Bydd cadeirydd yr ymgyrch Ia, Roger Lewis yn ymweld a'r Gogledd a'r Gorllewin tros y penwythnos gan ymgyrchu yn Saltney ar y ffin, Wrecsam, Rhuthun, Llandudno, Llangefni, Caernarfon, Porthmadog, Machynlleth ac Aberystwyth.
Roedd y ffair stryd yng Nghaernarfon yn un digon llwyddiannus beth bynnag, gyda tua ugain o bobl yn cymryd rhan - oedd yn nifer dda ag ystyried bod yr actifyddion Llafur lleol yn mynychu eu jambori yn Llandudno.
Cawsom gyfarfod da yn Llangefni. Synnu fod cynifer o'r dadleuon ar dir cenedlaetholgar - hyd yn oed gan RL a'r gwr busnes oedd yna.
ReplyDeleteAr hyd ei d*n unig y rhoddodd y Derwydd gefnogaeth. Fawr o syndod efallai. Er ei fod wedi trio mynd i berorasiwn rhethregol efo'r llinell 'I believe' drosodd a throsodd.
Siaradwr hynod o wan ydi o - yn gyhoeddus ac wyneb yn wyneb. Byddai'r drychineb petai'n ennill - ond mae agn y Toriaid eu pleidlais graidd ym Môn.