Saturday, November 20, 2010
Derwydd y wisg las yn dangos ei gardiau - a'i wyneb
Mae'n braf nodi bod awdur y blog o Ynys Mon, the Druid o'r diwedd wedi dod o hyd i'r hyder i gysylltu ei hun yn bersonol efo gwleidyddiaeth ei flog, yn ogystal a gadael i ni i gyd wybod pwy ydyw. Mae'n gryn gamp i flogiwr gadw cyfrinach cyhyd, ac yn arbennig os ydi'r creadur yn dod o Ynys Mon. Ymddengys mai Paul Williams ydi'r enw.
Mae'n ddiddorol hefyd deall iddo gael ei ddewis i sefyll yn etholiadau'r Cynulliad tros y Toriaid yn Ynys Mon y flwyddyn nesaf. Mae'n debyg gen i na fydd rhaid i ni wrando arno'n gwadu'n bigog ei fod yn Dori yn y dyfodol.
Mae Alwyn yn gywir i awgrymu bod yna rhywbeth braidd yn anghydnaws rhwng protestiadau Paul mai buddiannau Ynys Mon sy'n bwysig iddo yn annad dim arall a'i sefyllfa bresennol fel ymgeisydd Toriaidd. Yn wir yn nyddiau cynnar (a ddim mor gynnar) y blog roedd yna batrwm digri o gyson o ddadlau tros roi buddiannau lleol yn gyntaf, tra'n dod i'r casgliad yn ddi eithriad mai trwy gefnogi rhyw Dori neu'i gilydd oedd y ffordd orau o wneud hynny - hyd yn oed os nad oedd y Tori o dan sylw erioed wedi dangos y mymryn lleiaf o ddiddordeb yn Ynys Mon cyn cael ei ddewis i sefyll yno.
Beth bynnag, mae'n amlwg i'r hogyn ddod tros y cywilydd o fod yn Dori - a da o beth ydi hynny - go brin bod bystachu o gwmpas yn nhywyllwch y closat yn fawr o hwyl. Serch hynny, mae'r ffaith ei fod wedi gwneud cymaint o ddefnydd o localism (fedra i ddim meddwl am yr union air Cymraeg mae gen i ofn) Ynys Mon i geisio gwthio buddiannau gwleidyddol y Toriaid yno ynddo'i hun yn ddigon diddorol. Mae pawb sy'n gwybod unrhyw beth am wleidyddiaeth yr ynys hefyd yn gwybod bod ystyriaethau lleol yn bwysicach yno nag yn unman arall yng Nghymru. Ar un olwg mae'r syniad mai'r ffordd orau o amddiffyn buddiannau Mon ydi trwy droi at blaid sydd a'i ffocws ar Dde Lloegr, a sydd a'u bryd ar dorri gwariant cyhoeddus - y math o wariant mae economi'r ynys yn ddibynnol arno - yn chwerthinllyd. Ond, dyna sydd ar stondin Paul.
Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma yn ymwybodol nad ydi gwleidyddiaeth rhanbarthol yn agos at fy nghalon - yng Nghymru o leiaf. Y prif reswm am hyn ydi gwendid sylfaenol yn yr ymdeimlad o genedligrwydd Cymreig - 'does yna ddim dealltwriaeth cytunedig o beth ydi o i fod yn Gymro neu Gymraes - ac oherwydd hynny does yna ddim naratif cenedlaethol y gallwn oll uniaethu efo fo. Mae diffyg naratif felly yn broblem sylfaenol i ddatblygiad Cymru fel gwlad. Rydym yn wahanol i'r gwledydd o'n cwmpas - Iwerddon, yr Alban a Lloegr - yn hyn o beth.
Mae cyflwyno naratifau rhanbarthol i'n bywyd cenedlaethol yn foethusrwydd nad ydym yn gallu ei fforddio ar hyn o bryd. Yn wir, mi fyddwn yn dadlau bod y math o ranbarthiaeth yr ydym yn ei weld gan fudiadau fel Llais y Bobl yng Ngwent a Llais Gwynedd yn tanseilio'r datblygiad mewn ymwybyddiaeth cenedlaethol i'r graddau bod y mudiadau hyn yn fwy o fygythiad i ddatblygiad Cymru fel gwlad nag ydi naratifau amgen pleidiau Prydeinig, fel y Toriaid. Efallai ei bod yn arwyddocaol yn hyn o beth bod ymgyrchoedd 'Na' mewn refferenda datganoli wedi eu canoli yn bennaf ar y gwahanol holltau rhanbarthol, cymdeithasegol a ieithyddol a geir yng Nghymru, yn hytrach nag ar gynnig naratif Prydeinig.
'Dydi hynny ddim yn golygu nad oes peryglon mewn naratifau Prydeinig i Gymru - ond mae hollti'r naratif genedlaethol wan sydd ohoni yn fwy o fygythiad. Mae gwleidyddiaeth Paul yn rhyw gyfuniad anymunol o syniadaethau (ac felly naratifau) gwrth Gymreig - un amgen Doriaidd, Brydeinig sy'n cystadlu o'r tu allan ac un ranbarthol sy'n tanseilio'r ymwybyddiaeth Gymreig o'r tu mewn.
