Sunday, November 21, 2010

Is etholiad Rhosneigr

Gan fod darpar ymgeisydd newydd y Toriaid ar Ynys Mon wedi gwneud mor a mynydd ar ei flog o arwyddocad is etholiad Rhosneigr cyn ei chynnal, ond wedi anghofio rhoi'r canlyniad i ni, mae'n bleser gan flogmenai (mewn ysbryd o frawdgarwch) gamu i'r adwy a darparu'r canlyniad hwnnw:

Richard Dew Annibynnol 319 (84.6;-15.4),
Martin Peet Tori 58 (15.4;+15.4)

5 comments:

  1. Sylwebydd o Fôn5:34 pm

    Diolch am yr arwydd hwn o frawdgarwch. Ac am y newydd! Rargian, roedd rhywun yn dechrau amau a fu is-etholiad ai peidio!
    Mae Rhosneigr yn ardal eithaf da i'r gleision fel arfer a chyda'r Derwydd yn cefnogi'r ymgeisydd Toriaidd mor gryf yn y dyddiau cyn y pôl roedd yn gryn siom iddo golli. Wrth gwrs, yn y dyddiau hirfelyn tesog rheini, sylwebydd annibynnol oedd y Derwydd. Not.

    ReplyDelete
  2. Anonymous7:52 pm

    Ia. Roedd cryn ddarogan ynghlyn a'r isetholiad a broliant eithafol o'r ymgeisydd Toriadd. Brwydr rhwng yr hen ar newydd. Penderfynu aros gyda'r cyfarwydd wnaeth pobl Rhosneigr a hynny gyda mwyafrif cryf. Roedd hon yn ddiamwys os nad yn embaras.

    ReplyDelete
  3. Sylwebydd o Fôn8:59 pm

    Tydi Paul Williams ddim am ymddiheuro am yr hen ensyniad cas yna a chyfeirio at Mr Dew fel 'hen wleidyddiaeth' Môn. Dadl go ffyrnig ar ei flog heno. Ond syndod ei weld yn cloddio twll dyfnach iddo'i hun wrth awgrymu na fu Mr Dew yn dryloyw yn yr etholiad - ddim ond am na chyhoeddodd Dew faniffesto ar flog y Derwydd. Hyd y gwn i - a tydw i ddim yn arbenigwr deddfwriaeth etholiadol - does dim angen i neb gyhoeddi maniffesto o unrhyw fath, yn enwedig ar flog gwrthwynebydd.

    Cychywn sobr i'r Bonwr Williams, onide? Cam gwag go iawn. Bydd rhaid iddo ymddiheuro, debyg, neu fe gyll pob hygrededd.

    ReplyDelete
  4. Hwyrach y dylwn i fynu bod Paul yn cyhoeddi ei faniffesto yma a thwt twtian yn hunan bwysig pan mae'n gwrthod.

    ReplyDelete
  5. Anonymous8:55 am

    Ddrwg gennyf os yw'r sylw canlynol yn gableddus bM, ond faint o fobl Sir Fon sydd mewn difri yn darllen blogiau gwleidyddol? Beth am fod yn hael a dweud 200? A gellir bod yn sicr fod o leiaf 85% o'r rheini eisoes wedi ymrwymo i un blaid neu'r llall fel na fydd ordors y Derwydd Glas yn cael ddim effaith o gwbl arnynt.

    Os yw ymgyrch y Toriaid ym Mon wedi ei seilio ar lwyddiant 'ysgubol'y Derwydd Glas yna mae nhw mewn gwaeth cyflwr nag yr oeddwn wedi ei ddychmygu...

    ReplyDelete