Thursday, January 06, 2011

Arfon 1 - Deinosoriaid 0

'Dwi'n gwybod fy mod yn hwyr ar hon, ond llongyfarchiadau i'r ymgyrch i gael ysgol cyfrwng Cymraeg yng Ngwersyllt ger Wrecsam. Ceir sylwadau ar y mater ar flog Plaid Wrecsam.

Mae'r blog yma wedi trafod helynt ysgol Gymraeg Gwersyllt ar sawl achlysur -yma ac yma er enghraifft. Felly mae'n fater o gryn lawenydd nodi i David Griffiths a Ted George (cynghorwyr Llafur Dwyrain a De Gwersyllt) a'u tebyg fethu yn eu hymdrech i berswadio Cyngor Wrecsam i beidio ag ymateb i'r galw sylweddol yn ardal Gwersyllt am addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae hefyd yn bleser cael llongyfarch yr ymgyrchwyr tros ysgol Gymraeg am symud achos yr iaith yn ei flaen yn yr ardal, ac yn arbennig felly cynghorydd Gorllewin Gwersyllt, Arfon Jones.

6 comments:

  1. Diolch am dy sylwadau caredig!

    ReplyDelete
  2. Simon Brooks1:51 am

    Clyw, clyw

    ReplyDelete
  3. Gwych! Llongyfarchiadau i Arfon ac ymgyrchwyr addysg Gymraeg Wrecsam.

    O ddeall mae dim ond 60% o bobl Gwynedd bellach yn Gymry, pa bryd bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn bod angen ysgolion penodedig Gymraeg yn y sir yn hytrach na pharhau a'r myth bod pob ysgol yn gynhenid Cymraeg?

    ReplyDelete
  4. O ble daw'r ffigwr 60% Alwyn? - mae'n un newydd i mi.

    Roedd y ffigwr yna yn uwch na 75% yn 2001 'dwi'n credu. Mi fyddai cwymp o tros 15% mewn degawd yn rhyfeddol.

    ReplyDelete
  5. Blog ddoe ar Wales Home yn edrych ar ddata o'r "Labour market survey".

    "To give just a few examples, in the county of Gwynedd the amount of people who identified with being Welsh in 2001 was 71%. This had dropped to 64% by 2009".

    Dwi'n meddwl bod Alwyn wedi rowndio i'r deg agosaf!?

    Ystadegyn ddigon diddorol - mae'n golygu bod y ganran sy'n gallu siarad Cymraeg yn uwch na'r ganran sy'n cysidro'i hunain yn Gymry.

    ReplyDelete
  6. Dw i'n cytuno efo Alwyn y dylid rhoi'r gorau i'r hunan-dwyll yma bod pob ysgol yng Ngwynedd ac ardaloedd Cymraeg yn gynhenid Gymraeg "by default".

    Mae angen eu gwneud yn ysgolion penodedig Cymraeg.

    ReplyDelete