Mae'n amlwg, a barnu o'r Lansiad, bod cryn dipyn o feddwl wedi mynd i'r ymgyrch Ia.
Mae'r syniad o osgoi defnyddio gwleidyddion i gyflwyno'r dadleuon tros bwerau deddfu i'r Cynulliad, a phwysleisio bod pwerau pellach am wneud pethau yn fwy heriol i wleidyddion yn tanseilio dadl greiddiol yr ymgyrch Na mai cynllwyn gan elit gwleidyddol ydi'r cynnig.
Mae'r ddadl ganolog y dylid deddfu ar bethau sy'n ymwneud a Chymru yn unig yng Nghymru yn synhwyrol, yn syml, yn gymhedrol ac yn debygol o fod yn boblogaidd.
Mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol.
Cytuno. Yr hyn sy'n warthus yw fod modd gweld clip o'r lansiad ar fersiwn Saesneg o wefan newyddion y BBC ond ddim ar wefan newyddion Cymraeg.
ReplyDeleteDwi byth yn darllen ochr Saesneg newyddion BBC Wêls (mae wastad rhyw flas plwyfol iddo rhywffordd). Ond synnais nad oedd clip o'r lansiad ar y newyddion Cymraeg felly es draw.
Briadd yn grac mae'n rhaid i mi ddweud.
Llymru i'r Gymraeg felly.