Gari Wyn ac Alun Ffred gyda Charles Windsor yn y cefndir yn cadw golwg ar bethau - rhag i bethau fynd tros ben llestri
Cafwyd cyfarfod cadarnhaol iawn o'r ymgyrch Ia yng Nghaernarfon heno. Roedd torf dda o bobl o pob oed wedi hel ynghyd i wrando ar siaradwyr ar ran y Lib Dems, Llafur a Phlaid Cymru. Cafwyd trafodaeth digon bywiog ar y diwedd ynglyn a sut i gynnal yr ymgyrch yn lleol.
Trafod ymgyrch llawr gwlad oeddem wrth gwrs - y ground war rydym wedi son amdano yn y gorffennol. Mi fydd y math yma o ymgyrchu etholiadol yn fwy pwysig yn yr etholiad yma nag yw yn y rhan fwyaf o etholiadau yn dilyn penderfyniad bisar True Wales i beidio a chofrestru fel ymgyrch Na swyddogol. Ni fydd darllediadau gwleidyddol ar y teledu, ni fydd £70,000 ar gael i dalu am drefniadaeth ac ni fydd y gwasanaeth post yn cael ei ddefnyddio i ddosbarthu deunydd etholiadol.
Golyga hyn y bydd ymgyrchu stryd i stryd yn bwysicach o lawer na sy'n arferol. Mae'n debygol iawn bod llawer mwy o adnoddau dynol ac ariannol gan yr Ymgyrch Ia. Gallai penderfyniad True Wales arwain at ymgyrch wirioneddol anghytbwys - ac at gweir iddyn nhw eu hunain ar Fawrth 3 - cweir a allai dorri ewyllys y gwrth ddatganolwyr am gyfnod maith.
dwi'n amlwg am bledleisio IE.
ReplyDeleteOnd tybio allan o wybodaeth os ydy rywun yn gwybod am grwp 'na' fyny yma yn y Gogledd Orllewin. Mae Rachel Banner yn dweud bod yna grwpiau ym mhob gongl... dwim yn rhy siwr am hynny!
Dw i'n amlwg am bleidleisio "Na" rwan.
ReplyDeleteDoes yna ddim grwp hyd yma yn y Gogledd Orllewin.
ReplyDeleteMi fyddai'n ddiddorol gwybod yn union ymhle mae'r grwpiau Na 'ma.
Mae na gnewyllyn o bobl "na" y gogledd ddwyrain - ambell i Dori, ambell i Lib Dem - ond dim byd o ran trefn.
ReplyDelete