Cewch gymryd yn ganiataol 'dwi'n meddwl, na fyddaf yn croesi'r bont i gyfrannu i ymgyrch y dyn yn ystod y gwanwyn.
Gan fod y Derwydd bellach wedi dod i'r golwg o du ôl y dderwen mae'n mynnu cadw golwg ar y sylwadau. Digon teg am wn i. Ond be oedd o'i le ar y sylw isod a geisiais roi ar ei flog y bora ma, tybed? Sori mai yn Saesneg y mae o'n ymddangos.
ReplyDelete'Congratulations on being selected - as a local candidate you're a good choice, certainly better than Ridge Newman.
Some interesting things to note about you and your blog though -
You have consistently claimed to be independent, when you were very obviously nothing of the sort and now we know. Having consistently damned the council for lack of transperancy, this is worrying.
You have failed to concemn the waste of money spent by Tory Ams on thie jolly to Aber, claiming it was an irrelevent point on your blog. Maybe you fancy joining them for their next one.
You openly backed a Tory candidate in Rhosneigr - a traditional Tory area - and he was thumped. Bad judgement.
You characterised the Rhosneigr by-election as old politics v new. And by your analysis, old politics won. Very few listened to the Druid. Let's hope you don't make a habit of that one.
By claiming old v new you painted the guy who won - independent candidate Dew - as old style politics. I know nothing about him, but he surely doesn't deserve to be tarred with the same brush that you've been attacking other councillors with - esp those you hint are corrupt. He was well within his legal and democratic rights to stand as an indie and there was no need at all for him to pander to this blog by sending you his manifesto. All he needed to do was canvass Rhosneigr and share his ideas with them. This he obviously did and won. An apology is surely called for.
On your blog you and your commentators have been gunning for the council for a long time. You obviously attract some pretty weird followers if the number of times you have to delete comments is anything to go by. More importantly, nothing has changed. No one has left the council.
Serious allegations have been made on your blog about named council people. Is this going to be your style now you are out in the open?
While some are happy about what you've been writing about on your blog and have taken the opportunity to vent their bitter spleen, many find it distasteful. In fact, you've probably cheesed off many inlfuential people on the island. Not a good start to a political career. Not on Anglesey certainly.'
Y broblem 'dwi'n meddwl oedd bod dy sylwadau yn rhai cywir.
ReplyDelete4:19
ReplyDeleteCrawl back in the hole from wench you came, There's enough trying to justify fraud and corruption with in the Council without you trying to get on the band wagon, probably because we are getting very close to you ANON INDEED.
Ymddengys fod cefnogwyr y Derwydd yn gwylio amrwyiol flogiau Cymreig i weld pa sylwadau a wneir amdano. Rargian, gwyliwch eich hun, BlogMenai!
ReplyDeleteOnd tybed pa dacteg yw hon a ddefnyddir gan sylw ar flog Saesneg yr Hen Rech Flin - yn rhyw led awgrymu fod rhyw fistimanars wedi digwydd yn is-etholiad Rhosneigr? Tybed a yw y Bonwr Paul Williams yn gefnogol o'r dacteg hon?
A finnau'n meddwl bod y derwyddon 'ma i fod yn heddychwyr a 'ballu.
ReplyDeletePiti fod o'n edrych yn debycach i rhywun sy'n ymddangos ar Crimewatch hefyd...
ReplyDeleteFunny bloke this man Williams from Sir Fon. Does not think it right that a peson can be both an AM and Deputy First Minister, can someone please tell him that you have to be an AM before you can become an DFM or even an FM. Even his much beloved David Cameron is also an MP
ReplyDeleteAs for cuts, he will fight against, is he standing for the right party? It is only because his mates in the LibCons from Wales are so weak that Wales had greater cuts than either Scotland or NI.
Un da ydi'r Derwydd, chwarae teg, mae pobol wrth ei fodd hefo fo, draenan yn ochr Cyngor y Bradwyr!
ReplyDeleteIt's the best time to make some plans for the longer term and it is time to be happy. I've learn this publiѕh and іf I may I
ReplyDeletewish to сounsel you fеw attention-grаbbing issuеѕ oг tips.
Maybе you сoulԁ write next articles regarding this artіcle.
I want to rеad even more things approхіmately it!
Also visit my web site please click the next website
Нey агe using Wοгdpreѕs fοr youг site plаtfoгm?
ReplyDeleteI'm new to the blog world but I'm tryіng to get starteԁ
аnd set uр mу own. Do уοu need any html соding knowledge to makе yоur own blog?
Any helρ would be reallу apprесiatеd!
Feel free to surf tο my blog post: Silk n Reviews
my page - this website
Неllo! I'm at work surfing around your blog from my new iphone! Just wanted to say I love reading your blog and look forward to all your posts! Keep up the fantastic work!
ReplyDeleteHere is my web blog :: Www.hrpedia.ru
Hellο, Ι dо think уour site сοuld bе haνing web browѕeг compatibility problemѕ.
ReplyDeleteWhenеνеr Ι look at your blоg іn
Ѕafаrі, it loоks fine howeѵer, when opеnіng in IE, it's got some overlapping issues. I simply wanted to give you a quick heads up! Apart from that, great site!
Look at my page - skin care
my web site - visit this hyperlink