Un o'r ychydig nodweddion canarnhaol y gellir eu priodoli i True Wales ydi eu bod yn aml yn hynod ddigri - efallai bod hynny'n anfwriadol, serch hynny mae llawer o'r hyn sy'n dod o'u cyfeiriad yn ogleisiol.
Cymerer y stori fach yma er enghraifft. Ymddengys bod Rachel Banner yn flin iawn efo'r Western Mail am feiddio datgan ei fod eisiau i'r Cynulliad gael yr hawl i ddeddfu. Yn wir mae Rachel wedi sylwi'n fwyaf sydyn bod perchnogion y Western Mail, Trinity Mirror, efo lled fonopoli ar newyddiaduraeth brint Gymreig - ac yr un mor sydyn mae'r sefyllfa yn ei phoeni.
Efallai nad yw'r ffaith mai Trinity Mirror ydi'r grwp papurau newydd mwyaf cefnogol i'r blaid mae Rachel yn perthyn iddi - y Blaid Lafur - wedi gwawrio arni eto. Mae prif bapurau'r grwp y Daily Mirror a'r Sunday Mirror yn ymdebygu ar adegau i bapurau swyddogol i'w phlaid, gyda pholisi golygyddol mwy slafaidd bleidiol nag unrhyw bapur arall bron. Bydd llawer yn cofio'r ymgyrch gasineb a gynhalwyd gan y grwp yn erbyn Cymry Cymraeg eu hiaith trwy gyfrwng y Welsh Mirror byrhoedlog ar ddechrau'r ddegawd diwethaf.
'Rwan, mae gan bapurau newydd ym Mhrydain yr hawl i fynegi pa bynnag farn mae eu golygyddion (neu'n hytrach eu perchnogion o bosibl) eisiau iddynt ei fynegi. Os ydi polisi golygyddol unochrog gan y Western Mail tuag at ddatganoli yn poeni Rachel mwy na pholisi golygyddol unochrog gan y Daily Mirror tuag at wleidyddiaeth Prydeinig, yna tyff - rhyddid barn olygyddol papurau newydd ydi un o nodweddion amlycaf cyfundrefnau democrataidd.
Rachel a'i chyfeillion sy'n hoffi creu cymariaethau chwerthinllyn rhwng cyfundrefnau Comiwnyddol a'r Cynulliad - ond mae'n ymddangos bod ganddi hithau broblem bach efo'r syniad o wasg rydd yng Nghymru. 'Dwi'n rhyw feddwl y byddai Mao Zedong a Kim Jong Il efo problem bach debyg efo'r syniad o ryddid barn newyddiadurol yn eu gwledydd hwythau.
Tybed beth fydd lein olygyddol y Daily Post?
ReplyDeleteCeisio anwybyddu'r holl beth mi fyddwn yn meddwl.
ReplyDelete