Gan bod fy nghyfeillion draw yn PlaidWrecsam wedi cael cip ar etholiad cyffredinol Gweriniaeth Iwerddon, sydd i’w chynnal ddydd Gwener, mae’n debyg y dyliwn innau wneud yr un peth.
Mae yna un peth sydd mor sicr ag y gallai unrhywbeth mewn gwleidyddiaeth fod – bydd Fine Gael yn arwain y llywodraeth nesaf. Felly bydd plaid adain Dde yn cymryd lle plaid adain Dde arall – un sydd wedi arwain y wlad i ddistryw economaidd. Mae’n fwy o newid nag y byddai dyn yn meddwl ar un olwg – mae’n rhaid mynd yn ol i flynyddoedd cynnar y wladwriaeth i ddod o hyd i etholiad lle na chafodd Fianna Fail fwy o bleidleisiau na neb arall.
‘Dydw i ddim yn cytuno efo PlaidWrecsam nad ydi hi’n hawdd i Fine Gael ffurfio llywodraeth heb gymorth Llafur. Os ydi’r polau diweddaraf yn gywir, ac maent yn wir yn polio 38% / 39% mae’n bosibl y gallai’r blaid ffurfio llywodraeth heb help Llafur. Roedd Fianna Fail ar lefel tebyg yn 2002 – a ‘doedd arnynt ddim angen llawer o gymorth gan fan bleidiau i ffurfio llywodraeth. ‘Dydw i ddim yn meddwl y byddant mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar eu pennau eu hunain – ond gallant yn hawdd (a chymryd bod y polau diweddaraf yn gywir) ffurfio llywodraeth heb gymorth Llafur. 84 sedd sydd eu hangen i gael mwyafrif yn Dáil Éireann.
Yr ail beth sy’n sicr ydi bod FF yn wynebu chwalfa – cawsant 41.5% o’r bleidlais yn 2007, mae’r polau cyfredol yn awgrymu y byddant yn cael 12% i 18%. Mae hyn yn gwymp eithriadol mewn cefnogaeth unrhyw blaid, ac mae’n sicr y bydd FF yn colli’r rhan fwyaf o’r 77 sedd a enillwyd ganddynt yn 2007. Byddant wedi gwneud yn dda iawn os bydd ganddynt 30 sedd erbyn dydd Sadwrn.
Mae Llafur wedi gwneud smonach llwyr o’r ymgyrch – yn unol a’u traddodiad diweddar. Ychydig fisoedd yn ol roedd rhai polau yn awgrymu y gallant ddod o’r etholiad efo mwy o seddi na neb arall. Mae eu ffigyrau wedi cwympo’n gyson ers hynny – ac yn arbennig felly tros yr ymgyrch etholiadol. Bellach byddant yn lwcus o fod yn rhan o lywodraeth o gwbl. Mae’r ffaith eu bod wedi ymosod yn gyson ar Fine Gael wedi sicrhau y byddant llai o bleidleisiau yn cael eu trosglwyddo o’r cyfeiriad hwnnw nag arfer – mae pleidleisiau trosglwyddadwy yn hynod bwysig mewn etholiadau Gwyddelig. Maent ganddynt ormod o ymgeiswyr i’w lefelau presenol yn y polau – ac mae rhoi gormod o ymgeiswyr yn gallu bod yn bod yn gamgymeriadddrud iawn. Mae gan FF y broblem yma hefyd.
Mae mwy o ymgeiswyr annibynnol o lawer nag arfer, ac mae’n sicr y bydd nifer dda ohonynt yn cael eu hethol. Yn fras ceir dau fath o ymgeisydd annibynnol yn y Weriniaeth – rhai adain Chwith, a rhai gene pool. Cyn aelodau o FF (gan amlaf) sydd wedi ffraeo efo’u plaid ydi’r ail gategori, ac maent yn tueddu i fod yn gefnogol i bwy bynnag sydd mewn llywodraeth – ar yr amod bod y llywodraeth yn codi pontydd, ffyrdd, casinos, ffatrioedd ac ati yn eu hetholaethau. ‘Dydi’r polau ddim yn gwahaniaethu rhwng y ddau gategori – ond mae peth lle i gredu y bydd mwy o annibynwyr adain Chwith na sy’n arferol.
Mae’n weddol sicr y bydd pleidlais Sinn Fein yn cynyddu. Fodd bynnag ‘dydi hi ddim yn hawdd darogan faint o seddi y byddant yn ei gael. Yn draddodiadol maent yn ei chael yn hynod anodd i gael trosglwyddiadau, gan bleidiau eraill. Os bydd y sefyllfa yna’n parhau gallant gael llai na 10 o seddi. Ond mae peth lle i gredu y gallant ddenu mwy o drosglwyddiadau y tro hwn – cawsant lawer iawn o drosglwyddiadau o bob cyfeiriad mewn is etholiad diweddar yn Donegal. Yn ychwanegol mae’r nifer uchel o ymgeiswyr annibynnol yn debygol o fod o gymorth iddynt o ran trosglwyddiau, yn ogystal a’r ffaith y byddant yn cael mwy o bleidleisiau na FF mewn rhai etholaethau. Mae cefnogwyr ymgeiswyr annibynnol a FF yn fwy tueddol o drosglwyddo iddynt na neb arall. Gallai trosglwyddo trwm i’w cyfeiriad ennill yn agos i 20 sedd iddynt – ond byddant yn fodlon efo pump neu chwech yn llai na hynny.
Mae’r Blaid Werdd yn debygol o golli eu chwe sedd – maent yn anffodus yn y ffaith iddynt glymu eu hunain i FF yn ystod cyfnod pan mae’r rheiny yn wenwynig. Maent yn draddodiadol yn dda am ddenu trosglwyddiadau, ond mae’n anodd iawn ennill sedd ar ol cael llai na hanner cwota ar y bleidlais gyntaf – a ‘dydw i ddim yn gweld ym mhle y gallant gael hanner cwota.
Felly mi fydd yna newid mawr yn nhirwedd gwleidyddol y Weriniaeth erbyn yr amser yma wythnos nesaf – ond mae peth ansicrwydd ynglyn ag union natur y newid hwnnw.
Mae arolwg barn arall ar boblogrwydd yr arweinyddion yn ei rhestru nhw fel a ganlyn:
ReplyDeleteEamon Gilmore - Llafur
Enda Kenny - Fine Gael
Micheal Martin - FF
Gerry Adams - SinnFein
John Gormley - Gwyrdd.
Mae Gormley yn hynod boblogaidd gyda 26%
Dibynu pa un ti'n ei gredu. Mae'r un Millward Brown ti'n ei ddyfynu ar dy flog yn edrych fel hyn:
ReplyDeleteKenny 33%
Martin 28%
Gilmore 24%
Dwi ddim yn siwr faint elli di ddibynnu ar arolygon barn mewn etholiad STV?
ReplyDeleteMae'n sicr yn fwy anodd darogan nag ydi hi efo'n system ni.
ReplyDelete