamffled yma bod yr ymgeisydd efo unrhyw fath o wybodaeth ynglyn a'r etholaeth mae'n sefyll ynddi. Yn ddi amau mae'r Gymraeg yn bwysig fel mater gwleidyddol i lawer o'i darpar etholwyr, ond 'dydi pleidleisiau'r rheiny ddim ar gael i Lafur beth bynnag.
Yn wir mae'r pamffled yn dangos cryn naifrwydd ynglyn a natur sylfaenol yr etholaeth. Ar un ystyr Arfon ydi'r etholaeth mwyaf 'gogleddol' yn yr ystyr mai yma mae'r diwylliant mae llawer o bobl y De yn ei ystyried yn un gogleddol ar ei gryfaf. Y ffaith nad ydi'r ymgeisydd Llafur yn byw yn y Gogledd ydi'r prif bwnc ar stepan drws yn wardiau dosbarth gweithiol yr etholaeth, mae'n codi dro ar ol tro ar ol tro. Dewis Christina oedd prin son am yr etholaeth a rhoi lluniau ohoni ei hun gyda gwleidyddion o'r De mewn lleoliad yn y De yn ei phamffled.
Mewn geiriau eraill mae'r pamffled yn atgyfnerthu'r canfyddiad (cyffredinol bellach) ei bod yn rhywun o'r tu allan nad oes ganddi fawr o glem am broblemau Sgubor Goch, Maesgerchan na Deiniolen.
Mae canfyddiad felly yn wenwyn etholiadol yn Arfon.
Ma'na ryw dristwch mawr yn hyn - does gan Ms.Rees ddim diddordeb yn hyn i gyd - celynion ei chyn-wr yn y Blaid Lafur sydd wrth waith .
ReplyDelete