Mae 218 ymgeisydd yn ymladd am y 108 sedd, mewn 18 etholaeth 6 sedd. STV ydi’r dull pleidleisio.
Mae gan Sinn Fein 28 aelod ar hyn o bryd, ac maent wedi dewis 40 ymgeisydd gan gynnwys, pump yn eu caer etholiadol yn West Belfast, a phedwar yn Mid-Ulster a West Tyrone.
Mae gan y DUP 36 sedd ar hyn o bryd, ac maent yn cyflwyno 44 ymgeisydd ger bron yr etholwyr.
29 ymgeisydd sydd gan y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith am y rhan fwyaf o’i hanes – yr UUP, a dydyn nhw ddim yn sefyll yn Foyle yn dilyn penderfyniad eu gweinidog iechyd, Michael McGimpsey's i gau gwasanaethau cancr yn ninas Derry. 18 aelod sydd ganddynt ar hyn o bryd.
28 ymgeisydd sydd gan yr SDLP, gan gynnwys tri yn etholaeth Margaret Ritchie, eu harweinydd yn South Down. 16 aelod oedd ganddynt yn y senedd diwethaf.
Mae gan yr Alliance Party 22 ymgeisydd – y mwyaf yn eu hanes (7 aelod sydd ganddynt ar hyn o bryd) , ac mae’r blaid unoliaethol sy’n wrthwynebus i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, y TUV gyda 12 ymgeisydd, tra bod 6 yn sefyll tros y Gwyrddion. Mae gan eu hymgeisydd yn North Down obaith rhesymol i gadw ei sedd.
Mae 12 ymgeisydd sosialaidd o gwahanol fath – gan gynnwys y Workers Party, People Before Profit and the Socialist Party. Mae'n bosibl y bydd Eamon McCann yn ennill sedd yn Foyle ar ran PBP.
Mae gan UKIP 6 ymgeisydd ac mae gan y BNP 3, ac mae yna un ymgeisydd Procapitalism. ni fydd yr un o'r rhain yn cael eu hethol.
Mae un o gynghorwyr Sinn Fein yn Fermanagh/South Tyrone yn sefyll yn annibynnol tra bod Raymond McCord sydd yn ymgeisydd diddorol o’r ochr unoliaethol yn sefyll yn North Belfast. Fydd yr un o'r ddau yn cael eu hethol, er bod gan yr ail well cyfle na'r cyntaf.
Yn bersonol ‘dydw i ddim yn cael gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon mor ddiddorol a gwleidyddiaeth y De gan amlaf, ond mae’r ffaith bod peth amheuaeth ynglyn a pha blaid fydd yn darparu Gweinidog Cyntaf yn ei gwneud yn fwy diddorol nag arfer y tro hwn.
Mae peth son y gallai Sinn Fein gael mwy o seddi na neb arall, a byddai hynny yn ei dro yn arwain at sefydlu Martin McGuinness yn Weinidog Cyntaf. Mae tri pheth yn gyrru’r canfyddiad yma – y ffaith i Sinn Fein gael mwy o bleidleisiau na neb arall yn y ddwy etholiad diweddaraf y Gogledd, llwyddiant diweddar y blaid honno yn etholiadau’r De a’r newid araf yn mhroffeil crefyddol y boblogaeth.
Rwan, dwi ddim yn meddwl yn bersonol y bydd Sinn Fein yn cael mwy o seddi na’r DUP y tro hwn, er y gallant yn hawdd gael mwy o bleidleisiau na nhw. Bydd y bleidlais unoliaethol wedi ei rhannu’n dri (UUP, DUP a’r TUV) tra mae i ddau ddarn yn unig y bydd y bleidlais genedlaetholgar wedi ei rhannu (SDLP a SF). Ond bydd y gyfundrefn STV yn sicrhau y bydd y rhan fwyaf o’r bleidlais unoliaethol yn dod yn ol at ei gilydd, a dylai hynny fod yn ddigon y tro hwn. I McGuinness ddod yn Weinidog Cyntaf bydd rhaid i SF gael storm berffaith ac ennill y sedd olaf ym mhob man maent yn gystadleuol. Byddai’n rhaid iddynt ennill tair o’r chwech yn Fermanagh / South Tyrone er enghraifft, yn ogystal a phedair yn Mid Ulster a West Tyrone, cadw eu pump yn West Belfast ac ennill un sedd ym mhob un o etholaethau Antrim, er enghraifft. Mae’n bosibl, ond byddai’n rhaid i bob dim syrthio i’w le yn berffaith ar y diwrnod, ac anaml iawn y bydd hynny’n digwydd mewn gwleidyddiaeth.
