Saturday, October 16, 2010

Gwersi o'r Iwerddon ynglyn a chlymbleidio


Blogiad diweddar gan Vaughan wnaeth i mi feddwl am y gwersi y gallwn eu cymryd o glymbleidiau yn Iwerddon wrth ystyried clymbleidio yr ochr yma i'r Mor Celtaidd. Mae trefn bleidleisio Iwerddon yn sicrhau bod llywodraeth glymbleidiol yn cael ei ffurfio mor aml a pheidio.

Wedi cymryd gwers o hanes etholiadol y Weriniaeth 'dwi'n digwydd anghytuno a hi oedd Vaughan, sef bod y PDs wedi marw oherwydd iddynt glymbleidio. Yn fy marn bach i, clymbleidio oedd y rheswm i'r PDs oroesi ymhell wedi i'r amodau a ddaeth a nhw i fodolaeth edwino. Yn wir, 'dwi'n eithaf siwr y byddai'r diwedd wedi dod yn 2002 oni bai bod canfyddiad erbyn diwedd yr ymgyrch etholiadol bod Fianna Fail yn debygol o ennill yr etholiad gyda mwyafrif llwyr - ac roedd llawer o bobl dosbarth canol mewn etholaethau allweddol yn fodlon rhoi benthyg eu pleidlais i'r PDs er mwyn atal hynny rhag digwydd.

Ta waeth, stori arall ydi honno. Yr hyn sy'n fwy diddorol ydi pa wersi y gallwn eu cymryd oddi wrth ein cymdogion agosaf. Awgrymaf y canlynol.

Gwers 1: Gall clymbleidio, hyd yn oed efo gelynion gwleidyddol chwyrn, gynnig achubiaeth i bleidiau sydd yn wynebu dirywiad hir dymor. Rydym eisoes wedi trafod sut achubwyd Fine Gael rhag troi'n amherthnasol pan glymbleidiodd John A Costello efo rhai o elynion ideolegol mwyaf ffyrnig ei blaid yn 1948.

Gwers 2: Gall yr etholwyr fod yn ddi drugaredd efo pleidiau sy'n tynnu allan o glymbleidiau heb reswm da. Rydym hefyd wedi edrych mor gyflym y dilynwyd llanw Dick Spring gan drai etholiadol yn naw degau'r ganrif ddiwethaf.

Gwers 3: Gall y partneriaid lleiaf mewn clymbleidiau gael mwy o ddylanwad o lawer na mae eu maint yn awgrymu fyddai'n bosibl - ac o ganlyniad gallant yrru newid radicalaidd. Er enghraifft polisiau Clann na Poblachta ynglyn a newid cyfansoddiadol a datblygu gofal iechyd rhad ac am ddim oedd prif nodweddion llywodraeth glymblaid 1948. Polisiau marchnad rydd y PDs oedd rhai o nodweddion mwyaf amlwg llywodraethau clymblaid 1997 - 2002 a 2002 - 2007.

Gwers 4: Gall clymbleidiau fod yn hynod anisgwyl o ran eu cyfansoddiad. Mae hanes llywodraethol y Weriniaeth yn llawn esiamplau o lywodraethau wedi eu ffurfio o bleidiau tra gwahanol. Mae'r un presennol - FF, y Blaid Werdd, gweddillion y PDs a chyfuniad hynod eclectig o aelodau annibynnol (rhai ymysg aelodau mwyaf adain Dde'r Dail, ac eraill ymysg y pellaf i'r Chwith). Yn y pen draw mae mathemateg yn bwysicach na syniadaeth pan mae clymbleidiau yn cael eu ffurfio.

Gwers 5: Mae clymbleidiau gan amlaf yn sefydlog. Er bod ambell i glymblaid wedi syrthio'n ddarnau, eithriadau ydi'r rheiny. Fel rheol mae clymbleidiau mor sefydlog a llywodraethau un plaid.

Rwan, 'dwi ddim yn honni fod pob gwers yn drosglwyddadwy i Gymru na Phrydain - mae trefn bleidleisio a diwylliant gwleidyddol y Weriniaeth yn dra gwahanol i'r hyn sy'n gyfarwydd i ni - ond maen nhw'n rhoi lle i gnoi cil.

4 comments:

  1. Ian Johnson12:18 am

    Mae'n ddiddorol iawn bob tro edrych at brofiadon gwledydd eraill, tu allan o'r DU.

    Dwi newydd wedi sgwennu rhywbeth cymharol ar gyfer Wales Home ar glymbleidio yn yr Iseldiroedd, gwlad ag oedd yn dilyn rheolau syniadaeth clymblaid lleiaf (minority coalition theory) ar gyfer rhan fwyaf yr ugeinfed ganrif tan i'r Clymblaid Porffor rhwng 1994-2002 a chynydd pleidlais wrth-mewnfudiad yn y cyfnod ers 2002.

    ReplyDelete
  2. Yr hyn dwi'n ei gael yn ddiddorol Ian ydi fel y gall y blaid leiafrifol yrru'r agenda bolisi lle mae'r blaid honno gydag ideoleg gref, a bod y blaid fwyaf yn un bragmataidd, gyda'i phryd ar reoli yn annad dim arall.

    ReplyDelete
  3. Yr hyn dwi'n ei gael yn ddiddorol Ian ydi fel y gall y blaid leiafrifol yrru'r agenda bolisi lle mae'r blaid honno gydag ideoleg gref, a bod y blaid fwyaf yn un bragmataidd, gyda'i phryd ar reoli yn annad dim arall.

    ae hyn yn ddigon gwir am ddylanwad Plaid Cymru ar Gyngor Sir Wrecsam...does gan y glymblaid Rh Dem ddim polisiau yn Wrecsam!

    ReplyDelete
  4. Mae hyn yn ddigon gwir am ddylanwad Plaid Cymru ar Gyngor Sir Wrecsam...does gan y glymblaid Rh Dem ddim polisiau yn Wrecsam!

    Ydi - dwi'n siwr ei fod yn wir. Mae dyladwad y Blaid yn gryf ar agenda polisi y llywodraeth yng Nghaerdydd. Ni chafodd y Lib Dems unrhyw ddyladwad ar gyfeiriad gwleidyddol y llywodraeth glymbleidiol gyntaf yng Nghaerdydd.

    ReplyDelete