Felly Robinson i fod yn Weinidog Cyntaf y tro hwn, ond mae’n debygol y bydd pethau’n newid yn 2015.
2015 - onid 2016 fel Cymru a'r Alban ?
ReplyDeleteAh - digon posibl!
ReplyDeleteDwi'n edrych mlaen at dy blog yn egluro etholiadau y Senead yn Iwerddon! Dwi wedi rhoi fyny ar drio ei dallt nhw.
ReplyDeleteO Dduw mawr - paid a son!
ReplyDeleteFydd hi'n ddiddorol gweld os ellith SF gael 6 aelod o'r Oireachtas fel fod ganddy nhw 20 a felly digon i roi Gerry Adams i fyny am y Arwylyddiaeth diwedd flwyddyn
ReplyDeleteWel, go brin y gall GA ennill yr arlywyddiaeth, ond byddai ymgais ganddo yn ddiddorol.
ReplyDeleteSerch hynny mae rhai o'r TDs annibynnol yn agos at SF - Pringle, O'Sullivan, MgGrath ac o bosibl Halligan.
Felly fydd Sinn Fein ond angen dau or Senead os ddaw y 4 TD Annibynnol hefo SF. Ia ddim siawns o ennill ond fe fydd yr ymgyrch yn ddiddorol. Hefyd tri neu bedwar FG yn mynd amdani yn cynnwys Bruton.
ReplyDeleteOff topic, mi wn, ond mae'r Derwydd wedi colli clamp o gefnogwr brŵd ar-lein, sef y Photonic.
ReplyDeletehttp://photonicanglesey.blogspot.com/2011/04/as-dead-as-druid.html
Oes rhywun yn gwybod beth fyddai effaith defnyddio'r bleidlais amgen ar y Blaid ac ar Gymru? Mae'r ffaith fod y Toris gymaint yn ei herbyn yn awgrymu ei bod yn syniad da, ond mi fyddai'n braf cael ychydig o ffeithiau.
ReplyDeleteWil
Plaid Whitegate - 'dwi'n meddwl bod hawl enwebu gan gynghorau sir hefyd. Does gan SF ddim mwyafrif ar gyngor Monaghan, ond maent yn gryf iawn yno. Mae'n bosibl y byddai Louth yn cefnogi TD lleol hefyd - beth bynnag ei liw gwleidyddol.
ReplyDeleteAnon 8.07 - yn fy marn i byddai cyfuniad o AV a lleihau'r nifer o seddi sydd ar gael yn ei gwneud yn anodd i'r Toriaid gael unrhyw aelod seneddol wedi ei ethol yng Nghymru.
Wow, superb blog layout! How long have you been blogging for?
ReplyDeleteyou made blogging look easy. The overall look of your site is great, let alone the content!
Here is my web-site ... hardwood floors
I feel this is one of the most important info for me.
ReplyDeleteAnd i am satisfied studying your article. However should commentary on few general issues,
The website style is great, the articles is truly excellent :
D. Excellent activity, cheers
Here is my page: hardwood flooring
my website - hardwood flooring
Thanks very interesting blog!
ReplyDeleteHere is my web page - hardwood flooring
I'm really impressed with your writing skills as well as with the layout on your blog. Is this a paid theme or did you modify it yourself? Either way keep up the excellent quality writing, it is rare to see a great blog like this one these days.
ReplyDeletehardwood floors installation
Also visit my blog cleaning hardwood floors
I'd like to thank you for the efforts you've put in penning this website.
ReplyDeleteI'm hoping to see the same high-grade content by you in the future as well. In fact, your creative writing abilities has motivated me to get my own, personal site now ;)
my site - cleaning service phoenix
great issues altogether, you simply won a emblem new reader.
ReplyDeleteWhat would you recommend in regards to your put up that you made some days in the past?
Any sure?
Visit my weblog ... mouse click the following web site
I’m not that much of a online reader to be honest but your blogs really
ReplyDeletenice, keep it up! I'll go ahead and bookmark your website to come back in the future. All the best
My blog - cleaning jobs in buffalo ny
Also see my website :: housekeeping resume sample
This is a topic which is near to my heart... Many
ReplyDeletethanks! Where are your contact details though?
My blog post - hair growth cycle
This is a topic which is near to my heart... Many thanks! Where are your contact details though?
ReplyDeleteVisit my webpage hair growth cycle
Also see my website :: natural hair loss
Hi, after reading this amazing article i am also delighted to share my experience here with colleagues.
ReplyDeletemy web page; buy zetaclear